Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 25 Chwefror 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad hwn, a manteisio ar y cyfle hwn hefyd i grybwyll mater y cyllid a addawyd ar gyfer y rhai a ddioddefodd o achos y llifogydd. Mae gennym ni sefyllfa argyfyngus yn Aberconwy o hyd. Yn ystod storm Ciara, effeithiwyd ar tua 10 eiddo ym Metws-y-coed a 60 yn Llanrwst, ar 9 Chwefror. Yna cawsom storm Dennis, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest, y gymuned yn dod ynghyd yn wyneb hynny a rwystrodd fwy o ddinistr yn hynny o beth, a'r gwasanaethau brys. Ond eto, y penwythnos hwn, gwelsom ffyrdd yn diflannu dan ddŵr a Llanrwst yn teimlo bron yn ynysig.
Nawr, byddwch yn ymwybodol, Gweinidog, fy mod wedi gofyn i chi, ar 11 Chwefror, pa gyllid a fyddai ar gael i'r awdurdod lleol a'r trigolion i helpu gyda'r gwaith glanhau, ac ysgrifennais hefyd at y Gweinidog Cyllid am gymorth ariannol brys ar 14 Chwefror. Eto i gyd, cymerodd y Prif Weinidog tan 18 Chwefror i gyhoeddi y byddai cynllun cefnogaeth o arian brys yn cael ei greu. A dim ond ddoe roedd modd ymgeisio am hynny. Dim ond ddoe roedd ffurflenni ar gael.
Felly, gallwch ddeall bod fy nhrigolion yn Aberconwy yn teimlo'n rhwystredig iawn gan ei bod yn ymddangos bod y Prif Weinidog—ac fe wnaf i ddweud ymddangos, neu ei fod fel pe bai—wedi dewis aros tan ar ôl storm Dennis i wneud unrhyw beth. Ar ran fy—[Torri ar draws.] Felly, pam mai dim ond ddoe yr oedd y ffurflenni ar gael? I'm hetholwyr i, mae hynny'n golygu y buont yn aros dros 15 diwrnod am gymorth ariannol brys. I rai heb yswiriant, mae hynny dros bythefnos cyn gellid hyd yn oed dechrau mynd i'r afael â—[Torri ar draws.] Gallwch weiddi faint fynnoch chi, dyna'n union sydd wedi digwydd.
Dim ond glanhau heb unrhyw gemegau sydd wedi digwydd ar rai ystadau sydd wedi dioddef llifogydd. Mae gennyf i blant yn fy etholaeth i y mae'n rhaid iddyn nhw fyw i fyny'r grisiau o hyd gan mai dim ond golchiad syml efo peiriant chwistrellu dŵr y maen nhw wedi ei gael, ond roedd llaid carthion yn rhedeg drwy'r cartrefi hynny. Mae o leiaf dri busnes heb yswiriant bellach wedi rhoi'r gorau i fasnachu, ac mae eraill yn parhau i frwydro am eu dyfodol. Mae llawer o etholwyr wedi bod yn ymdrechu'n daer i gael gafael ar unrhyw gymorth ariannol a addawyd.
Ond mae ymateb y gymuned i'w ple wedi bod yn eithriadol. Mae llawer ohonom ni wedi gwneud ymdrech i fod wrth law, i helpu lle y gallwn ni, boed hynny drwy gysylltu â'r awdurdod lleol—. Ac mae'n rhaid i mi roi clod i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu hymdrechion mawr yn ystod storm Dennis, i sicrhau nad effeithiwyd eto ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw eisoes.
Er fy mod yn ddiolchgar am y ffaith y bydd pob cartref yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd ledled Cymru yn cael £500 yn dechnegol, £1,000 o bosib, ar gyfer y rheini sydd heb yswiriant tŷ, dim ond diferyn yn y môr ydyw. Roedd gennyf breswylydd ar y ffôn ddoe, mae hi wedi colli ei busnes, ei chartref, a'i char. Nid oes ganddi ddim byd ar ôl, wrth inni siarad heddiw.
Felly, Gweinidog, pam y cymerodd hi tan ar ôl storm Dennis i'r Prif Weinidog gyhoeddi cymorth ariannol i unigolion a effeithiwyd gan storm Ciara? A ellir ystyried cynyddu faint o gymorth ariannol sydd ar gael mewn amgylchiadau eithriadol? Pa gymorth brys fydd ar gael i'n ffermydd a ddioddefodd lifogydd, a gollodd eu da byw? Nid oes sôn am hynny yn eich datganiad. Ac a fydd arian ar gael i helpu dadwneud difrod i'n hadeiladau rhestredig, gwerthfawr, hanesyddol? Ac fe wyddoch chi at beth rwy'n cyfeirio wrth ddweud hyn: Castell a gerddi Gwydir. Mae'r annhegwch a achoswyd iddynt yn anferthol.
Mae'n hysbys fy mod eisiau gweld ymchwiliad annibynnol i fesurau lliniaru llifogydd yn Aberconwy, oherwydd cawsom ein boddi ym mis Rhagfyr 2015, fis Mawrth y llynedd, storm Ciara, a mwy o effeithiau o storm Dennis. Dywedodd Llywodraeth Cymru—. Fe wnaethoch chi ddweud yn ymateb i'm cwestiwn, 'dim adolygiadau pellach'. Mae pobl yn Llanrwst yn teimlo nad oes gennych chi ddiddordeb, Gweinidog. [Torri ar draws.] Rwyf wedi gofyn pedwar cwestiwn.
Gofynnaf nawr: a wnewch chi weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ailasesu'r posibiliadau a gynigiwyd yn flaenorol ac a wrthodwyd? Ac ategaf yr hyn y mae Mandy Jones wedi'i ddweud draw yn y fan yna: mae pobl yn credu y dylai afon Conwy, na fu erioed mor uchel, gael cynllun lliniaru perygl llifogydd sy'n cael ei roi ar waith o ran carthu'r gwely, neu ryw fath o gefnogaeth i'r afon honno. Diolch.