Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr iawn. Weinidog, gwelwyd dicter real a dealladwy ynghylch y label bras, 'sgiliau isel', y mae Llywodraeth y DU bellach yn ei ddefnyddio i gyfeirio at bobl fel gweithwyr cymdeithasol pan wyddom nad lefel eu sgiliau sy'n isel, ond lefel eu cyflogau, ac ni allwch roi gwerth ar rinweddau dynol gwerthfawr fel tosturi a gofal. Sut y byddai'n ymateb i Dr Moira Fraser-Pearce, cyfarwyddwr polisi Cymorth Canser Macmillan, sydd wedi ysgrifennu hyn:
Mae cynllun y Llywodraeth ar gyfer system fewnfudo ar sail pwyntiau’n cynnig darlun sy’n peri gofid o system iechyd a gofal sydd eisoes dan bwysau gwaeth nag erioed...Rhaid i'r Llywodraeth greu llwybr ymfudo ar wahân ar gyfer gofal cymdeithasol yn ogystal ag egluro pa fesurau penodol a gaiff eu rhoi ar waith i amddiffyn gweithlu'r GIG er mwyn sicrhau bod pobl â chanser yn cael y gefnogaeth gywir pan fydd ei angen arnynt. Gallai unrhyw ddiwygiadau ymfudo, meddai, sy’n atal gweithwyr gofal cymdeithasol rhag gweithio yn y DU olygu mai rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda chanser, sy’n dioddef y canlyniadau.
Sut y byddai'n ymateb i hynny, a pha sylwadau y bydd yn eu cyflwyno i Lywodraeth y DU?