Trafodaethau gyda Llywodraeth y DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:56, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Ar 28 Ionawr, croesawodd y Prif Weinidog Gydbwyllgor y Gweinidogion ar negodiadau'r UE yng Nghaerdydd; dyma'r ail dro yn unig iddo ddigwydd y tu allan i Lundain. Canolbwyntiodd y cyfarfod ar y dewisiadau strategol y mae angen eu gwneud wrth bennu safbwynt negodi agoriadol a rôl y Llywodraethau datganoledig yn y negodiadau.