Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 26 Chwefror 2020.
Yn sicr. Mae'n waith cyffrous sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod, Lee Waters. Yn ddiweddar, cafodd y gronfa her ei chyhoeddi, gyda nifer sylweddol iawn o geisiadau. O ganlyniad i'r brwdfrydedd mewn perthynas â'r gronfa benodol honno, gwnaethom dreblu faint o adnoddau sydd ar gael, ac rydym wedi gallu ariannu nifer fawr o brosiectau ledled Cymru.