9. Cwestiwn Amserol 2 – Senedd Cymru ar 26 Chwefror 2020.
2. Yng ngoleuni'r cynnydd diweddar yn y coronafeirws ar draws Ewrop, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf i bobl yng Nghymru? 398
Mae'r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd wedi cael ei ddiweddaru ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi diweddariad dyddiol ar eu gwefan am 3 p.m. Ni ddylai unrhyw un a allai fod wedi'i effeithio gan newid yn y cyngor fynychu eu meddygfa na mynd i adrannau achosion brys ysbytai, ond dylent ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu 111 Cymru. Mae'r cyngor hwnnw, wrth gwrs, yn berthnasol i bobl sy'n dychwelyd o wledydd penodol yn Ewrop a'r byd ehangach.
Diolch am y diweddariad hwnnw, Weinidog. Rwy'n deall eich bod wedi cael trafodaethau gyda chydweithwyr eraill o amgylch gweddill y DU y prynhawn yma. O'r trafodaethau hynny, adroddwyd yn y wasg heddiw, yn sicr mewn rhai rhannau o'r DU, y bydd sgrinio ar hap yn digwydd yn awr ar gyfer coronafeirws mewn meddygfeydd ac ysbytai. Nid yw'n ymddangos bod y rhestr a welais yn cynnwys unrhyw ysbytai na chanolfannau meddygon teulu yng Nghymru. A ydych mewn sefyllfa i gadarnhau a yw Cymru wrthi'n ystyried sgrinio ar hap ar gyfer coronafeirws, fel yr adroddwyd yn y cyfryngau heddiw?
A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn y gallai teithwyr Cymru ei wynebu ar draws y cyfandir, o gofio bod rhai ardaloedd wedi'u cau a chyfnod ynysu wedi'i osod? A allwch gadarnhau, os gwelwn achosion o'r coronafeirws yma yng Nghymru, y byddem yn gweld camau tebyg i'r hyn a welsom yn yr Eidal neu rannau eraill o'r byd wrth ymdrin â'r achosion, pe bai hynny'n digwydd, a'r effaith y mae hynny'n debygol o'i chael ar wasanaethau yn fwy cyffredinol, megis y gwasanaeth iechyd o ran ei waith o ddydd i ddydd?
Wel, edrychwch, credaf fod tri chwestiwn penodol yn y fan honno, ac i ymdrin â'r mater sy'n ymwneud â gwladolion o Brydain, y gallai rhai ohonynt fod yn drigolion o Gymru, ac yn wir, trigolion o Gymru nad ydynt yn wladolion Prydeinig a allai fod wedi'u dal yn yr ardaloedd ynysu cwarantîn posibl a welwyd mewn nifer o rannau o Ewrop lle maent yn ceisio ffrwyno lledaeniad coronafeirws, ceir sgwrs reolaidd ac adeiladol rhwng pedair Llywodraeth y DU, yn enwedig â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ynglŷn â faint o Brydeinwyr yr effeithiwyd arnynt, ble maent a'r cymorth a ddarperir iddynt. Mae hon, wrth gwrs, yn sefyllfa sy'n datblygu ac nid ni sy'n gyfrifol am ble mae awdurdodau eraill yn gwneud dewisiadau ynglŷn ag ynysu unigolion neu gymunedau.
Ar y pwynt a wnaethoch am sgrinio ar hap, buaswn yn cynghori'r Aelod i ddychwelyd at y cyngor a ddarperir, nid yn unig gennyf fi yn y datganiad wythnosol a ddarparaf, ond gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn ei ddatganiad wythnosol a'r cyngor dyddiol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid ydym yn gweithredu sgrinio ar hap ar unrhyw bwynt yn ein system. Rydym yn edrych ar ddull wedi'i dargedu o ymdrin â phobl sy'n wynebu risg ac fel y dywedaf, yn y cyngor a roddwyd, lle mae pobl yn dychwelyd ar ôl bod yn teithio mewn rhannau penodol o'r byd, o fewn amserlen benodol, os oes ganddynt symptomau—peswch, dolur gwddf, annwyd neu symptomau tebyg i ffliw—dylent hunanynysu a chysylltu â'r gwasanaeth iechyd gwladol a chânt gyngor ac arweiniad ganddynt. Dyna'r peth iawn i'w wneud. Os bydd y cyngor yn newid am fod newid yn y ffordd y caiff ei drosglwyddo, byddwn yn gwneud hynny'n gwbl glir.
Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n ddefnyddiol am hyn, ac mae hyn yn ymwneud â'ch pwynt ehangach ynglŷn â'r posibilrwydd o drosglwyddo'n fwy eang—ac nid wyf am roi cyfres o'r hyn a allai fod yn ddamcaniaethu di-fudd, ond er mwyn bod yn glir iawn, mae pedair Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd. Mae'n bwysig iawn fod hynny wedi ei ategu gan ymdrech ar y cyd rhwng y pedwar prif swyddog meddygol ar draws y Deyrnas Unedig yn rhoi cyngor i Lywodraethau'r Deyrnas Unedig am yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud i ddiogelu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd yn briodol. Yn amlwg, os ceir newidiadau, nid mewn diweddariad wythnosol yn unig y byddant yn ymddangos, ond os bydd angen rhagor o newidiadau brys byddaf yn fwy na pharod i adrodd nid yn unig i'r lle hwn ond i'r cyhoedd yn ehangach hefyd.
Dim ond ychydig o gwestiynau—rwy'n ddiolchgar am y canllawiau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, ac rwy'n gofyn i chi egluro hyd yn oed yn gliriach i unigolion sy'n cysylltu â ni fel eu Haelodau etholedig ar rai materion. O ran hunanynysu, gofynnir i bobl hunanynysu wrth ddychwelyd o wledydd neu ranbarthau a enwyd. A wnewch chi gadarnhau bod hunanynysu yn golygu (a) ynysu eich hun p'un a ydych yn dangos symptomau ai peidio—symptomau tebyg i ffliw—a (b) fod hunanynysu yn golygu ynysu llwyr, os mynnwch, yn eich cartref eich hun, nid aros ymaith o'ch gweithle neu eich lle addysg yn unig a pharhau rywsut â'ch bywyd o ddydd i ddydd fel arall?
Yn ail, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig canllawiau neu o leiaf yn apelio ar gyflogwyr i fod yn gydymdeimladol ac yn gefnogol i'w gweithwyr, er enghraifft i hwyluso gweithio o adref—ar gyflog llawn, wrth gwrs, lle bo hynny'n bosibl, fel y gallai'r sefydliad hwn ei wneud, er enghraifft? I rywun sy'n gweithio mewn ffatri neu siop, gallai hynny fod yn anodd a gallai pobl wynebu trafferthion ariannol yn gynnar iawn pe baent yn cael eu gorfodi, mewn rhyw ffordd, i fynd heb dâl. Felly, bydd arnom angen y canllawiau hynny i gyflogwyr ynglŷn â sut y gallant fod yn gefnogol i'w gweithwyr.
Ie. Edrychwch, rwy'n cydnabod yr ail bwynt yn llwyr ynglŷn â bod eisiau darparu arweiniad a nodi rhai disgwyliadau ynglŷn â sut y dylai busnesau ymddwyn. Ond wrth gwrs, nid oes gennym bwerau penodol i orfodi busnesau i wneud hynny, ac mae hon yn sgwrs weithredol rhwng pedair Llywodraeth y DU yn ogystal â'r awydd i sicrhau ymagwedd mor gyson â phosibl o ran y cyngor a'r arweiniad a roddwn.
Ar y pwynt am hunanynysu, credaf mai'r peth mwyaf defnyddiol i'w wneud yw ailadrodd y cyngor a roddwyd—fod hunanynysu yn golygu aros i mewn ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud pe bai'r ffliw arnoch, a negeseuon syml ynglŷn ag 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa' i'w gwneud yn glir nad ydych yn rhoi cyfle i'w drosglwyddo, yn yr union ffordd yn union ag y gwnawn gyda'r ymgyrch ffliw dymhorol bob blwyddyn, i ymddwyn fel pe baech wedi dal y ffliw—ac mae'r pwynt hwnnw, rwy'n credu, wedi'i wneud yn dda—ac i gysylltu o bell a pheidio â mynd i gyfleuster gwasanaeth iechyd gwladol os oes gennych symptomau a'ch bod chi wedi dychwelyd o un o'r ardaloedd teithio penodol. Ac o fewn hynny, mae'r cyngor yn amrywio, ac felly rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i bobl sy'n pryderu edrych ar y cyngor sydd ar gael. Os ydych chi wedi dychwelyd o ran benodol o'r byd—. Os ydych wedi dychwelyd o rai gwledydd o fewn y 14 diwrnod diwethaf—ers 19 Chwefror, o ardaloedd penodol—hyd yn oed os nad oes symptomau gan bobl, gofynnir iddynt hunanynysu. Ond mae hynny'n benodol iawn: mae'n ymwneud ag Iran a threfi penodol lle gosodwyd cyfyngiadau ar fynediad yng ngogledd yr Eidal a pharthau gofal arbennig yn Ne Korea—yn yr amgylchiadau hynny, dylech hunanynysu. Ond mewn ardaloedd eraill, os ydych wedi dychwelyd ac yn cael symptomau, dylech wneud yn siŵr eich bod yn hunanynysu, ond nid oes angen hunanynysu os ydych chi wedi bod yn teithio drwy Fietnam er enghraifft, ond nad oes gennych symptomau.
Felly, mae'n bwysig edrych ar y cyngor a'i ddilyn, a dyna'r ffordd orau i bobl ymddwyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth y gallem ac y dylem ei wneud i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn briodol mewn cyfnod lle rydym yn dal i edrych ar y posibilrwydd o gyfyngu ar y coronafeirws. Pe bai hynny'n newid, sef y pwynt olaf a wnaeth Andrew R.T. Davies, byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad pellach i bobl yng Nghymru, ond wrth gwrs, byddwn yn ceisio sicrhau bod neges gyson ar draws y Deyrnas Unedig.
Diolch i'r Gweinidog.