Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 25 Chwefror 2020.
Hoffwn hefyd ategu a hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau brys a'r pentrefi lleol, ar ran fy mhlaid, am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud dros y penwythnosau diwethaf a'u gwaith parhaus o ran dod yn ôl i drefn.
Un peth y gallwn ei ddysgu o'r ychydig wythnosau diwethaf yw bod angen adolygu'r gefnogaeth gan y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru nawr. Gweinidog, mae llawer o etholwyr wedi bod yn anfon negeseuon e-bost ataf ynglŷn â'r diffyg cefnogaeth gan awdurdodau lleol yn ystod y llifogydd. A fydd Llywodraeth Cymru nawr yn adolygu cynlluniau gweithredu a chanllawiau ar gyfer atal llifogydd? Oherwydd un peth y gallwn fod yn sicr ohono yw y gallwn ni, ac y byddwn ni, yn gweld glaw o'r math hwn eto.
Gweinidog, cytunaf fod rheoli'r perygl o lifogydd yn fwy na dim ond adeiladu amddiffynfeydd uwch a chryfach, ond rhaid gwella hefyd y modd yr ydym yn darparu cymorth, a sut y rhoddir gwybod i drigolion a busnesau am y cymorth sydd ar gael. Siaradais â nifer o ffermwyr sy'n meddwl tybed a allai Cyfoeth Naturiol Cymru edrych ar y ffordd y rhoddir rhybuddion llifogydd i'w helpu, oherwydd cafodd llifogydd effaith enfawr ar eu busnesau. Fe wnaethoch chi sôn hefyd am gynlluniau'r dyfodol yn eich datganiad. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, y bydd gan ardaloedd gwledig gynllun i helpu awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hyn ledled Cymru, os gwelwch yn dda?
Yn fy mhentref fy hun, llifodd dŵr i gartrefi a busnesau pan, mewn gwirionedd, ymunodd nant fechan a oedd yn rhedeg drwy'r pentref â'r llifddyfroedd a ddoi i lawr o'r mynyddoedd. Rhuthrodd y dŵr i'r pentref. Nid yw'r Cyngor Sir—fe wnes i gysylltu â nhw ar ran y pentrefi cyn hynny, oherwydd gallem weld y dŵr yn codi—wedi rhoi bagiau tywod i drigolion dros y blynyddoedd diwethaf, Cyngor Sir Ddinbych, ac nid oedd ganddynt ddiddordeb mewn gwirionedd, er imi ofyn amdanynt ar gyfer y pentrefi, gan fod y dŵr yn llifo i'r tai a'r busnesau lleol.
Cafodd fy nau bentref, y naill ochr a'r llall i'r lle rwy'n byw, eu hynysu'n llwyr. Pe na bai'r bobl leol wedi cyd-dynnu, byddai wedi bod yn llawer gwaeth i'r holl drigolion yno. Rwyf wedi gyrru ar hyd y ffyrdd hynny ers 1986, ac nid wyf wedi gweld dŵr fel hwnnw fy hun. Cafodd y ceunentydd eu clirio'n gynharach eleni, ond cyn pen dim o dro roeddent yn llawn oherwydd y rwbel a'r creigiau a oedd yn llifo o'r ffyrdd mynydd.
Mae'r Afon Ddyfrdwy wedi llifo dros yr holl gaeau hyd at y priffyrdd rhwng y pentrefi a thu hwnt dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae diffyg carthu gwely'r afon yn bendant yn cael ei feio am hyn. A allwn ni ailgychwyn carthu afonydd cyn gynted â phosib, gan fod hyn yn hanfodol os yw ein hafonydd i lifo'n ddwfn ac yn llyfn, a fydd yn helpu i liniaru llifogydd yn y dyfodol os gwneir hynny'n rheolaidd? Diolch.