Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Felly, mae Brexit wedi'i wneud. Nid yw'r DU yn aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd mwyach. Yn yr ystyr honno, o leiaf, ystyr arwyddocaol iawn os nad un hanesyddol, mae canlyniad refferendwm 2016 wedi'i anrhydeddu o'r diwedd. Ond faint o wneud a wnaed? A beth sy'n digwydd nesaf? Er nad yw Brexit hyd yma wedi bod yn daith hawdd, mae llawer o'r gwaith go iawn a'r penderfyniadau caled o'n blaenau.
Yn y lle cyntaf, ceir negodiadau ynghylch ein perthynas newydd â'n partneriaid Ewropeaidd. Bydd hyn yn anochel yn golygu cyfaddawdu gan Lywodraeth y DU, ond hefyd yr UE. A gadewch inni roi clod lle mae'n ddyledus, mae'r Llywodraeth hon wedi mynd ymhellach i gryfhau ei safbwynt negodi na'r weinyddiaeth flaenorol. Os yw negodiadau'n mynd i fod yn llwyddiannus, rhaid gwneud i negodwyr Ewrop, gan gynnwys Macron, ddeall bod masnach rydd gyda'r DU yr un mor bwysig iddynt hwy, efallai'n fwy felly nag ydyw i'r DU. Mae'r DU yn masnachu ar ddiffyg o tua £70 biliwn gyda'r UE, sy'n golygu, wrth gwrs, bod gan economïau Ewrop yn gyffredinol fwy i'w golli mewn rhyfel masnach na'r DU. Wrth gwrs, bydd negodiadau'n digwydd yng nghyd-destun economïau'r UE sy'n methu. Crebachodd economïau Ffrainc a'r Eidal yn ystod tri mis olaf 2019, fel y gwnaeth economïau ardal yr ewro yn ei chyfanrwydd. Ar y llaw arall, tyfodd economi'r DU dros y cyfnod hwn, er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch Brexit.
Mae Ffrainc ei hun yng ngafael aflonyddwch diwydiannol a achoswyd gan ymgais Macron i ddod â system pensiwn Ffrainc—42 cynllun pensiwn gwahanol—dan reolaeth a chodi oedran pensiwn y wladwriaeth. Nid oes amheuaeth nad yw'r DU wedi bod yn sybsideiddio pensiynau gor-hael y wladwriaeth Ffrengig ers blynyddoedd lawer. Mewn cyferbyniad, mae pobl Prydain wedi derbyn, i raddau helaeth, fod oedran pensiwn yn codi, gan sylweddoli bod yr oedran y telir pensiynau ar hyn o bryd yn anghynaliadwy yn hirdymor. Mae'n sicr y byddai ein presenoldeb parhaus yn yr UE wedi golygu cynnydd yn ein cyfraniadau net, gan helpu'n anochel i sybsideiddio'r fath haelioni gan wledydd Ewrop. Er enghraifft, mae Sbaen yn talu i'w phensiynwyr fynd ar eu gwyliau am dair wythnos bob blwyddyn, tra bod ein pensiynwyr ni yn llythrennol yn marw oherwydd tlodi tanwydd.
Bydd mwyafrif cadarn y Llywodraeth yn rhoi diwedd ar y sefyllfa ddeddfwriaethol annatrys yn y ddwy flynedd a hanner diwethaf, a gallai cam 2 o broses Brexit fod yn llai llafurus yn San Steffan na cham 1. Ond rhaid peidio byth ag anghofio bod rhaniadau yn y DU a achoswyd wrth i'r chwith gwleidyddol gynghreirio â'u gelyn traddodiadol, yr elît a'r cyfoethog, i rwystro proses Brexit. Heb amheuaeth, gadawodd hyn flas cas yng nghegau eu cefnogwyr a fu mor ffyddlon yn flaenorol, fel y mynegwyd yn huawdl yng nghanlyniadau'r etholiad cyffredinol diweddaraf.
Brexit neu beidio, byddwn yn parhau i fod yn gymydog agos i Undeb Ewropeaidd nad yw ei ddyfodol yn glir o bell ffordd. Er y bydd Brexit yn peidio â bod yn eitem bwysig ar yr agenda ym Mrwsel, fel sydd eisoes wedi digwydd, mae'r UE yn wynebu trafferthion ei hun wrth ymdrin â phroblemau sy'n amrywio o'r modd y caiff ei ariannu yn y dyfodol i ymfudo ac ardal yr ewro.
Nid ydym ni yn y DU erioed wedi bod yn ymynyswyr. Rydym wedi bod, a bob amser yn mynd i fod yn wlad sy'n masnachu'n fyd-eang. Mae Brexit yn golygu y byddwn yn awr yn gallu masnachu â gweddill y byd o dan ein telerau ein hunain, nid rhai Brwsel. Masnach rydd yw un o'r cyfryngau mwyaf grymus wrth frwydro yn erbyn tlodi a newyn ym mhob rhan o'r byd. Roedd tariffau, cymorthdaliadau, rheoliadau cyfnewid a chysoni rheoleiddiol, fel y caent eu harfer gan yr UE, oll yn tanseilio masnach rydd.
Yn ddiau, collodd y DU filoedd o swyddi i wledydd Ewropeaidd eraill drwy ymyriadau grantiau rhanbarthol yr UE: ffatri geir Skoda newydd sbon a adeiladwyd yn y Weriniaeth Tsiec ar gyfer y cwmni moduron Almaenig Volkswagen â chyllid rhanbarthol yr UE, tra bod y ffatri geir Rover wedi'i gadael i gau, a'r eironi yw mai arian y DU, drwy gyfraniad net Prydain i'r UE, a helpodd i adeiladu'r ffatri yn y Weriniaeth Tsiec. Yn nes at adref, symudwyd ffatri Bosch ym Meisgyn i Hwngari—unwaith eto, gyda chefnogaeth cymorth Ewropeaidd.