Trafodaethau gyda Llywodraeth y DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:57, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Cyflwynwyd cynlluniau yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU—a chrybwyllwyd hyn sawl gwaith heddiw—ar gyflwyno'r system fewnfudo ar sail pwyntiau o 2021. Ac unwaith eto, rwy'n mynd i ailadrodd, y diwydiant a fydd yn cael ei effeithio yn fwyaf negyddol—a'r bobl—o ganlyniad i'r newidiadau yw'r sector gofal cymdeithasol. Nid wyf yn credu ei bod hi'n bosibl inni dreulio gormod o amser yma'n cyfleu'r neges hon, ac mae Unsain wedi rhybuddio y bydd y cynlluniau gan Lywodraeth y DU yn drychineb i'r sector. Maent wedi dweud na all cwmnïau a chynghorau recriwtio digon o staff o'r DU ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid iddynt ddibynnu ar weithwyr gofal o fannau eraill eisoes. Felly, bydd rhoi terfyn ar y cyflenwad hwn o lafur yn sydyn yn achosi problemau enfawr ar draws y wlad. Nodaf fod Neil Hamilton wedi diflannu bellach, ond nid yw'n ymddangos ei fod yn meddwl bod hynny'n wir. Ond dyma lle bydd angen gofal ar bobl, ac ni fydd digon o bobl yno i'w ddarparu, ac mae eraill wedi dweud hynny yma eisoes heddiw. Felly, Weinidog, pa asesiad rydych chi, Lywodraeth Cymru, wedi'i wneud o'r effaith y gall y newidiadau hyn ei chael ar y sector gofal cymdeithasol yma yng Nghymru?