Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch. Credaf y bydd gwersi i'w dysgu o'r ddwy storm hyn, ond credaf fod yn rhaid inni dderbyn—fe wnaethoch chi ddweud nad oeddech wedi gweld glaw tebyg—cawsom fis o law mewn llai na 24 awr. Felly, rwy'n credu bod angen i ni gofio hynny.
O ran cynlluniau atal llifogydd a lliniaru llifogydd yn y dyfodol, mae tua 25 ar y gweill, ac mae hynny ledled Cymru. Yr awdurdodau lleol sy'n gorfod cyflwyno gwaith paratoadol mewn cysylltiad ag achosion busnes ar gyfer cynlluniau o'r fath. Mae gennyf 25 ar y gweill, ac ychydig cyn y ddwy storm hyn, roeddwn i wedi gofyn am adolygiad cyflym o'r cynlluniau hynny i weld pa rai y gallem ni eu cyflwyno. Mae'n hynod bwysig, yn amlwg, bod gan awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru y gallu i gyflawni'r cynlluniau hyn yn ystod blwyddyn y cyllid a ddarperir.
Roeddech yn beirniadu Cyngor Sir Ddinbych. Awgrymaf eich bod yn ysgrifennu atynt. Os ydych eisiau fy nghynnwys yn yr ohebiaeth, gallaf rannu hynny â nhw.