Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:46, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel y dywedoch chi ar 13 Chwefror, rydych wedi cyfrannu mwy na £220,000 i gynorthwyo cynghorau ledled Cymru, ac mae hwnnw’n mynd i gynyddu allgymorth lleol i oresgyn rhwystrau i helpu’r rhai nad ydynt yn ymwybodol o hyd o’r angen i wneud cais neu sy’n ei chael hi'n anodd gwneud cais. Weinidog, yn benodol, beth fydd y cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo a chefnogi'r awdurdod i’w gwneud yn haws i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw mewn cymunedau ledled Islwyn i wneud cais i ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig? 

Yn ogystal, Weinidog, gyda’r holl ddinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd a'u teuluoedd sy'n byw yng Nghymru yn gorfod gwneud cais yn awr i gynllun y Swyddfa Gartref erbyn 30 Mehefin 2021, er mwyn amddiffyn eu hawliau ac i barhau i fyw a gweithio yma, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau, er bod cynghorau'n rhydd i ddewis y ffordd orau o gefnogi preswylwyr, ein bod yn gweld yr ymarfer gorau ar waith yn gyson ledled Cymru?