Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn amlwg, mae angen cydweithredu rhyngwladol parhaus ar gyfer masnachu cynnyrch iechyd yn ddirwystr ar draws ffiniau'r DU-UE yn y dyfodol, ar ôl Brexit. Nawr, mae tua 45 miliwn o becynnau cleifion o feddyginiaethau yn cael eu cyflenwi o'r DU i wledydd yr UE a’r ardal economaidd Ewropeaidd bob mis, ac mae dros 37 miliwn o becynnau cleifion o feddyginiaethau yn dod o'r UE i'r DU bob mis. Ac eto, heb unrhyw gysoni rheoliadol yn y dyfodol, fel y cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, a gaf fi ofyn i chi: beth yn y byd allai fynd o’i le?