– Senedd Cymru am 2:37 pm ar 25 Chwefror 2020.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny, Rebecca Evans.
Diolch, Lywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch yr uwchgynhadledd frys ar lifogydd. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn gwneud datganiad ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn darparu ar gyfer y datganiadau hyn, rwyf i wedi gohirio'r datganiad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tan yr wythnos nesaf, 3 Mawrth, a chynnydd ar y llwybr canser sengl tan 17 Mawrth. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch y tarfu ar ddysgu disgyblion a ddigwyddodd yn sgil y streic gan athrawon yn Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Gyfun Caerllion yng Nghasnewydd? Mae undebau'r athrawon yn dweud mai'r hyn sydd wedi ysgogi gweithredu diwydiannol yw adolygu'r cwricwlwm yng Nghymru. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol dros dro Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn dweud nad yw'r Undeb wedi clywed unrhyw ddadl argyhoeddiadol dros pam mae angen yr ailstrwythuro arfaethedig hwn. Mae Undeb Cenedlaethol Addysg Cymru yn dweud bod Ysgol Gyfun Caerllion wedi dioddef tanariannu hanesyddol a thoreithiog a bod y staff wedi gorfod dioddef ailstrwythuro a gweithdrefnau diswyddo yn rheolaidd am nifer o flynyddoedd. Maen nhw'n ofni gostyngiad yn y lefelau staffio, a'r cymorth ar gyfer plant ag anghenion arbennig yn cael ei ddiddymu. A gawn ni datganiad gan y Gweinidog ynghylch y camau y mae hi'n eu cymryd i dawelu ofnau undebau athrawon, fel bod modd osgoi tarfu ar addysg disgyblion yn y ddwy ysgol hyn yng Nghasnewydd? Diolch.
Diolch i Mohammad Asghar am godi ei bryderon ynghylch dwy ysgol benodol yng Nghasnewydd, ond efallai ar yr achlysur hwn, yn sicr yn y lle cyntaf, byddwn i'n ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn nodi'r pryderon hynny, fel y gall hi ystyried ymateb priodol i chi.
Mae'r mater yr wyf i'n dymuno ei godi heddiw yn ymwneud â Christopher Kapessa, bachgen du 13 oed y cafodd ei gorff ei ddarganfod yn Afon Cynon ger Fernhill y llynedd. Soniais am liw croen Christopher oherwydd bod ei deulu'n credu'n gryf ei fod yn ffactor ym mhenderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â dwyn erlyniad mewn cysylltiad â'i farwolaeth.
Daeth y penderfyniad er gwaethaf haeriad Gwasanaeth Erlyn y Goron bod, gan ddefnyddio eu geiriau eu hunain, 'digon o dystiolaeth' fod Christopher wedi ei wthio i'r afon. Mae teulu trallodus Christopher yn dweud ei bod hi'n ddigon posibl y byddai mwy o dystiolaeth i gyflwyno achos cryfach, pe byddai'r heddlu wedi cyfweld â mwy na dim ond pedwar o'r 14 o bobl a oedd yn y fan a'r lle pan fu farw. Mae'n anodd dadlau â honiad mam Christopher, Alina, pan ei bod hi'n dweud:
Pe byddai hyn wedi bod yn 14 o bobl ifanc du a dioddefwr gwyn nid oes gennym ni unrhyw amheuaeth y byddai agwedd yr heddlu a'r canlyniad wedi bod yn wahanol.
Gan fod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud. Fodd bynnag, ar adeg y digwyddiad, fe wnes i gyfleu pryderon y teulu gan annog, er yn anffurfiol, bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i'r mater, oherwydd bod cydlyniant cymunedol wedi ei ddatganoli, ac felly mae hwn yn achos a ddylai fod yn destun pryder i chi o'r safbwynt hwnnw.
Felly, pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu codi ar y mater hwn? Ac a wnaiff y Llywodraeth hon anfon datganiad clir bod pawb yng Nghymru yn gyfartal, y dylen nhw gael eu trin yn gyfartal, beth bynnag yw eu rhyw, eu tueddiad rhywiol a lliw eu croen, a bod pawb yn haeddu deall bod bywydau duon yn wirioneddol bwysig?
Diolch i Leanne Wood am godi'r hyn sy'n achos arbennig o erchyll a gofidus. Rwy'n cofio darllen am Christopher a theimlo bod y stori gyfan yr oeddwn i'n ei darllen yn gwbl arswydus ac erchyll.
Mae Leanne Wood yn iawn bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl, ond mae gan Lywodraeth Cymru, a gwn fod gan y Senedd hon yn ei chyfanrwydd, ddiddordeb cryf iawn mewn sicrhau ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb a pharch a Chymru gref ac amrywiol yma yn ein gwlad.
Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gysylltiadau â'r heddlu, a'r Gweinidog sydd hefyd yn gyfrifol am gydraddoldebau a chydlyniant cymunedol, roi rhywfaint o ystyriaeth i'ch sylwadau y prynhawn yma o ran beth yn rhagor y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo Cymru gref, gydlynus a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gyfartal, a beth arall allwn ni ei wneud i wthio'r neges honno ymlaen bod pawb yn haeddu cael eu trin yn gwbl gyfartal.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Byddai un datganiad gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar fater erydiad tir y tu ôl i derasau'r Cymoedd lle y ceir hen lonydd heb eu mabwysiadu ochr yn ochr â chyrsiau dŵr, sy'n bygwth erydu nid yn unig y lonydd ond gerddi cefn eiddo preifat.
Felly, yng Nghaerau yn fy etholaeth i, mae gennym ni res o dai teras â'u cefnau tuag at gwrs dŵr o'r fath a lôn heb ei mabwysiadu; y math o lonydd yr oedd hen wagenni’r cyngor, yn nyddiau'r wagenni bach hynny, yn mynd yn ôl ac ymlaen arnynt i fynd â'r biniau galfanedig i ffwrdd ac yn y blaen. Nid ydyn nhw'n eu defnyddio mwyach. Nid ydyn nhw wedi cael eu mabwysiadu. Nid ydyn nhw'n eiddo i neb, mae'n ymddangos yn awr, ond eto mae'r afon yn erydu. Yn ystod y stormydd diweddar, maen nhw wedi eu herydu fwyfwy tuag at gerddi cefn yr eiddo hyn. Mae'n dir y dadleir amdano, mae'n dir neb, nid oes neb eisiau gwneud unrhyw beth amdano, ond eto mae perchenogion y cartrefi yn poeni'n fawr.
Felly, a allem ni gael datganiad ynghylch yr hyn sy'n digwydd i'r tir neb hwn, mewn gwirionedd, o lonydd heb eu mabwysiadu ar gefnau eiddo lle mae nentydd, yn y mathau hyn o law trwm yr ydym ni wedi'i weld, bellach yn cael eu herydu ymaith a'r effaith ar eiddo? Neu efallai y gallai'r Gweinidog gwrdd â mi i drafod hyn, oherwydd rwy'n amau ei fod yn rhywbeth sy'n gyffredin ar draws ardal de Cymru.
A gaf i ofyn hefyd am ddatganiad ar fater croesfannau diogel ar ffyrdd A? Nawr, mae ffyrdd A, wrth gwrs, yn brif ffyrdd, mae'r traffig yn drwm arnyn nhw, dyna pam maen nhw'n ffyrdd A, maen nhw'n dramwyfeydd mawr. Ond yr anhawster yw, yn rhai o'n cymoedd, gan gynnwys fy un i yn y Llynfi, ond hefyd yn nwyrain fy etholaeth, dyma'r unig ffordd sy'n mynd i fyny'r Cwm hwnnw. Os nad yw pobl yn gallu croesi o un ochr lle maen nhw'n byw i fynd i'r siopau neu'r ysgol ar yr ochr arall oherwydd—. Yr esboniad sy'n cael ei roi yw nad yw'r canllawiau, fel arfer, yn caniatáu croesfannau diogel ar draws prif ffyrdd. Wel, byddai'n ddefnyddiol cael eglurder ar hynny. Os na chaf hynny, efallai y cawn i gyfarfod â'r Gweinidog, pe gallai'r rheolwr busnes, y Trefnydd, fy helpu i; cyfarfod â'r Gweinidog, trafod y broblem hon, a gofyn am eglurhad ar y canllawiau ar groesfannau ffordd diogel i gerddwyr ac eraill ar ffyrdd A yn y Cymoedd.
Diolch i Huw Irranca-Davies am godi'r ddau fater hyn. Roedd y cyntaf yn ymwneud â lonydd heb eu mabwysiadu, ac, wrth gwrs, mae'r Gweinidog, Ken Skates, yn gwneud darn o waith ar hyn o bryd sy'n ystyried ffyrdd heb eu mabwysiadu, ac rwyf yn siŵr y bydd llawer o'r gwersi y byddwn ni'n eu dysgu o'r darn penodol hwnnw o waith yr un mor berthnasol i'r mater o lonydd heb eu mabwysiadu.
Rydym ni wedi clywed llawer gan y Prif Weinidog heddiw ynghylch ein hymateb cyflym i'r llifogydd diweddar, ond y darn nesaf o waith, wrth i ni symud ymlaen o'r angen i ymateb ar unwaith i sefyllfa frys, fydd edrych ar y materion tymor hwy hynny. Wrth gwrs, cyfeiriodd y Prif Weinidog at strategaeth llifogydd Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd, a bydd hynny yn annog rhaglenni dalgylch ehangach a rheoli llifogydd mewn modd mwy naturiol, gan gydnabod y rhan y mae hynny'n ei chwarae wrth leihau llif dŵr ffo a llifoedd brig mewn afonydd ac ati. Felly, yn fy marn i, bydd rhywfaint o hynny hefyd yn berthnasol i'ch pryderon chi heddiw.
Ond, byddaf yn sicr yn ceisio trefnu cyfarfod gyda'r Gweinidog i sicrhau'r eglurder hwnnw yr hoffech chi ei gael o ran croesfannau ar brif ffyrdd, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn cysylltu â chi yn fuan i drefnu hynny.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr economi ynglŷn â pharc menter Sain Tathan, a'r maes glanio, yn arbennig? Roedd gan Lywodraeth Cymru gontract gyda Serco i ddarparu gwasanaeth rheoli traffig awyr bob dydd o'r wythnos fel y gallai gweithredwyr ddefnyddio'r maes awyr ar sail saith diwrnod yr wythnos. O'r hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae problem wedi codi wrth recriwtio rheolwyr traffig awyr sydd â chymwysterau addas, ac, felly, mae hynny wedi cyfyngu ar y defnydd o'r maes awyr, ac yn arbennig, colled o fusnes i rai o'r gweithredwyr sy'n gweithredu o'r cyfleusterau yno.
O 1 Ebrill ymlaen, mae Maes Awyr Caerdydd yn cymryd drosodd y rheolaeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf i, o'r gweithrediad penodol hwn a'r maes glanio ei hun, ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â mi, o gofio nad yw'r cyntaf o Ebrill ddim ond mis i ffwrdd erbyn hyn, y byddai'n amserol cyflwyno datganiad yn amlinellu pa iawndal, os o gwbl, sydd wedi ei dalu i weithredwyr ar y maes glanio oherwydd y diffyg darpariaeth saith diwrnod yr wythnos, pa arian sydd wedi ei adennill oddi wrth Serco oherwydd nad ydyn nhw wedi cyflawni eu contract, a pha welliannau a allai gael eu rhoi ar waith ar ôl i Faes Awyr Caerdydd gymryd cyfrifoldeb dros y gweithrediad, fel y gellid dwyn ymlaen y defnydd saith diwrnod yr wythnos o'r maes glanio.
Mae gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gwestiynau yfory yn y Senedd, felly efallai y byddai hwnnw'n gyfle da i godi'r pryderon penodol hynny ynghylch maes glanio Sain Tathan, ond, os na fydd hynny'n digwydd, byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o'ch cais am ddatganiad llawnach.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â pha gymorth a fydd ar gael i blant sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd diweddar. Mae hyn wedi effeithio ar gymunedau ledled fy rhanbarth i, yn Nhrefynwy, yn Nhrecelyn, yn Llanbradach a llawer o leoedd eraill.
Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thrigolion yn Stryd Edward yn Ystrad Mynach, a gafodd eu deffro am 2.30 a.m. gan gymydog a oedd yn digwydd bod ar ddihun i'w rhybuddio bod eu stryd yn gorlifo. Fe wnaethon nhw lwyddo i wneud yr hyn y gallen nhw, ond, yn amlwg, cafodd llawer iawn o ddifrod ei wneud i'w heiddo, a bydd yn cymryd misoedd i wneud y gwaith atgyweirio. Ond, ar wahân i'r difrod ffisegol a gafodd ei wneud i'r tai, yr hyn a oedd yn peri'r pryder mwyaf i'r trigolion oedd yr effaith a gafodd hyn ar eu plant—plant a oedd newydd gael eu trawmateiddio wrth weld eu cartrefi'n cael eu troi wyneb i waered; a gollodd deganau; sy'n gorfod aros i ffwrdd gyda pherthnasau a ffrindiau; plant a gollodd wisgoedd ysgol; ac nad oes ganddynt unman i wneud eu gwaith cartref nawr bod yr ysgolion wedi ail-ddechrau ar ôl y gwyliau. Ar un adeg, roedd un preswylydd yn ei dagrau yn dweud wrthyf i fod ei phlant yn aros gyda'u mam-gu a'u tad-cu ar hyn o bryd, ond eu bod nhw ofn dod adref o gwbl, oherwydd eu bod yn siŵr y bydd y llifogydd yn digwydd eto yng nghanol y nos.
Felly, rwy'n gofyn pa waith y gallai'r Llywodraeth ei wneud i weithio gyda chynghorau, gydag ysgolion ledled y rhanbarth i gydgysylltu unrhyw gymorth a chefnogaeth y byddai modd eu cynnig. Ond rwyf i hefyd yn gofyn beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud, pe bydden nhw'n ystyried sicrhau bod gwasanaethau cwnsela ar gael i blant nad ydyn nhw o oedran ysgol sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd, na fyddan nhw'n gallu manteisio o gwbl ar wasanaethau cymorth sydd ar gael mewn ysgolion, ond sydd, er hynny, angen gofal a thosturi, oherwydd pa mor ofnus a dryslyd y maen nhw. Bydd yr hyn sydd wedi digwydd wedi bod yn ergyd drom i bawb y mae'r llifogydd wedi effeithio arnyn nhw, ond mae'n rhaid ei fod yn arbennig o frawychus i blant. Byddwn i'n croesawu unrhyw gyfle i gwrdd â rhywun o'r Llywodraeth i drafod hyn. Diolch.
Diolch i Delyth Jewell am godi agwedd wirioneddol bwysig ar y llifogydd diweddar, a hynny yw y trallod y bydd yn ei achosi yn arbennig i blant ac i bobl ifanc hefyd, a allai, am yr holl resymau yr ydych chi wedi eu disgrifio, ei chael hi'n anodd i fynd adref a theimlo'n ddiogel yn y cartref. Felly, cafodd y pwyntiau a wnaethpwyd gennych eu gwneud yn dda iawn, ac mae gennym ni ddatganiad nesaf y prynhawn yma gan Weinidog yr amgylchedd. Er mai ymateb trawslywodraethol yw hwn i raddau helaeth, bydd y Gweinidog y prynhawn yma yn amlinellu rhai o'r pethau yr ydym ni wedi eu gwneud ym mhob rhan o'r Llywodraeth. Wrth gwrs, byddwn yn rhoi ystyriaeth i'ch pwyntiau chi wrth i ni symud ymlaen ar hyn.
A gaf fi ofyn am ddau ddatganiad, Gweinidog? Ddoe, cawsom ni'r newyddion gwych bod 100 o swyddi yn cael eu neilltuo yn William Hare yn Rhisga mewn gwaith dur ffabrigedig. Ond, mewn cyfweliad â'r darlledwyr newyddion, nododd y rheolwr gyfarwyddwr fod gweithfeydd Port Talbot yn rhan hanfodol o ddyfodol y diwydiant dur, nid yn unig yng Nghymru ond yn y DU. Nawr, rwy'n deall bod Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cael cyfarfod ar y cyngor dur gyda'r Ysgrifennydd Gwladol blaenorol. Ond, a gawn ni ddiweddariad o ran yr hyn a ddigwyddodd yn y cyfarfod cyngor dur hwnnw?
A allwch chi hefyd gynnwys yn y diweddariad hwnnw pa gynnydd sy'n cael ei wneud mewn trafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd i sicrhau, wrth i ni symud ymlaen, fod y gyllideb sydd ar ddod ymhen ychydig wythnosau mewn gwirionedd yn adlewyrchu ar y costau ynni uchel y mae diwydiannau fel y diwydiant dur yn eu hwynebu, a rhywbeth y gall Llywodraeth y DU ei wneud i sicrhau bod gan y diwydiant dur ddyfodol cryf yma yn y DU?
Yr ail un, mae gennyf i etholwr sydd wedi cwrdd â mi'n ddiweddar ynghylch mater anghydfod ffin. Mewn gwirionedd, fe ysgrifennodd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fe nododd ymateb gan swyddog—a'r geiriau oedd—bod anghydfodau ffin bellach yn gyfrifoldeb y cenhedloedd datganoledig. Nawr, nid wyf i'n ymwybodol o hynny, ond a gawn ni eglurder ynglŷn â swyddogaeth Llywodraeth Cymru mewn anghydfodau ffin, byddai hynny'n ddefnyddiol, fel fy mod i'n gallu mynd i'r afael â'r pwyntiau hynny pan ddaw materion i'm sylw. Roedd hynny o swyddfa Gweinidog y DU.
Diolch yn fawr i David Rees. Byddaf i'n sicr yn gwneud yn siŵr fy mod yn cysylltu â'm cydweithwyr i roi atebion manwl i chi i'r ddau bwynt hynny. O ran y cyntaf, sef cyfarfod y diwydiant dur, byddaf yn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniadau hwnnw a'r trafodaethau sydd wedi eu cynnal yn dilyn y cyfarfod penodol hwnnw. Wrth gwrs, mae gan Ken Skates gwestiynau yfory eto, felly gallai fod cyfleoedd i godi'r mater hwnnw gydag ef.
O ran mater y ffiniau hefyd, rwy'n gwybod y bydd y bod hi wedi trefnu sesiwn briffio manwl ar gyfer aelodau'r Cynulliad o'r arolygiaeth gynllunio, felly gallai hynny fod yn gyfle defnyddiol i ymchwilio i rai o'r materion hyn hefyd.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad ar gydnerthedd dŵr. Efallai eich bod chi'n gweld hynny'n beth rhyfedd i mi ei ofyn, o gofio llifogydd y cyfnod diweddar, felly efallai y dylwn i ddweud: cydnerthedd dŵr yfed ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod gennym ni ddatganiad ynghylch yr uwchgynhadledd frys ar lifogydd yn syth ar ôl y datganiad hwn. Rwy'n credu bod hwn yn fater a allai godi neu na allai godi yn ystod y datganiad hwnnw, Gweinidog, ond mae'n fater ar wahân y mae angen edrych arno.
Bu problem go fawr gyda gwaith trin dŵr Mayhill yn Nhrefynwy yr wythnos diwethaf, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn ymwybodol ohoni. Gorlifodd y llifogydd i'r gwaith trin dŵr. Nid oedd Dŵr Cymru yn gallu mynd i mewn i'r gwaith trin dŵr i'w drwsio, ac felly, yn y pen draw, bu'n rhaid iddyn nhw ddefnyddio tanceri eraill. Fe wnaethon nhw waith anhygoel o dda, a dweud y gwir, er gwaethaf y ffaith fod llawer o'r ffyrdd dan ddŵr, a bod y sefyllfa waethaf bosibl wedi ei hatal.
Fodd bynnag, tybed a allai'r Gweinidog, ar hyn o bryd, neu ar ôl i'r llifogydd leihau, edrych ar gydnerthedd dŵr yfed ledled Cymru i sicrhau, yn y dyfodol, bod modd ymdrin ag unrhyw fannau gwan yn y system fel gorsaf driniaeth Mayhill, fel bod pobl ledled Cymru yn gallu bod yn siŵr, pan fydd gennym ni achosion yn y dyfodol—fel y byddwn ni'n siŵr o'u cael, wrth i'r newid yn yr hinsawdd gynyddu—fel y llifogydd diweddar, bydd y system ddŵr yn gallu ymdopi.
Wel, rwy'n falch iawn bod y materion sy'n ymwneud â'r gwaith trin dŵr yr ydych chi wedi eu disgrifio wedi eu datrys erbyn hyn ond, wrth gwrs, mae'r Gweinidog wedi bod yma i glywed eich cais am ddatganiad ar gydnerthedd dŵr yfed yn ehangach.
Ac yn olaf, Bethan Sayed.
Roedd y datganiad cyntaf yr oeddwn i eisiau gofyn amdano gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r sīon yr ydym ni'n eu clywed gan Lywodraeth y DU y gall fod newidiadau i ffi trwydded y BBC, ac y gallai, efallai, newid i fod yn wasanaeth tanysgrifio. Rwy'n gwybod nad yw hyn i gyd wedi'i gadarnhau, ond wrth gwrs bydd gan hyn oblygiadau i Gymru o ran BBC Cymru a hefyd S4C, y bydd eu ffrwd ariannu gyfan yn cael ei symud yn fuan i ffi'r drwydded. A allwn ni gael datganiad ynglŷn â pha sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac yna, efallai, ynghylch sut y gallen nhw fod yn ystyried dewisiadau eraill o ran sut y gallai Cymru a darlledu yn gyffredinol fod yn edrych ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru.
Mae fy ail gais am ddatganiad yn ymwneud â chais i Weinidog yr amgylchedd am ddatganiad ar adfer safleoedd mwyngloddio brig. Rwy'n gofyn hyn oherwydd, yn yr wythnos ddiwethaf, nid yw'n ymwneud yn uniongyrchol â llifogydd, ond y gwagle ym Mynydd Cynffig yr oedd Celtic Energy wedi'i adael—mae'n ddŵr sydd crynhoi oherwydd bod Celtic Energy wedi gadael heb adfer yr holl safle. Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud nad ydyn nhw'n gallu fforddio ei adfer yn llawn, ac maen nhw wedi dweud, yng ngoleuni'r llifogydd, ei fod yn ddiogel, ac rwyf i wedi ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i gadarnhau hynny, ond y pwynt ehangach yw bod angen i ni sicrhau bod yr holl safleoedd mwyngloddio brig hyn yn cael eu hadfer, ac nid yw hynny'n digwydd, a byddwn i'n annog y Llywodraeth i roi datganiad i ni ynglŷn â pha gynllunio sydd ganddyn nhw mewn golwg ar gyfer y dyfodol i helpu i sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn cael eu gwneud yn naturiol unwaith eto fel nad ydyn ni'n cael ein gadael gyda'r tyllau mawr hyn yn y ddaear.
Diolch am grybwyll y ddau fater yna. Mae ffi drwydded y BBC yn fater sy'n codi ei ben yn gyson, ac rwy'n gwybod fod y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol iawn o'r trafodaethau a'r materion cysylltiedig. Rwy'n gwybod, maes o law, os oes diweddariad i'w roi ichi, y byddwn yn sicr yn awyddus i wneud hynny. Clywodd Gweinidog yr Amgylchedd eich cais am ddatganiad ynglŷn ag ail-ddechrau cloddio glo brig, ac mae hi'n dweud, fel cam cyntaf, a fyddech chi gystal ag ysgrifennu ati er mwyn iddi ymateb yn llawn i'r pryderon penodol hynny yr ydych chi wedi'u crybwyll.
Diolch i'r Trefnydd.