Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 26 Chwefror 2020.
Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â hynny wedi'i osod heddiw. Rwy'n cytuno â'r Aelod o ran y pwyslais y mae'n ei roi ar ddiogelu'r amgylchedd yng Nghymru ac rydym wedi elwa o hynny yn ystod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi bod yn glir iawn mai'r hyn rydym eisiau ei weld yw aliniad parhaus â rheoliadau buddiol yr UE rydym wedi gweld eu manteision yng Nghymru dros ddegawdau lawer, ac rwy'n gobeithio y gallwn berswadio Llywodraeth y DU, maes o law, i barhau i weithredu'r safonau hynny yn y dyfodol.