Safbwynt Negodi'r UE

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:42, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Mae gallu'r Aelod i lunio gwawdlun yn ddi-ben-draw. Nid dyna yw safbwynt yr UE. Yr hyn a ddywedodd y datganiad gwleidyddol, a lofnodwyd—a gytunwyd—gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU yw y dylai'r safonau sy'n gymwys yn y ddau ar ddiwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys yng nghyd-destun y cae chwarae gwastad, barhau i fod yn gymwys. Nid yw'n wir y gallwch gymharu'n syml â chytundeb masnach rydd Canada. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cytundeb dim tariff, dim cwota. Nid dyna gytundeb Canada—cymerodd saith mlynedd i'w negodi. Mae'n cynrychioli degfed ran o'r fasnach sydd gan y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae 5,000 km i ffwrdd. Nid oes unrhyw gymhariaeth mewn perthynas â masnach. A ffantasi yn fy marn i yw disgwyl i'r un darpariaethau fod yn gymwys mewn cytundeb â'ch cymydog agosaf, gyda 10 y cant yn fwy o fasnach, na'r hyn a osodwch ar bartner masnachu llawer llai sylweddol o ran cyfaint ar yr ochr arall i'r byd.