Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 26 Chwefror 2020.
Wel, rwy'n credu bod yr effaith bosibl yn sylweddol iawn. Rwy'n meddwl bod nyrsys mewn lleoliadau gofal—rwy'n credu bod tua 17 y cant yn ddinasyddion yr UE sy'n gweithio ac yn byw yng Nghymru. A darparwyr gofal yn fwy cyffredinol—credaf fod y ffigurau canrannol oddeutu 6 neu 7 y cant, sy'n ffigur uchel. Mae'r rhesymau y mae'n eu hamlinellu yn ei chwestiwn am ei phryder yn union yr un fath â'r rhesymau sy'n sail i fy mhryder i, a dyna pam rwyf fi ac eraill yn y Llywodraeth wedi cyflwyno'r sylwadau hyn yn uniongyrchol i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo.
Roeddem wedi gobeithio y byddai'r fersiwn o'r polisi mewnfudo y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyflwyno yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yng Nghymru ac ar draws y DU fel mae'n digwydd. Nid yw'n fater sy'n unigryw i Gymru—caiff ei deimlo ledled y DU. Yn anffodus, nid felly y bu. Yn niffyg system ar gyfer y DU gyfan sy'n adlewyrchu anghenion ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi yng Nghymru, rydym wedi dweud y byddwn yn dymuno edrych ar yr achos dros wahaniaethu gofodol—er enghraifft, mewn perthynas â phwyntiau ychwanegol i bobl sy'n dymuno gweithio y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr neu sy'n dymuno gweithio mewn rhannau penodol o'r DU neu fel arall, fersiwn o'r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder. Bydd hi'n gwybod bod y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo eisoes wedi argymell hynny mewn egwyddor i Gymru, ac felly rwy'n credu bod achos dros archwilio hynny.