Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna, David Melding. O ran y pwynt ynghylch yswiriant, fe wnes i'r pwynt yn fyr iawn yn y datganiad ein bod ni'n cydweithredu â chyfres o grwpiau diddordeb arbennig ledled y DU, a bod yswirwyr yn un o'r grwpiau hynny, oherwydd mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd y gall pobl gael morgeisi a bod y gwarantau yn briodol. Ac mae yna broblem fawr gyda safonau'r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni (ISO) a'r angen i'w diweddaru ar gyfer dulliau modern o adeiladu. Felly, fe gafodd rhai o safonau'r ISO eu gwneud yn ôl yn y 1970au, pan nad oedd y pethau hyn yn bodoli. Ac, mewn gwirionedd, nid yw'r elfennau carbon-niwtral sydd yn hyn yn cydymffurfio â safonau'r ISO yn aml, am bob math o resymau da iawn. Felly, mae cryn dipyn o waith eto i'w wneud. A dyna pam y bydd strategaeth weithredu i ddilyn a bydd angen inni sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa iawn ar gyfer hynny, ac, yn ddigon amlwg, fe fyddem ni'n dymuno i bobl allu gweithio ledled y DU—ac, mewn gwirionedd, ledled Ewrop ac ati—o sylfaen weithgynhyrchu yng Nghymru. Ac felly mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n gosod y safonau sy'n addas ar gyfer y sector. Felly, nid wyf i'n anghytuno â dim o hynny.
Rwy'n derbyn y pwynt am y gwaith manwl ynglŷn â chydosod ac adeiladu, ond un o'r pethau a wnaeth fy nharo i pan ymwelais â Hale Construction yn etholaeth Jeremy Miles ddoe—rwyf i wedi ymweld â nifer o'r ffatrïoedd hyn ac mae'r un peth ym mhob un ohonyn nhw—oedd, wrth gwrs, y ceir goruchwyliaeth lawer dwysach ar bob cam o'r adeiladu wrth iddo fynd yn ei flaen. Ac, yn anffodus, rydym wedi gweld, gyda dulliau traddodiadol o adeiladu a'r holl risgiau tân yr ydym ni wedi eu trafod sawl gwaith yn y Siambr hon, nad yw'r oruchwyliaeth honno'n bodoli ar y safle adeiladu traddodiadol—am bob math o resymau da, ond nid yw yno—ac felly, mewn gwirionedd, daeth llawer o namau yn amlwg wedyn, tra bod y broses hon mewn gwirionedd yn tynnu sylw at y namau hynny ar unwaith. Dangoswyd inni ddoe chwistrelliad o inswleiddio i mewn i banel, er enghraifft, ac mae'n amlwg iawn bod gwneud hynny dan do, lle mae'n sych, gan ddefnyddio system chwistrellu, yn golygu ei fod yn mynd i mewn i bob twll a chornel ac yn cael gwared â'r holl aer a phopeth arall, ond nid yw hynny'n wir pan mae'n cael ei wneud â system chwistrellu allan ar y safle. Felly, ceir llawer o fanteision. Ond ceir ambell i anfantais hefyd, siŵr o fod.
Y peth arall oedd ei bod hi'n tywallt y glaw bore ddoe, ac roedd—. Roedd y tywydd yn arw ofnadwy, fel y clywsom yn ystod y rhan gyntaf o fusnes y prynhawn yma, ac roedd y ffatri'n gweithredu'n llawn. Roeddwn i wedi mynd heibio sawl safle adeiladu ar y ffordd i'r ymweliad, a gwn fod tai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu arnyn nhw, ac roedd pob un ohonyn nhw ar stop, oherwydd bod y tywydd yn drybeilig ac na allai dim ddigwydd yno. Ond roedd y ffatri hon yn gweithredu'n llawn, ac roedd pob aelod staff yno'n gynnes ac yn sych ac yn gwneud ei waith fel arfer. Felly, mewn gwirionedd, nid peth dibwys mo hynny mewn argyfwng hinsawdd ac mewn gwlad fel ein gwlad ni. Dangoswyd inni ddoe hefyd fod rhan helaeth o'r adeiladwaith yn dal dŵr ar unwaith. Felly, hyd yn oed os ydych chi'n ei gydosod ar y safle, mae'n parhau i ddal dŵr—mae'r paneli'n dal dŵr, ac yn y blaen. Felly, ceir llawer o fanteision i wlad fel hon.
A'r peth olaf y dymunaf ei groesawu yw eich bod wedi dweud bod cyfle i ddiwydiant coed Cymru, oherwydd credaf fod hwn yn bwynt pwysig o ran y broblem gyda llifogydd a oedd gennym ni'n gynharach. Mae'n amlwg bod angen plannu llawer mwy o goed—coed sy'n amsugno dŵr; mae angen eu plannu nhw ar flaenau dyfrffosydd ac yn y blaen. Maen nhw'n amsugno dŵr, maen nhw'n atal llawer o'r llifogydd hyn, maen nhw'n dal y pridd yn ei le, maen nhw'n atal mynyddoedd rhag symud ac yn y blaen. Ond fe allwch chi gynaeafu'r coed hynny hefyd oherwydd, os ydych chi'n gwneud hyn yn iawn, nid ydych chi'n torri'r cyfan i lawr—yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yw dethol rhywogaethau o goed i'w torri o goedwig sy'n bodoli eisoes, heb effeithio ar ddŵr ffo nac erydiad y pridd ac yn y blaen. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw bod yn llawer callach o ran sut y defnyddiwn ein coedwigoedd fel eu bod yn parhau i fod yn goedwigoedd, ond yn gnwd adnewyddadwy hefyd i'n diwydiant coed ni yng Nghymru. Fe fyddai hynny'n gynhaliaeth i lawer mwy o bobl oddi ar yr erwau hynny o dir na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.