Trefniadau Masnach a Thollau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:26, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi mynegi pryderon gan Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth ar sawl achlysur am effaith trefniadau a newidiadau tollau posibl, yn enwedig mewn perthynas â'r effaith ar forgludiant, yr effaith ar gystadleuaeth o fewn morgludiant, yr effaith ar y cytundebau ar y cyd sy'n cael eu dal ar hyn o bryd gan undebau llafur i ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth, a hefyd y goblygiadau o ran torri telerau ac amodau cludo nwyddau, tandalu'r isafswm cyflog, yn ogystal â'r holl faterion allanol, ehangach sy'n ymwneud â pheidio â thalu'r isafswm cyflog cenedlaethol. Tybed pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd, a pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael i geisio sicrhau ein bod yn cadw argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ac yn diogelu hawliau a buddiannau gweithwyr ym maes mordeithio a chludo nwyddau, a hefyd o ran y materion sy'n codi mewn perthynas â statws porthladd Aberdaugleddau yn y dyfodol.