Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 26 Chwefror 2020.
Canfu arolwg prif weithredwr PwC y mis diwethaf fod prif weithredwyr Ewropeaidd yn ystyried y DU fel marchnad allweddol ar gyfer twf a buddsoddi, y tu ôl i'r Unol Daleithiau, Tsieina a'r Almaen yn unig ar y llwyfan rhyngwladol. Ar ddiwrnod Brexit, adroddodd ITV Wales am fusnesau a oedd wedi siarad am y cyfleoedd a allai godi y tu allan i'r UE, gan ddyfynnu cwmnïau yn y sector awyrofod a’r sector amaethyddol yng Nghymru. Cymru sydd â'r lefelau ffyniant isaf y pen o hyd ymhlith gwledydd y DU, a gall Brexit roi cyfle i helpu i fynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, mae twf yn sector bwyd a diod Cymru, er enghraifft, wedi eithrio marchnadoedd y tu allan i'r UE. Pa dystiolaeth sydd gennych, felly, i rannu â ni o gamau cadarnhaol, ymarferol gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ffyniant Cymru drwy fynd â ni o fod yn allforiwr dibynnol ar y UE i fod yn llwyddiant masnachol byd-eang, sy'n cynnwys yr UE, ond sy'n ceisio twf yn fyd-eang gyda'r partneriaid masnachu newydd rydym i gyd yn gobeithio'u cael?