Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 26 Chwefror 2020.
Gwnsler Cyffredinol, yn amlwg, ddoe, cadarnhaodd y cyngor cyffredinol fandad negodi'r UE—[Anghlywadwy.] Mae ychydig yn llymach na'r drafft gwreiddiol, gan nodi'n glir safbwyntiau cryf ar y cae chwarae gwastad hwn. Yfory, byddwn yn gweld symudiad agoriadol Llywodraeth y DU, gan ein bod eto i gael hynny wedi'i ddiffinio'n glir. Ond yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd yw economi Cymru a sut i sicrhau na chaiff economi Cymru ei niweidio gan negodiadau'r UE a'r DU yn y dyfodol.
Nawr, o ran hynny, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gydag ochr yr UE i sicrhau bod ei safbwynt—ei heconomi a'r materion sy'n bwysig i Gymru—yn cael eu hadlewyrchu a'u trafod yn Ewrop, yn ogystal ag yn y DU? Oherwydd yn aml iawn, gwyddom yn y DU—. A gwyddom fod Boris Johnson a Dominic Cummings—cyflwyno eu safbwynt eu hunain yn unig a wnânt; nid ydynt yn cyflwyno barn rhannau eraill o'u plaid hyd yn oed. A wnewch chi sicrhau y caiff safbwynt Cymru ei gyflwyno ar bob ochr a phob llwybr fel y gallwn gael cyfran deg o hyn?