Part of 9. Cwestiwn Amserol 2 – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 26 Chwefror 2020.
Mae'r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd wedi cael ei ddiweddaru ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi diweddariad dyddiol ar eu gwefan am 3 p.m. Ni ddylai unrhyw un a allai fod wedi'i effeithio gan newid yn y cyngor fynychu eu meddygfa na mynd i adrannau achosion brys ysbytai, ond dylent ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu 111 Cymru. Mae'r cyngor hwnnw, wrth gwrs, yn berthnasol i bobl sy'n dychwelyd o wledydd penodol yn Ewrop a'r byd ehangach.