Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 26 Chwefror 2020.
Dylid gwneud i gwmnïau sy'n masnachu ac yn gwneud elw enfawr yn y DU dalu treth ar eu nwyddau a'u gwasanaethau i Drysorlys y DU, nid i Drysorlys Iwerddon, sydd bellach yn digwydd gan ddefnyddio'r system gam o osgoi treth—system y dywedir ei bod yn cael ei defnyddio gan Amazon, Dell, Google, Starbucks, Facebook ac eraill i fanteisio ar gyfraddau treth gorfforaeth is Iwerddon. Felly, er bod yr elw enfawr a wneir gan y cwmnïau hyn yn cael ei gynhyrchu yn y DU, Iwerddon sy'n elwa o ran treth. Bydd y DU yn awr yn rhydd i wneud ei hymyriadau ei hun i liniaru'r broblem.
Felly, gadewch i ni ganolbwyntio mwy ar Gymru. Mae gwleidyddiaeth fel rydym yn ei hadnabod yn ailffurfio. Mae ideolegau y credid eu bod wedi hen farw yn ailymddangos. Ceir anhoffter cynyddol o'n gwleidyddion a'n sefydliadau. Ysgrifennwyd miliynau o eiriau yn cwyno am ansicrwydd yr amseroedd hyn, ond rydym ni ym Mhlaid Brexit yn credu bod cyfleoedd yn dod gydag ansicrwydd, yn enwedig i'r rheini sy'n barod i hyrwyddo gweledigaeth argyhoeddiadol a chadarnhaol. Credwn mai rôl Llywodraeth yw diogelu a hwyluso'r rhyddid i ffynnu, i ddarparu'r sylfaen a fydd yn rhyddhau'r sgiliau entrepreneuraidd y gwyddom eu bod yn bodoli—ac mae hynny'n cynnwys Llywodraeth Cymru. Mae'r pwerau sydd hyd yma wedi'u lleoli ym Mrwsel ac a fydd yn cael eu dychwelyd i Lywodraeth y DU cyn bo hir, ac y dylid eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru lle maent mewn meysydd sydd wedi'u datganoli—meysydd datganoledig fel pysgota, amaethyddiaeth a pholisi economaidd yng gyffredinol—gallai'r pwerau newydd hyn, o'u defnyddio'n ddoeth, helpu i ysgogi economi ddeinamig yng Nghymru.
Mae'n bryd i'r DU a Chymru fanteisio ar farchnadoedd y byd, yn enwedig gwledydd y mae eu heconomïau'n tyfu'n gyflym—India, Tsieina a gweddill y dwyrain pell—yn ogystal â Chanada, UDA ac Awstralia. Rydym wedi dibynnu'n rhy hir ar farchnadoedd Ewropeaidd, sy'n crebachu ac nid yn ehangu. Mae'r ddeddfwriaeth sy'n tagu busnesau a weithredwyd gan Frwsel dros y degawdau diwethaf bellach yn gadael ei hôl. Mae economïau Ewrop yn farwaidd. Dywedir bod y broses o gychwyn busnesau newydd yn Ewrop yn fiwrocrataidd dros ben, sy'n golygu bod y sector busnesau bach a chanolig eu maint mewn gwledydd fel yr Almaen yn gyfran sylweddol lai o'r economi nag yn y DU. Mae hyn yn gwneud economi'r Almaen yn llawer mwy agored i newidiadau yn yr economi fyd-eang, oherwydd ei bod yn llawer mwy dibynnol ar allforion gan ei chwmnïau diwydiannol byd-eang mawr, yn enwedig ei chwmnïau cynhyrchu ceir.
Mae'r orddibyniaeth hon ar gwmnïau mawr hefyd yn golygu na all llawer o economïau Ewropeaidd ymateb i dueddiadau economaidd sy'n newid yn yr un ffordd ag y gall gwledydd mwy hyblyg, megis y DU, sydd â llawer iawn o fusnesau bach a chanolig. Mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn o ran BBaCh, gan ein bod yn llawer llai dibynnol ar sylfaen weithgynhyrchu cwmnïau mawr, yn enwedig gyda diflaniad diwydiannau traddodiadol fel glo a dur, er ei bod yn wir dweud bod dur yn chwarae rhan sylweddol yn economi Cymru a bod diwydiannau fel Airbus yn arbennig o bwysig i gefnogi miloedd o swyddi medrus iawn. Y sector sgiliau uchel hwn a ddylai fod yn ganolbwynt i ehangiad diwydiannol Cymru: dylai cwmnïau uwch-dechnoleg, brodorol yn ddelfrydol, fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru, ac yma rwy'n cydnabod ei bod yn ymdrechu'n ddygn i symud i'r cyfeiriad hwnnw. Rydym ni ym Mhlaid Brexit bob amser wedi gwerthfawrogi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gwmnïau fel Aston Martin Lagonda. Heb ddenu cwmnïau eiconig o'r fath, megis Aston Martin, ni allwn obeithio ehangu'r sector technoleg uwch yng Nghymru.
Mae'n wir, yn y tymor byr, y gall fod heriau sylweddol i rannau o economi Cymru. Efallai y bydd amaethyddiaeth yn gweld caledi o'r fath hyd nes y sefydlir marchnadoedd amgen ar gyfer eu cynnyrch. Mater i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw cefnogi'r sector amaeth a diwydiannau eraill yn ddigonol drwy'r cyfnod pontio hwn. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â synied yn rhy isel am y potensial enfawr y mae marchnadoedd fel Tsieina a'r dwyrain pell yn gyffredinol yn ei gynnig ar gyfer y cynnyrch o safon uchel y mae diwydiant ffermio Cymru yn ei gynhyrchu. Rwy'n hyderus y bydd Ewrop, ymhen ychydig flynyddoedd, yn cael ei ystyried yn farchnad gymharol fach i gynnyrch Cymru yn gyffredinol.
Mae cyfran yr UE o gynnyrch domestig gros y byd wedi gostwng yn sylweddol dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, i lawr o 30 y cant yn 1980 i 16 y cant yn unig heddiw, er bod 18 gwlad arall wedi ymuno â'r UE yn ystod y cyfnod hwnnw. Wrth gwrs, bydd colli'r DU, ail economi fwyaf yr UE, yn newid y ganran yn sylweddol hyd yn oed ymhellach. Mae'n bryd i ni ailymuno â gwledydd y Gymanwlad y gwnaethom gefnu arnynt i bob pwrpas dros 40 mlynedd yn ôl. Mae diaspora'r DU o gwmpas y byd yn enfawr. Mae'r fantais o gael Saesneg fel yr iaith a siaredir fwyaf yn y byd yn ddi-ben-draw. Mae'r farchnad yma i nwyddau'r DU; mater i'r gymuned fusnes yn ei chyfanrwydd, gyda chymorth sylweddol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yw manteisio'n llawn ar y cyfle hwn. Mae'r byd yn llythrennol yn agor o'n blaenau wedi inni ddiosg hualau'r Undeb Ewropeaidd.