Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 26 Chwefror 2020.
Gallaf ddeall dyheadau'r Gweinidog i wneud i'r £2 filiwn fynd ymhellach—mae hynny'n gwneud rhywfaint o synnwyr, ond mae'n codi cwestiwn ynglŷn ag amser a phryd y caiff hyn ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae'r Gweinidog yn iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y problemau sy'n ymwneud â methiant y farchnad. Mae'n debygol y bydd methiant y farchnad yn parhau i ddigwydd, yn rhai o'n cymunedau tlotaf ac o bosibl yn rhai o'n cymunedau gwledig mwy anghysbell. Mae wedi bod yn ddiddorol gweld, wrth gwrs, fod Gwynedd wedi gallu gwneud yn well na rhai awdurdodau lleol eraill yn hyn o beth. Felly, pryd y mae'r Gweinidog yn teimlo y bydd yn gallu rhoi dadansoddiad i'r Cynulliad hwn o sut yn union y mae, neu y bydd, y £2 filiwn hwnnw'n cael ei wario? Ac a fydd yn gallu dangos i ni ymhle y mae'r pwyntiau gwefru newydd hynny wedi’u gosod, gan y buaswn yn cytuno ag ef na fyddem yn awyddus i weld buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei roi ar waith yn lle buddsoddiad y sector preifat lle gallai'r farchnad gyflawni?