Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:38, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y pwynt hwnnw. Pan gyfarfûm â chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, roedd y sector gofal cymdeithasol yn un o'r sectorau y dywedais wrtho eu bod yn wynebu risg o'r mathau o bolisïau ymfudo a oedd yn cael eu crybwyll gan Lywodraeth y DU ar y pwynt hwnnw ac a gadarnhawyd yn y cyhoeddiad diweddaraf. Roeddem wedi gobeithio, fel Llywodraeth, y byddai Llywodraeth y DU yn cael ei pherswadio i gyflwyno set o bolisïau ymfudo a fyddai'n cefnogi'r economi a gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU. Nid felly y bu, ac o ganlyniad i'r trothwy cyflogau a'r trothwy sgiliau, ymysg pethau eraill, bydd sectorau fel y sector gofal cymdeithasol, ac eraill, yn wir, ym maes cynhyrchu bwyd, logisteg a rhai rhannau o'r sectorau gweithgynhyrchu, yn pryderu am eu gallu i staffio eu gwasanaethau a'u busnesau yn y dyfodol.

Ac rwyf am wneud un pwynt mewn perthynas â'r sylw ar ddechrau cwestiwn yr Aelod. Ni fydd ef na minnau, na llawer o rai eraill yn y Siambr, os nad pawb, ysywaeth, yn cydnabod y term 'sgiliau isel' yng nghyd-destun y sector gofal. Bydd unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â'r mathau o gymorth a chefnogaeth fedrus y mae llawer o'n pobl sy'n derbyn gofal yn eu cael yn cydnabod bod y rheini'n rolau medrus iawn yn wir.