Polisi Mewnfudo yn y Dyfodol ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:49, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. A yw’n ymwybodol fod mewnfudo—ymfudo net—wedi bod yn 330,000 y flwyddyn ar gyfartaledd ers 2014? A fyddai’n cytuno â mi nad oes angen inni ychwanegu dinas o faint Caerdydd at boblogaeth y DU bob blwyddyn yn sgil mewnfudo yn unig er mwyn llenwi bylchau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, i ddychwelyd at ei ateb cynharach? Pleidleisiodd y Blaid Lafur yn ei chynhadledd ddiwethaf yn 2019 dros gyfres o gynigion sydd i bob pwrpas yn ymrwymo ei blaid i fewnfudo drws agored, a diwedd ar bob rheolaeth fewnfudo yn y bôn. Tybed ai dyna’r rheswm dros ganlyniadau truenus Llafur yn yr etholiad cyffredinol yn ddiweddar? Oherwydd mae’n amlwg nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddynt a barn y mwyafrif o bobl gyffredin ar y pwnc hwn, ac mae'r ffaith bod Plaid Cymru yn rhannu'r farn hon yn dangos y diffyg cysylltiad rhwng dwy ran o dair o Aelodau'r lle hwn a phobl gyffredin yng Nghymru. Onid yw hynny'n rheswm arall eto am y dirywiad yn enw da'r sefydliad hwn flwyddyn ar ôl blwyddyn?