Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae gadael yr UE yn golygu y gallwn agor porthladdoedd rhydd newydd a all gynnig y buddion trethi a thollau a gysylltir yn draddodiadol â phorthladdoedd o'r fath. O dan reolau cymorth gwladwriaethol yr UE, ataliwyd porthladdoedd rhydd newydd rhag cynnig manteision o'r fath, gan eu gwneud yn rhydd mewn enw'n unig i bob pwrpas. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth San Steffan yn awyddus i sefydlu nifer o borthladdoedd rhydd newydd yn y DU gan ein bod wedi gadael yr UE. A ydych yn cytuno â mi y gallai porthladd rhydd yng ngogledd Cymru ddod ag adfywiad economaidd a chyflogaeth sy'n fawr eu hangen i’r ardal, ac a wnewch chi alw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod o leiaf un o’r porthladdoedd rhydd newydd yng ngogledd Cymru?