Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae arnaf ofn nad oes gennyf yr union ffigur ar gyfer cyngor Caerffili, ond rwy’n hapus i ysgrifennu ati mewn perthynas â hynny. Rhan o'r amcan wrth ddarparu'r cyllid yw caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran sut y mae hyn yn gweithio ar lawr gwlad, gan gydnabod y bydd gan wahanol gymunedau lleol mewn rhannau o Gymru anghenion gwahanol. Ond rydym hefyd yn darparu pecyn hyfforddi pwrpasol ledled Cymru ar gyfer holl staff awdurdodau lleol sy'n ymwneud â'r cyhoedd ynghylch hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys eu cymhwysedd i gael gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gwneud hynny trwy brosiect hawliau dinasyddion yr UE, sydd wedi'i gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth ac i gynorthwyo awdurdodau i gydnabod anghenion cymorth dinasyddion unigol yr UE ledled Cymru. Bwriedir iddo fod yn becyn hyfforddi sy'n cael ei yrru gan ymarfer gorau, a bydd ar gael, fel rwy'n dweud, i awdurdodau ledled Cymru.