6. Dadl Plaid Cymru: Datgarboneiddio

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:20, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw ar yr un diwrnod ag y caiff sefydliad newydd ei lansio'n swyddogol, sefydliad y mae'n bleser gennyf gymeradwyo ei nodau a'i amcanion. Mae lansiad Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru yn adlewyrchu'r ffaith bod y byd wedi deffro, rwy'n credu, i botensial enfawr hydrogen fel arf yn erbyn newid hinsawdd. Bydd datblygiadau sy'n gysylltiedig â hydrogen yn ein helpu, nid yn unig i gyflawni ein nodau datgarboneiddio, ond hefyd i lanhau'r aer yn ein hardaloedd trefol. Llygredd aer oedd testun un o ddadleuon diweddaraf Plaid Cymru yma ychydig wythnosau yn ôl.

Gobeithio y bydd rhai ohonoch wedi cael tro ar y beic hydrogen oedd yn cael ei arddangos y tu allan i'r Senedd amser cinio heddiw, lle'r oedd ynni hydrogen yn tynnu'r straen oddi ar ein coesau. Mae'r posibiliadau ar gyfer hydrogen yn ddiddiwedd o ran diwallu ein hanghenion ynni. Byddwch wedi fy nghlywed lawer gwaith yn y Siambr hon yn hyrwyddo manteision amgylcheddol symud tuag at gerbydau trydan, ac yn sicr, pŵer trydan uniongyrchol yw'r dechnoleg fwyaf blaenllaw ar gyfer ceir preifat allyriadau isel ar hyn o bryd, ond mae hydrogen yn cynnig potensial yn hynny o beth hefyd. Mae gennym ein cwmni ceir hydrogen ein hunain yma yng Nghymru, sef Riversimple. Pe baem yn gallu defnyddio hydrogen yn eang fel tanwydd ar gyfer ceir yn y dyfodol, rydym eisoes yn ei weld yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd mwy datblygedig mewn trafnidiaeth fasnachol fwy o faint—lorïau, bysiau, llongau, trenau—ychwanegwch at hynny y ffaith y gellid rhedeg systemau gwresogi, a gorsafoedd pŵer cyfan hyd yn oed, ar danwydd nad yw'n allyrru unrhyw beth ar wahân i ddŵr, ac o gofio y gellir cynhyrchu hydrogen drwy ddefnyddio pŵer hollol adnewyddadwy, gallwch ddechrau gweld y darlun llawn.

Credaf fod 19 o sefydliadau'n ffurfio rhan o Gymdeithas Masnach Hydrogen Cymru, sef cymdeithas newydd o gwmnïau cynhyrchu a dosbarthu ynni i gwmnïau adeiladu, cyfleustodau, Riversimple, y soniais amdanynt yn gynharach, llu o gyrff sydd â rôl neu ddiddordeb—yn fasnachol, yn amgylcheddol neu'n wir, yn gymdeithasol—i gefnogi buddsoddiad mewn hydrogen yng Nghymru yn y dyfodol. Yr hyn y maent wedi'i weld yw mai nawr yw'r amser i Gymru wneud datganiad ein bod eisiau bod yn rhan o'r don fawr gyntaf yn y chwyldro ynni newydd hwn.

Yr hyn rwy'n chwilio amdano, i bob pwrpas, o gyflwyno'r cynnig hwn, yw i'r Senedd hon fynegi ei chefnogaeth i hynny, i fynegi ein bod yn gweld bod hydrogen yn faes lle ceir manteision enfawr yn economaidd ac o ran iechyd yr amgylchedd. Ac wrth gwrs, byddaf yn gwrando'n astud ar y Gweinidog, nid yn unig am eiriau o gefnogaeth, ond am dystiolaeth o gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w cymryd a'u cymryd yn gyflym. Er enghraifft, mae'n wych fod y Llywodraeth wedi cyflwyno dogfen dendro yn ddiweddar yn chwilio am ddarparwr i roi cymorth i Lywodraeth Cymru...i helpu i gyflwyno llwybr cymorth arfaethedig a datblygu cynigion sydd ar y gweill ym maes hydrogen ac mewn perthynas â datblygu hydrogen. Mae'n waith a fydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau, ond rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld prosiectau'n dechrau cael eu datblygu yn awr ochr yn ochr â'r astudiaeth honno. Mae yna astudiaeth yn yr Alban, er enghraifft, a fydd yn adrodd ymhen pedwar mis, erbyn mis Mai eleni, ac ni allwn fforddio colli'r cwch hwn sy'n cael ei danio gan hydrogen. Ac wrth sôn am gychod, rwy'n arbennig o gyffrous am botensial hydrogen i ddod â manteision i fy etholaeth a phorthladd Caergybi; gall sicrhau bod traffig ar draws môr Iwerddon yn troi at danwydd hydrogen fod yn rhan bwysig iawn o hynny.

Mae'r cynnig yn cyfeirio'n benodol at y potensial ar gyfer datblygiadau hydrogen ar Ynys Môn. Dychmygwch y cyfle i ddefnyddio ynni adnewyddadwy dros ben o'r môr a'r gwynt a gynhyrchir o amgylch Ynys Môn gyda'r nos, dyweder, i gynhyrchu hydrogen mewn ffatri yng ngogledd yr ynys, lle mae gwir angen swyddi arnom, a defnyddio hwnnw i bweru cerbydau ffyrdd, trenau, a llongau i ac o Ynys Môn. Dychmygwch botensial defnyddio hen biblinell olew crai Shell sy'n rhedeg o ogledd yr ynys yn uniongyrchol i ogledd orllewin Lloegr, gan greu diwydiant allforio newydd, arloesol yn amgylcheddol, i allforio hydrogen. Dychmygwch droi hynny, wedyn, yn fenter gymdeithasol, hyd yn oed.