Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 26 Chwefror 2020.
Bydd manteision cyfleoedd newydd yn cael eu gorbwyso gan yr anfanteision sy'n debygol o ddeillio o'r telerau a argymhellwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio cyfleoedd mewn perthynas â chefnogi'r economi wledig, ymagwedd newydd tuag at ddatblygu rhanbarthol a'n strategaeth ryngwladol newydd, er enghraifft, er budd gorau Cymru.