Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw ac mae ei bwynt yn taflu goleuni ar un agwedd nad yw wedi cael ei harchwilio'n ddigon manwl, sef rhai o effeithiau rhwystrau di-dariff yn arbennig. Gallaf ei sicrhau ein bod yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU yn eu negodiadau pa mor bwysig yw cynnal cyn lleied o rwystrau â phosibl i fasnach, gan gynnwys y math o lwybrau cludo nwyddau a ddisgrifiodd yn ei gwestiwn. Mae hynny'n rhan o ymrwymiad ehangach, a gwn yn iawn ei fod yn rhannu'r ymrwymiad hwnnw, i sicrhau bod safonau llafur yn cael eu cynnal yn y dyfodol. Yn amlwg, rydym eisiau gweld cae chwarae gwastad yn parhau yn ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, a ninnau bellach y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Mae rhan o hynny, a rhan hanfodol ohono, yn ymwneud â safonau llafur ac yn sicr rydym ni yng Nghymru wedi ymrwymo i gynnal y rheini.