Y Ganolfan Prawf Gyrru yng Nghaernarfon

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:56, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae ein tîm rhanbarthol yng ngogledd Cymru yn barod i gynorthwyo'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau i ganfod safle arall yng Nghaernarfon. Mae Busnes Cymru hefyd yn barod i wneud hynny, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda chyngor sir Gwynedd i asesu'r rhesymau pam fod yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi penderfynu nad yw'n safle addas o bosibl, yr un sydd ganddynt ar hyn o bryd, a chanfod beth yn union y byddent yn dymuno'i gael mewn safle arall newydd yng Nghaernarfon.