Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 26 Chwefror 2020.
Rwy'n siŵr nad yw'r un o'r rheini'n gwestiynau rhethregol, ond i fod yn glir, buaswn yn disgwyl i'r Aelod gefnogi polisi ymfudo sy'n sefyll dros, ac yn adlewyrchu buddiannau pobl Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac economïau a chyflogwyr Cymru. Mae arnaf ofn nad dyna y mae'r cynigion diweddaraf gan Lywodraeth y DU wedi'i wneud. Yn sicr nid ydynt yn adlewyrchu anghenion y gweithlu na gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, a beth bynnag y byddai pobl wedi pleidleisio drosto yn y gorffennol, ni chredaf eu bod wedi pleidleisio dros wneud gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn llai cadarn, a'i gwneud yn anos i fusnesau Cymru dyfu a chyflogi pobl.