Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi ddweud ar goedd fy mod yn cydymdeimlo â thrigolion fy etholaeth, lle na welsom ni lifogydd tebyg i'r hyn a welwyd yn Rhondda Cynon Taf, ond gwelsom lifogydd yn Nhroedyrhiw, Pentrebach, Aberfan, Mynwent y Crynwyr, Pontsticill, Heolgerrig, Tir-Phil a'r Deri, ac nid rhywbeth dibwys oedd hynny i'r unigolion hynny yr effeithiwyd arnynt, fel rwy'n siŵr eich bod yn sylweddoli.
Mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a'r pwyntiau yr oeddwn eisiau eu crybwyll, Gweinidog, wedi'u crybwyll bellach, ond mae un peth yr oeddwn eisiau ei grybwyll. Byddwch yn sylweddoli bod hanes ingol a phoenus iawn i dirlithriadau yn fy etholaeth i, ac rydych chi wedi sôn am y gwaith sy'n cael ei wneud ar domenni glo, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n llwyr. Ond roedd gennyf gymuned gyfan yn Nhroedyrhiw y bu'n rhaid iddynt adael y pentref oherwydd tirlithriadau yn Nhroedyrhiw, ond nid oeddent mewn gwirionedd yn ymwneud â thomenni glo; roedd a wnelo hynny yn llythrennol â thopograffi'r Cwm. Ceir bryniau serth iawn sy'n rhedeg yr holl ffordd drwy ein cymoedd—rhai ohonynt heb fod yn gysylltiedig â thomenni glo. Ond roedd y bryniau hynny, llethrau'r mynyddoedd hynny, mor wlyb, ac mae ganddyn nhw nentydd ac afonydd yn rhedeg drwyddyn nhw, fel na allent ddygymod â chyfaint y dŵr, a llithrodd y tir, a bu raid i ni symud llawer o drigolion o'u cartrefi yn Nhroedyrhiw. Felly, fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, yw, yn ogystal â'r hyn sy'n cael ei wneud ynghylch tomenni glo, beth allwn ni ei wneud i edrych ar dopograffeg gyffredinol a sefydlogrwydd y bryniau, gan nad eithriad yw hyn? Mae hyn yn mynd i ddigwydd eto, ac mae angen inni ddod o hyd i ryw ffordd o sicrhau bod y llethrau serth hynny mor ddiogel ag y gallan nhw fod pan fydd y glaw trwm yn dod eto.