Y Ganolfan Prawf Gyrru yng Nghaernarfon

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:55, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y nodwch, mae'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi bod yn negodi am leoliad arall yng Nghaernarfon, ar ystâd ddiwydiannol Cibyn. Ar ôl hynny, dywedasant fod symud i Wrecsam, 90 milltir o Gaernarfon, yn gynllun wrth gefn, ac mae swyddogion yn parhau i chwilio am safleoedd eraill, fel y nodwch, yng Nghaernarfon, ar ôl methu dod o hyd i'r hyn a ddisgrifiant fel lleoliad, ac y dylid archebu profion gyrru ar y safle presennol hyd nes y ceir rhybudd pellach. Pa gymorth, os o gwbl, y gall Llywodraeth Cymru ei ddarparu, nid yn unig i ddeall pam yr ystyrir fod y safle ar ystâd ddiwydiannol Cibyn yn anaddas, ac a ellir unioni hynny, ond hefyd efallai o ran nodi, neu helpu i nodi, safleoedd addas eraill er mwyn cadw'r ganolfan yng Nghaernarfon neu'r cyffiniau?