Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 26 Chwefror 2020.
Wel, buaswn yn ei gyfeirio at y strategaeth ryngwladol a'r cynllun gweithredu economaidd fel ymyriadau'r Llywodraeth er mwyn sicrhau ffyniant Cymru. Rwy'n ofni ei fod ef a minnau'n anghytuno. Nid wyf yn credu bod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn rhwystr mewn unrhyw ffordd i unrhyw un o'r cyfleoedd y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiwn. Nid oes unrhyw amheuaeth na all busnesau Cymru barhau i allforio'n rhyngwladol fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd lawn cystal ag yn y cyfnod ar ôl i'n haelodaeth ddod i ben. Nid dyna'r her. Mae arnaf ofn fod myth wedi datblygu fod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn rhwystr i hynny mewn rhyw fodd. Nid yw hynny'n wir. Ond rwy'n credu bod angen inni fod yn realistig ac yn glir ynglŷn â hyn. Hyd yn oed ar sail ffigurau Llywodraeth y DU ei hun, mae'r cyfraniad y mae'r strategaeth masnach rydd y maent yn mynd ar ei thrywydd gyda thrydydd gwledydd—mae'r cyfraniad y gall hynny ei wneud i economi'r DU ar y ffigurau cyfredol yn gwbl ymylol o gymharu â chynnal y cyfleoedd masnach sydd gennym gydag un o'r blociau masnachu mwyaf yn y byd.