Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 26 Chwefror 2020.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw? Rwy'n derbyn mai ewyllys pobl Prydain yw gadael yr Undeb Ewropeaidd ac rwyf wedi derbyn hynny ers 2016. Er mai ewyllys y bobl yw gadael yr UE, nid wyf yn credu bod y bobl eisiau dychwelyd at afonydd de Cymru yn y 1960au, heb unrhyw bysgod, lefelau llygredd uchel, a lliw'r dŵr yn amrywio rhwng coch a du, gyda rhai ohonynt yn gallu mynd ar dân mewn gwirionedd. Rwyf am bwysleisio pwysigrwydd diogelu'r amgylchedd a hoffwn ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar unrhyw drafodaethau ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r amgylchedd.