5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ffyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:17, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Roeddwn am ddweud, ac rwy'n credu ei fod wedi cael ei ddweud ychydig o weithiau yn ystod y ddadl, ond nid yw ein cynnig yn dweud ein bod eisiau adeiladu mwy o ffyrdd, mae'n sôn am ddiweddaru'r seilwaith presennol sydd yno eisoes. Rwy'n credu bod hwnnw'n wahaniaeth pwysig y mae angen ei egluro yn ein cynnig.