Polisi Mewnfudo yn y Dyfodol ar ôl Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:52, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu ei fod yn disgrifio mewn ffordd fyw iawn ychydig o'r pwysau a'r heriau a'r effeithiau real iawn y bydd pobl yng Nghymru yn eu dioddef, ac rwy'n credu bod ei gwestiwn yn ymateb i'r cwestiwn a ofynnodd Neil Hamilton yn gynharach. Rwy’n cytuno ag ef, fel y bydd wedi fy nghlywed yn dweud wrth Dai Lloyd yn gynharach, fod pobl sy’n gweithio yn y sector gofal, yn enwedig efallai, yn y ffordd y mae wedi’i ddisgrifio heddiw, yn gwneud gwaith sy’n galw am sgiliau helaeth, ac rydym wedi hyrwyddo safbwynt yng Nghymru dros bolisi ymfudo sy'n adlewyrchu'r gwahanol setiau o sgiliau a lefelau cyflog er mwyn i hynny weithio er budd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond hefyd er budd pobl Cymru, sydd angen y math o gefnogaeth y mae'n ei disgrifio. Mae'n wir fod miloedd lawer o bobl o'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio yn ein sector gofal naill ai fel darparwyr gofal neu nyrsys mewn gwahanol leoliadau. Rydym am iddynt aros a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, ond nid ydym ychwaith eisiau rhoi rhwystrau artiffisial yn ffordd mwy o bobl rhag dod i gymryd eu lle i ateb angen real iawn.