Safbwynt Negodi'r UE

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:44, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym yn parhau i wneud hynny. Roedd y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ym Mrwsel yn ddiweddar, bydd y Prif Weinidog yno cyn bo hir. Rydym yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod yr hyn sydd er budd economi Cymru yn cael ei ddeall gan bawb o'n cyd-siaradwyr.

Ond hoffwn ddweud wrth yr Aelod mai sefydliadau Ewropeaidd a Llywodraeth Prydain fydd y partïon i'r negodiadau yn y cyfnod o negodi sydd o’n blaenau. Nid oes set gyfochrog o negodiadau na thrafodaethau y gallai neu y dylai Llywodraeth Cymru eu cael yn y cyd-destun hwnnw. Ein disgwyliad, ein gweledigaeth, o sut y dylai hyn weithio’n ymarferol yw y dylai Llywodraeth y DU gytuno i'r Llywodraethau datganoledig chwarae rôl yn y trafodaethau hynny wrth osod safbwynt DU gyfan mewn perthynas â materion sydd wedi'u datganoli.

Fel y bydd yn gwybod, hyd yma nid yw honno'n egwyddor y mae Llywodraeth y DU wedi'i chytuno mewn ffordd sy'n dderbyniol yn ein barn ni. Mae gallu Llywodraeth Cymru i adlewyrchu buddiannau Cymru, ac i adlewyrchu cymwyseddau datganoledig y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru, yn rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ei gydnabod er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru drwy'r cyfnod hwnnw.