Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 26 Chwefror 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser cael crynhoi'r ddadl hon heddiw, ar bwnc sydd, gadewch inni wynebu'r peth, yn bwysig iawn i'r Siambr hon, i bobl Cymru. Roedd pobl yn arfer dweud bod y diweddar Arglwydd Wyn Roberts wedi adeiladu mwy o ffyrdd yng Nghymru na'r Rhufeiniaid, ac fe adeiladodd gryn dipyn ohonynt, mae'n wir, gan gynnwys, wrth gwrs, yr A470, prosiect seilwaith mawr, ac ni allwch ddychmygu Cymru heb y ffordd honno yn awr.
Nid ffyrdd yw'r ateb i'n problemau trafnidiaeth—i'n holl broblemau trafnidiaeth—ond maent yn rhan hanfodol bwysig o seilwaith trafnidiaeth cyffredinol y wlad hon. Ac wrth gwrs, hyd yn oed os ydych yn frwd eich cefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus—mae bysiau, wrth gwrs, yn allweddol i anghenion trafnidiaeth y wlad hon—mae bysiau angen ffyrdd i deithio arnynt, mae bysiau angen tarmac. Felly, mae hyd yn oed y bobl fwyaf brwd eu cefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus yn gorfod derbyn bod gan ffyrdd ran hanfodol i'w chwarae. Wrth gwrs, nid bysiau yn unig ydyw, mae'n cynnwys tramiau hefyd, neu hyd yn oed trolibysiau, fel yr arferai fod gennym. Gallaf weld Dave Rowlands yn gwenu wrth i mi grybwyll y trolibysiau a oedd gennym sawl blwyddyn yn ôl.
Felly, nid yw'n ymwneud â cheir yn unig, ond mae ceir yn parhau, fel y dywedodd Russ George yn gynharach, i fod yn fath pwysig o drafnidiaeth; a byddant yn parhau i fod yn bwysig yn y dyfodol, hyd yn oed os byddant yn geir trydanol. Rydym yn symud oddi wrth danwyddau ffosil, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu symud oddi wrth geir yn llwyr, o fath personol o drafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle nad yw gwasanaethau bysiau'n wych, wrth gwrs. Er gwaethaf yr holl sylwadau a wneir gan y Gweinidog a Llywodraeth Cymru am ymdrechion i wella trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, nid yw bysiau'n darparu gwasanaeth cyflawn fel yr hoffem ei weld.
Nawr, i droi at rai o'r cyfraniadau a wnaed yn ystod y ddadl hon, ac fel y dywedodd Russ George wrth agor y ddadl, mae ein rhwydwaith ffyrdd yn hanfodol. Fe sonioch chi hefyd am ffordd liniaru'r M4, Russ, a'r angen am ateb i'r problemau tagfeydd o amgylch Caerdydd. Fel y dywed ein cynnig, rydym yn ceisio datrys y rheini. Gwariwyd llawer iawn o arian ar yr ymchwiliad cyhoeddus, ond ni chafwyd unrhyw ateb i'r tagfeydd. Mae'n anodd gweld—. Fel y dywedais mewn ymateb i sylw Helen Mary Jones yn gynharach, er fy mod yn deall rhai o'r gwrthwynebiadau i darmacio cefn gwlad ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, nid yw'n bosibl ymdrin â phroblemau fel y rhai o gwmpas Casnewydd heb ryw fath o ateb seilwaith, ac mae ein cynnig yn mynd i'r afael â hynny.
Efallai y gallem gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog am y comisiwn a sefydlwyd i edrych ar y problemau o gwmpas Casnewydd. Credaf y byddai hynny'n amserol. Gwyddom ei fod wedi bod yn gweithio ers cryn amser bellach, ac roedd camau gwahanol i'r comisiwn hwnnw.
Helen Mary Jones, roedd eich awgrym fod ein cynnig yn ceisio troi'r cloc yn ôl i'r 1980au yn un difyr. Wel, nid dyna'r bwriad yn sicr, Helen Mary, nid ydym ond yn dweud na allwch ddatrys yr holl broblemau hyn, yn sicr yn y tymor canolig, drwy geisio symud yr holl draffig ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n rhaid cael rhyw fath o gydbwysedd. Russ.