– Senedd Cymru ar 26 Chwefror 2020.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar ddatgarboneiddio, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7277 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen i leihau ein hôl troed carbon ac yn nodi potensial hydrogen fel un ffurf i’n helpu i ddatgarboneiddio.
2. Yn croesawu sefydlu Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru.
3. Yn nodi fod gan Gymru, gyda'i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud y defnydd o hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd.
4. Yn cydnabod yr astudiaeth sydd eisoes yn cael ei gynnal i ddefnyddio Ynys Môn fel ardal peilot ar gyfer cynlluniau hydrogen, yn ogystal a chynlluniau ar y gweill mewn sawl ardal arall o Gymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth Gymreig ar hydrogen.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydym ni ar drobwynt fel cymdeithas, ac mae'r ddadl yma heddiw yn un o'r rheini rydym ni'n gorfod ei chael wrth i ni drosi o'r byd yr oeddem ni arfer byw ynddo fo i'r byd newydd o'n blaenau ni: byd sydd yn gorfod sylweddoli mor fregus ydy o, o ran yr amgylchedd, ac sydd hefyd yn ddigyfaddawd yn ei benderfynoldeb i arloesi yn wyneb y sefyllfa honno.
Rwy'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw ar yr un diwrnod ag y caiff sefydliad newydd ei lansio'n swyddogol, sefydliad y mae'n bleser gennyf gymeradwyo ei nodau a'i amcanion. Mae lansiad Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru yn adlewyrchu'r ffaith bod y byd wedi deffro, rwy'n credu, i botensial enfawr hydrogen fel arf yn erbyn newid hinsawdd. Bydd datblygiadau sy'n gysylltiedig â hydrogen yn ein helpu, nid yn unig i gyflawni ein nodau datgarboneiddio, ond hefyd i lanhau'r aer yn ein hardaloedd trefol. Llygredd aer oedd testun un o ddadleuon diweddaraf Plaid Cymru yma ychydig wythnosau yn ôl.
Gobeithio y bydd rhai ohonoch wedi cael tro ar y beic hydrogen oedd yn cael ei arddangos y tu allan i'r Senedd amser cinio heddiw, lle'r oedd ynni hydrogen yn tynnu'r straen oddi ar ein coesau. Mae'r posibiliadau ar gyfer hydrogen yn ddiddiwedd o ran diwallu ein hanghenion ynni. Byddwch wedi fy nghlywed lawer gwaith yn y Siambr hon yn hyrwyddo manteision amgylcheddol symud tuag at gerbydau trydan, ac yn sicr, pŵer trydan uniongyrchol yw'r dechnoleg fwyaf blaenllaw ar gyfer ceir preifat allyriadau isel ar hyn o bryd, ond mae hydrogen yn cynnig potensial yn hynny o beth hefyd. Mae gennym ein cwmni ceir hydrogen ein hunain yma yng Nghymru, sef Riversimple. Pe baem yn gallu defnyddio hydrogen yn eang fel tanwydd ar gyfer ceir yn y dyfodol, rydym eisoes yn ei weld yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd mwy datblygedig mewn trafnidiaeth fasnachol fwy o faint—lorïau, bysiau, llongau, trenau—ychwanegwch at hynny y ffaith y gellid rhedeg systemau gwresogi, a gorsafoedd pŵer cyfan hyd yn oed, ar danwydd nad yw'n allyrru unrhyw beth ar wahân i ddŵr, ac o gofio y gellir cynhyrchu hydrogen drwy ddefnyddio pŵer hollol adnewyddadwy, gallwch ddechrau gweld y darlun llawn.
Credaf fod 19 o sefydliadau'n ffurfio rhan o Gymdeithas Masnach Hydrogen Cymru, sef cymdeithas newydd o gwmnïau cynhyrchu a dosbarthu ynni i gwmnïau adeiladu, cyfleustodau, Riversimple, y soniais amdanynt yn gynharach, llu o gyrff sydd â rôl neu ddiddordeb—yn fasnachol, yn amgylcheddol neu'n wir, yn gymdeithasol—i gefnogi buddsoddiad mewn hydrogen yng Nghymru yn y dyfodol. Yr hyn y maent wedi'i weld yw mai nawr yw'r amser i Gymru wneud datganiad ein bod eisiau bod yn rhan o'r don fawr gyntaf yn y chwyldro ynni newydd hwn.
Yr hyn rwy'n chwilio amdano, i bob pwrpas, o gyflwyno'r cynnig hwn, yw i'r Senedd hon fynegi ei chefnogaeth i hynny, i fynegi ein bod yn gweld bod hydrogen yn faes lle ceir manteision enfawr yn economaidd ac o ran iechyd yr amgylchedd. Ac wrth gwrs, byddaf yn gwrando'n astud ar y Gweinidog, nid yn unig am eiriau o gefnogaeth, ond am dystiolaeth o gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w cymryd a'u cymryd yn gyflym. Er enghraifft, mae'n wych fod y Llywodraeth wedi cyflwyno dogfen dendro yn ddiweddar yn chwilio am ddarparwr i roi cymorth i Lywodraeth Cymru...i helpu i gyflwyno llwybr cymorth arfaethedig a datblygu cynigion sydd ar y gweill ym maes hydrogen ac mewn perthynas â datblygu hydrogen. Mae'n waith a fydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau, ond rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld prosiectau'n dechrau cael eu datblygu yn awr ochr yn ochr â'r astudiaeth honno. Mae yna astudiaeth yn yr Alban, er enghraifft, a fydd yn adrodd ymhen pedwar mis, erbyn mis Mai eleni, ac ni allwn fforddio colli'r cwch hwn sy'n cael ei danio gan hydrogen. Ac wrth sôn am gychod, rwy'n arbennig o gyffrous am botensial hydrogen i ddod â manteision i fy etholaeth a phorthladd Caergybi; gall sicrhau bod traffig ar draws môr Iwerddon yn troi at danwydd hydrogen fod yn rhan bwysig iawn o hynny.
Mae'r cynnig yn cyfeirio'n benodol at y potensial ar gyfer datblygiadau hydrogen ar Ynys Môn. Dychmygwch y cyfle i ddefnyddio ynni adnewyddadwy dros ben o'r môr a'r gwynt a gynhyrchir o amgylch Ynys Môn gyda'r nos, dyweder, i gynhyrchu hydrogen mewn ffatri yng ngogledd yr ynys, lle mae gwir angen swyddi arnom, a defnyddio hwnnw i bweru cerbydau ffyrdd, trenau, a llongau i ac o Ynys Môn. Dychmygwch botensial defnyddio hen biblinell olew crai Shell sy'n rhedeg o ogledd yr ynys yn uniongyrchol i ogledd orllewin Lloegr, gan greu diwydiant allforio newydd, arloesol yn amgylcheddol, i allforio hydrogen. Dychmygwch droi hynny, wedyn, yn fenter gymdeithasol, hyd yn oed.
Rydym ni'n gwybod am Morlais, y fenter gymunedol sy'n rhan o Menter Môn, sy'n datblygu prosiect ynni môr yn y parth arddangos oddi ar arfordir gorllewinol yr ynys. Ond mae Menter Môn hefyd wedi bod yn arwain darn o waith yn edrych ar botensial y diwydiant hydrogen ar Ynys Môn: gweithredu yn lleol er budd y gymuned ac er mwyn yr amgylchedd. Maen nhw, fel fi, yn gweld ein bod ni yn edrych ar rywbeth yn fan hyn a all ddod â budd mawr inni ar gymaint o haenau gwahanol, o'r lleol i'r cenedlaethol, ac yn wir yn fyd-eang.
Mae Llywodraeth yr Almaen wedi'i chyffroi am hydrogen. Maen nhw'n cyhoeddi strategaeth hydrogen genedlaethol yn y gwanwyn yma. Yn ôl Llywodraeth ffederal yr Almaen, hydrogen ydy'r olew newydd. Roeddwn yn darllen yn gynharach flogs ac erthyglau gwahanol sy'n cyfeirio at sut y mae hydrogen, er enghraifft, yn mynd i drawsnewid cadwyni cyflenwi byd-eang a sut y mae o'n mynd i fod yn gwbl allweddol mewn datgarboneiddio ein cartrefi ni, a'r ffordd y maen nhw'n cael eu cynhesu yn arbennig.
Mae yna brosiectau ar waith yng Nghymru yn barod. Rydw i wedi cyfeirio at y tendr yna gan y Llywodraeth ac at ymchwil Menter Môn ar gyfer Ynys Môn fel ynys hydrogen. Mi wnâi gyfeirio hefyd at y cynllun Milford Haven Energy Kingdom yn Aberdaugleddau, sy'n trio arloesi yn y symudiad o danwydd ffosil a nwy tanwydd ffosil i hydrogen. Mae'r rhain i gyd yn bethau i'w croesawu.
Ond, gadewch inni heddiw wneud datganiad clir iawn bod Cymru am fod yn arloeswr hydrogen. Ac fel arwydd o'n difrifoldeb ni mewn helpu i arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac i newid i fath cwbl newydd o ddiwydiant hefyd, a ddaw â budd ar gymaint o lefelau, mae Cymru, medd ein datganiad ni heddiw, am fod yn rhan o'r chwyldro hwnnw.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Andrew Davies i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth di-allyriadau, fel trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i phweru gan hydrogen, a gyflwynwyd mewn rhannau eraill o'r DU, fel rhan o strategaeth ehangach i fynd i'r afael â llygredd aer ac allyriadau carbon.
Gwelliant 3—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU i ddatblygu sector ynni hydrogen Cymru, a gweithio gyda phrifysgolion a busnesau o fewn y sector i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran y dechnoleg newydd hon.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw Darren Millar—1, 2 a 3—sydd ynghlwm wrth y cynnig. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl, yn enwedig ar yr un diwrnod ag y lansiwyd Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru yma yn y Senedd, datblygiad rwy'n ei groesawu. Fel y disgrifiodd Rhun, a agorodd y ddadl, rwy'n credu bod prosiectau cyffrous yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig. Dyna pam ein bod yn credu ei bod yn bwysig i ni wneud mwy na gweithio ar sail Cymru'n unig, ac yn lle hynny, ein bod yn edrych ar draws y Deyrnas Unedig ar brosiectau sydd ar y gweill i weld pa gyllid ymchwil y gallwn ei ddenu i Gymru.
Yn wir, o asesiad Llywodraeth y DU ei hun o hyn, ac yn enwedig mewn perthynas â chreu marchnad ynni lân, mae'n ddiddorol nodi fod potensial ar gyfer 2 filiwn o swyddi a gwerth £170 biliwn o allforion blynyddol erbyn 2030. Mae'r rhaglen drafnidiaeth hydrogen, er enghraifft, sydd newydd sicrhau £23 miliwn o gyllid, a lansiwyd yn 2017, wedi helpu i gyflymu'r gwaith o gyflwyno'r cerbydau hydrogen hyn a mwy o seilwaith hydrogen, gan gynnwys gorsafoedd ail-lenwi, cyn gwaharddiad y DU ar geir diesel a phetrol erbyn 2030.
Os edrychwn ar draws ac i fyny i'r Alban, er enghraifft, mae rhai datblygiadau cyffrous wedi bod yno: prosiect HySpirits yn ynysoedd Orkney yn yr Alban, sy'n archwilio'r posibilrwydd o drawsnewid distyllfa jin crefft, i ddefnyddio hydrogen yn hytrach na nwy petrolewm hylifedig, i wneud y broses yn fwy ecogyfeillgar; a'r gronfa £100 miliwn ar gyfer prosiectau ynni hydrogen carbon isel i ddefnyddio capasiti cynhyrchu hydrogen carbon isel i alluogi mwy o ddefnydd o hydrogen fel opsiwn datgarboneiddio o fewn y sector ynni.
Dyna pam ei bod yn bwysig iawn, buaswn yn awgrymu, ein bod hefyd yn cysylltu ein sector prifysgolion—a dyna pam fod gwelliant 3 yn galw am weithio gyda'r sylfaen ymchwil o fewn y sector prifysgolion yma yng Nghymru i ddatblygu'r cyfleoedd hynny. Pan fyddwch yn sôn am drafnidiaeth, er enghraifft, mae Transport for London yn ceisio cyflwyno 20 o fysiau deulawr yn cael eu pweru gan hydrogen ledled Llundain. Hefyd, mae Green Tomato Cars, fel y cânt eu galw, sef cwmni tacsis yn Llundain, hefyd wedi cyflwyno tacsis sy'n cael eu pweru gan hydrogen fel rhan o'u fflyd. Ond pe baech yn dweud wrth gwsmeriaid cyffredin ar y stryd am ynni hydrogen a'r potensial ar gyfer ynni hydrogen yn ein cymysgedd ynni, byddai llawer yn edrych arnoch heb ddeall am beth rydych chi'n sôn.
Felly, bydd y ddadl hon yn ddechrau pwysig yn y sgwrs honno. Bydd y gynghrair a lansiwyd heddiw yn helpu, gobeithio, i hysbysu llawer o bobl am y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael, pe bai'r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio'n fwy helaeth. Ond mae'n hanfodol ein bod yn cysylltu'r dotiau i sicrhau bod gennym gysylltiad rhwng yr ymchwil sy'n mynd rhagddo ar draws y Deyrnas Unedig, fod Llywodraeth Cymru yn datblygu'r gallu ymchwil yma yng Nghymru gyda rhywfaint o arian sefydlu, ond hefyd ein bod yn gweithio i ddenu arian—yr arian sylweddol, buaswn yn awgrymu—sydd ar gael gan Lywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr fod y dechnoleg hon yn ddewis amgen difrifol ac yn chwaraewr hyfyw yn y broses o ddatgarboneiddio ein heconomi yn gyffredinol.
O edrych arno o'r hyn rwyf wedi'i ddeall dros yr wythnosau diwethaf, fel y cyfryw, wrth edrych ar y pwnc hwn, fe wnaeth y Sefydliad Materion Cymreig gyffwrdd â hyn yn eu papur polisi 'Re-energising Wales', ond roedd yn galw am fwy o ymchwil yn y sector hwn, ac arloesedd, yn enwedig mewn perthynas â datblygu prosiectau carbon isel a di-garbon newydd. Rwy'n sylweddoli nad oes gennyf ond tri munud—dadl hanner awr yw hon, ac nid yw hynny, yn ôl pob tebyg, yn gwneud cyfiawnder â'r pwnc. Ond rwyf am ddod â fy nghyfraniad i ben ac rwy'n gobeithio y bydd ein gwelliannau'n cael cefnogaeth yn y ddadl y prynhawn yma.
Fel rwy'n siŵr bod pawb yn gwerthfawrogi, nod y ddadl yma yw rhoi chwyddwydr go iawn ar y potensial sydd gan hydrogen o safbwynt nid yn unig effaith amgylcheddol yng Nghymru, ond yn sicr yr effaith cymdeithasol ac economaidd y gallwn ni fod yn ei fwynhau ac yn manteisio arno fe petai'r sector yma yn cael y gefnogaeth a'r cyfle i dyfu y mae yn ei haeddu. Rŷn ni'n meddwl, yn aml iawn, ein bod ni ar flaen y gad yn trio rhyw wahanol bethau, ond fel rŷn ni wedi clywed gan Rhun, mae yna wledydd sydd eisoes yn rhoi'r dechnoleg yma ar waith, hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig—mae yna fysys hydrogen mewn llefydd fel Aberdeen a Birmingham, ac mae Llundain yn buddsoddi mewn bysys hydrogen. Mi fues i'n reidio beic hydrogen y tu allan i'r Senedd fan hyn rhyw awr yn ôl. Felly, mae'r dechnoleg gyda ni, ond yr hyn sydd eisiau ei wneud, wrth gwrs, yw ei roi ar waith ar sgêl sy'n mynd i wneud i'r sector yma fod yn hyfyw a chaniatáu iddo fe dyfu, ond ar y un pryd, sicrhau bod Cymru yn y lôn gyflym pan mae'n dod i'r cyfleoedd arloesol sydd yna o gwmpas y maes yma. Dyna, wrth gwrs, yw ffocws y ddadl yma heddiw.
Dwy flynedd yn ôl, fe gomisiynodd Plaid Cymru ddogfen ymchwil a oedd yn edrych ar botensial hydrogen o safbwynt datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru, ac un o'r pethau amlwg yw bod angen ffynhonnell gyllid penodol, pwrpasol ar gyfer cynlluniau cludo hydrogen. Mae yna lawer mwy y gallem ni fod yn ei wneud i ddefnyddio'r cyfle sy'n cael ei gyflwyno gan fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, y metros arfaethedig, a newid y fflyd bysiau—mae angen symud yn gynt yn y cyfeiriad yna. Roedd cyfeiriad at dendr sydd allan gyda'r Llywodraeth ar hyn o bryd, ac yn sicr, mae angen tîm penodol i gael ei dynnu at ei gilydd o brifysgolion, awdurdodau lleol a'r Llywodraeth er mwyn gyrru'r agenda yma yn ei blaen, a phobl sydd yn mynd i lunio cynigion penodol i adnabod ffynonellau cyllid, i fod yn rhagweithiol, i wneud i bethau digwydd, yn hytrach na jest rhyw ddrifft lle rŷch chi'n gobeithio rhyw ddydd, rhywbryd, mi ddaw popeth at ei gilydd. Os ydyn ni eisiau fe i ddigwydd, mae'n rhaid inni wneud iddo fe ddigwydd, ac yn amlwg, mae pobl yn edrych i gyfeiriad y Llywodraeth am yr arweiniad yna.
Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod sefydliadau sector gyhoeddus a phreifat mawr yn datgarboneiddio eu fflydoedd ac yn symud, er enghraifft, i hydrogen, ac yn y blaen, ac yn y blaen—mae yna ddigon y gallwn i ei ddweud yn y maes yna. Mae Rhun wedi cyfeirio at Riversimple. Ces i'r fraint o ymweld â'r cwmni'r llynedd, yn Llandrindod, ac maen nhw wedi datblygu prototeip o gar o'r enw Rasa. Mae yn gar eco-coupé—dyna eu disgrifiad nhw o'r car—a'r model cyntaf fydd yn mynd ar y ffyrdd, gobeithio, yn y gwanwyn yma, gyda'r gefnogaeth iawn, a dyma'r her fan hyn i'r Llywodraeth. Gall fod ceir yn dod oddi ar y production line o fewn dwy flynedd, sy'n ysgafn, sy'n hynod effeithlon, ac sy'n lân—sydd ddim yn creu'r llygredd rŷn ni'n arfer ei weld.
Mae'r Llywodraeth yn barod i fuddsoddi mewn cwmnïau fel Aston Martin, a'r combustion engine, ac mae rhywun yn cydnabod bod yna le i'r rheini ar y foment, ond technoleg ddoe yw hwnnw, i bob pwrpas. Beth am roi £18 miliwn i rywun fel Riversimple, a buddsoddi yn nhechnoleg yfory? Yn fanna mae'r arloesi; yn fanna mae'r cyfleoedd, ac i'r cyfeiriad yna yr ŷn ni'n symud. Felly, fy mhle i yw bod angen i'r Llywodraeth osod sat nav gwleidyddol i sicrhau ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad iawn, ac mae hydrogen yn rhan o'r cyfeiriad hwnnw.
Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nid oeddwn yn sylweddoli mai tair munud oedd gennyf—roeddwn i'n meddwl bod gennyf ychydig mwy, felly mae angen i mi gyflymu ychydig yn awr.
Rwy'n credu ei fod wedi cael ei nodi, ac rwy'n ymddiheuro am fethu lansiad y beic hydrogen, oherwydd roeddwn yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ganser ar y pryd ac ni allwn fod yno. Ond mae'n bwysig inni gofio ambell beth. Pŵer oedd i gyfrif am 17 y cant o allyriadau'r DU yn 2016, a hynny yn ôl y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd. Mae angen i'r ffigurau hyn leihau'n sylweddol—rydym i gyd yn cytuno ar hynny, ac nid wyf yn credu y byddai neb yn y Siambr hon yn anghytuno—er mwyn gallu cyrraedd ein targedau ar gyfer 2050. Nawr, mae allyriadau trafnidiaeth ac allyriadau diwydiannol yn ddau brif achos dros y cynnydd mewn allyriadau carbon yn y wlad, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r rhain.
Mae'r rhan fwyaf o bobl eisoes wedi canolbwyntio ar yr agenda drafnidiaeth, felly efallai y caf edrych ar y diwydiant trwm sy'n gyfrifol am 40 y cant o allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru. Ond mae troi'r allyriadau hyn yn gemegau arbenigol gwerth uchel a chynhyrchion bwyd yn troi'r gwastraff hwn yn adnodd pwysig. Gall newid diwydiant o ddefnyddio tanwyddau hydrocarbon i ddefnyddio hydrogen a gynhyrchir o ffynonellau trydan gwyrdd leihau allyriadau diwydiannol a lleihau costau ynni ar yr un pryd i greu economi ranbarthol sy'n fwy cystadleuol. Nawr, gallai defnyddio hydrogen ar gyfer gwresogi a thrafnidiaeth fod yn un o'r ffyrdd hynny. Gall hydrogen fod yn hyblyg iawn. Crybwyllwyd y gellir ei gludo drwy biblinell, gellir ei gludo ar y ffordd mewn tanceri fel nwy cywasgedig, neu ei gynhyrchu'n lleol mewn system ddatganoledig. Felly, mae iddo lawer o ddefnyddiau posibl mewn system ynni gyffredinol.
Nawr, gallwn wneud cyfraniad pwysig i ddatgarboneiddio hirdymor, wedi'i gyfuno ag effeithlonrwydd ynni da, cynhyrchu pŵer carbon isel rhad, trafnidiaeth wedi'i thrydaneiddio a systemau pwmp gwres hybrid newydd. Roedd adroddiad gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, 'Hydrogen in a low-carbon economy', yn cydnabod potensial hydrogen fel ffynhonnell ynni ddi-garbon. Felly, mae wedi cael ei gydnabod ac nid oes gwahaniaeth ynddo, ond gallai gymryd lle nwy naturiol. Rwy'n cofio dyddiau nwy glo, ac fe newidiwyd i nwy naturiol, ac yn awr rydym yn sôn am hydrogen yn cymryd lle nwy naturiol, ac felly, mae'n bosibl. Nid oedd yn bosibl flynyddoedd lawer yn ôl, gan ei fod yn cael ei ystyried yn ddrud. Ond heddiw, mae'n opsiwn mwy realistig i helpu i ddatgarboneiddio'r DU, gan fod y costau'n gostwng. Ac felly, mae'n bwysig ein bod yn cael ymrwymiad gan y Llywodraeth i wella cymorth i ddatblygu gallu diwydiannol y DU yn y maes hwn.
Ac mae gan Gymru nifer o fanteision y gellir eu defnyddio wrth newid i economi hydrogen. Mae gennym ffynonellau adnewyddadwy helaeth i roi cyfle i gael system ynni lanach. Fodd bynnag, un pwynt—[Anghlywadwy.]—yn seiliedig ar olew, rwyf wedi siarad am yr ynni, y drafnidiaeth—fe adawaf hynny i chi; fe adawaf hynny i bobl eraill siarad amdano.
Mae gennym brosiectau gwych yn y wlad hon, ac mae gwelliant 3 gan y Ceidwadwyr yn tynnu sylw at y ffaith y dylai Cymru wneud mwy â'r prifysgolion. Wel, rwyf am gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r hyn y maent yn ei wneud eisoes gyda phrifysgolion ar rai o'r prosiectau. Mae gennym systemau ynni integredig hyblyg (FLEXIS), ac mae gennym gynlluniau lleihau allyriadau carbon diwydiannol (REIS). Mae'r ddau yn brosiectau gwych. Ac rwyf hefyd yn falch o'r ffaith bod dwy ganolfan ymchwil yn fy etholaeth—parc ynni bae Baglan ac yn ail gampws y brifysgol. Maent yn gwneud gwaith gwych. A gadewch i mi nodi sut y maent yn gweithio gyda diwydiant a Tata yn arbennig—fe fyddaf yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd: defnyddio hydrogen i edrych ar sut y gallwn ddefnyddio gwres gwastraff yn Tata, a'i droi'n ynni defnyddiadwy, fel ein bod yn lleihau ein hallyriadau. Mae defnyddio hydrogen wedi dod yn ffordd rad ac effeithiol o gynhyrchu trydan—unwaith eto, o nwyon gwastraff Tata ac ynni adnewyddadwy. Oherwydd os gallant gael ynni i mewn i ddŵr, hollti'r dŵr yn hydrogen ac ocsigen, daw hydrogen yn ynni a gellir defnyddio ocsigen i lanhau dŵr mewn gweithfeydd trin dŵr, sydd hefyd wedi'u lleoli yn Tata, gyda llaw. Felly, dyna opsiwn arall yno. Felly, gallwn—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Gallwn ei ddefnyddio. Mae angen inni edrych yn ofalus iawn. Rwy'n sylweddoli cymaint o waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen i bawb ohonom ei gefnogi yn awr; mae angen inni wneud yn siŵr ei fod yn mynd o ymchwil i ddiwydiant, ac yna i ddatblygu ar draws y DU.
Diolch. Galwaf yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Aeth i lawr y ffordd anghywir—mae'n ddrwg gennyf. Mae hwn wedi bod yn gyfle defnyddiol iawn i dynnu sylw at rôl bosibl hydrogen mewn system ynni ddi-garbon. Mae datgarboneiddio'n sbarduno newid byd-eang yn y byd ynni ac mae'r ffiniau rhwng trafnidiaeth, trydan a gwres yn mynd yn aneglur, gydag ynni'n cael ei droi'n ffurfiau gwahanol er mwyn diwallu ystod o anghenion.
Mae'r gallu i storio ynni a'i ddefnyddio pan a lle bo'i angen yn hanfodol ar gyfer system effeithlon sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy. Bydd angen i'r system integreiddio cynhyrchiant adnewyddadwy â storio a gwasanaethau eraill i leihau'r angen am gynhyrchiant newydd a sicrhau hyblygrwydd i ddiwallu'r galw ar adegau prysur. Mae angen systemau a chyfarpar mwy clyfar i reoli'r system gynyddol gymhleth hon.
Rydym yn disgwyl gweld nwy carbon isel yn chwarae mwy o ran. Nid yw'n glir eto a fydd hynny'n digwydd ar ffurf biomethan, hydrogen, neu nwyon synthetig eraill. Efallai y bydd gan nwyon megis hydrogen rôl i'w chwarae hefyd yn ein helpu i storio trydan a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy yn ystod cyfnodau o alw isel. Yna, gellir troi'r nwy nôl yn drydan drwy hylosgi, neu ei ddefnyddio fel tanwydd gwresogi neu danwydd trafnidiaeth. Bydd targedu buddsoddiad mewn system aml-fector yn ein helpu i ddod o hyd i'r atebion mwyaf effeithiol i ateb galw brig. Rydym wedi ymrwymo i'r dull system gyfan hwn o newid ynni sy'n sail i'n gwaith ar ddatgarboneiddio. Mae hydrogen yn fector ynni naturiol i'w ystyried, gan fod iddo hyblygrwydd i ddarparu gwres, pŵer, tanwydd cynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth ac mae'n gyfrwng ar gyfer ei storio. Mae'r hyblygrwydd y gallai hydrogen ei ddarparu o werth i'r sector ynni drwyddo draw.
Mae'r potensial ar gyfer datblygu hyn yn cael ei archwilio drwy ein gwaith Byw yn Glyfar yn ogystal â'r rhaglen FLEXIS ac er ein bod hefyd yn cymryd rhan mewn grwpiau yn y DU i gydlynu gwaith ar hydrogen, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn dod â'r sector cyhoeddus, busnesau ac academyddion at ei gilydd drwy ei arddangoswyr Byw yn Glyfar. Mae edrych ar sut rydym yn trawsnewid y swyddi yng ngorllewin Cymru o ynni ffosil i ynni carbon isel yn hanfodol i sicrhau Cymru carbon isel lewyrchus. Enghraifft allweddol yw'r cydweithio a gydlynwyd gennym ar gynnig teyrnas ynni Aberdaugleddau, a gafodd gyfran o £21 miliwn o arian arloesi'r DU i ddatblygu cynllun manwl i ddod ag ef yn nes at allu ei ddefnyddio.
Llwyddiant arall yw'r Rasa, y car cell tanwydd hydrogen Cymreig, a gefnogir gan arian Llywodraeth Cymru ac Ewrop ac sydd bellach yn gweithio ar brosiect peilot i sicrhau defnydd dyddiol o geir hydrogen. Mae'r rhaglen FLEXIS a leolir yng Nghymru yn edrych ar amrywiaeth o gynlluniau arloesol, gyda llawer ohonynt yn cynnwys hydrogen. Un enghraifft yw profi sut y gallai mwy o hydrogen yn y cyflenwad nwy effeithio ar offer domestig. Gallai deall yr effeithiau hyn arwain at greu swyddi newydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu.
Ceir cyfleoedd i Gymru adeiladu ar y cynlluniau peilot hyn a datblygu prosiectau cynhyrchu hydrogen lleol a mwy o faint, ar raddfa ddiwydiannol ac fel dewis amgen yn lle nwy naturiol mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, bydd sicrhau manteision i Gymru yn dibynnu ar gynnal prosiectau arddangos llwyddiannus yma. Mae hefyd yn galw am fuddsoddiad mawr i leihau costau gweithgynhyrchu a storio hydrogen. Mae arnom angen system ynni carbon isel, ond nid ar unrhyw gost. Hyd yn oed gyda chost ariannol isel nwy naturiol ar hyn o bryd, mae gennym bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Mae angen inni adeiladu ar y profiad o wneud ffynonellau adnewyddadwy, megis gwynt ar y tir a solar, yn ffynonellau ynni isaf eu cost, gan ddefnyddio'r gwersi hyn i leihau cost hyblygrwydd a storio.
Rwy'n gobeithio y bydd brwdfrydedd yr Aelodau Torïaidd yn y ddadl Senedd hon heddiw yn cael ei droi'n ymrwymiad gwirioneddol gan eu cymheiriaid yn San Steffan i ddarparu'r cyllid ychwanegol sydd ei angen i helpu mwy o dechnolegau adnewyddadwy i ddod yn wirioneddol gystadleuol o ran pris. Mae'n hen bryd cael nifer o gyhoeddiadau ynni mawr gan Lywodraeth y DU ac rwy'n gobeithio, pan wneir y cyhoeddiadau hyn yn y pen draw, y byddant yn egluro nid yn unig sut y byddant yn cefnogi datblygiad y technolegau hyn ond lle nad yw'r cyfrifoldebau wedi'u datganoli, sut y byddant yn cefnogi datblygiad y technolegau yma yng Nghymru.
Mae hyblygrwydd nwyon fel hydrogen yn golygu bod angen inni edrych yn fanylach ar y system ynni. Mae system integredig yn debygol o fod yn rhatach i ddinasyddion yn y tymor hir ac yn help hefyd i ni ddiogelu cyflenwadau ynni, hyd yn oed ar adegau pan fo'r galw ar ei uchaf. Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU o'r farn y gallai'r arbedion hyn fod cymaint ag £8 biliwn y flwyddyn i ddefnyddwyr ynni ledled y DU erbyn 2030. Rwy'n cefnogi'r cynnig at ei gilydd, a'r gwelliannau sydd, yn fy marn i, yn awgrymu'r angen i ddwyn ynghyd ac ychwanegu ffocws strategol pellach ar y cyfoeth o weithgarwch sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru. Nid oes un ateb yn mynd i allu rhoi i Gymru y dyfodol carbon isel y mae ei angen ac yn ei haeddu. Mae angen inni ystyried y system ynni yn ei chyfanrwydd. Fy mwriad yw sicrhau bod ein syniadau ar rôl hydrogen a thechnolegau cysylltiedig ledled Cymru yn gydgysylltiedig ac yn strategol. Dyna pam y bydd strategaeth hydrogen i Gymru yn elfen integredig o gynllun cyflenwi carbon isel nesaf Cymru ar gyfer 2021-25.
Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Dim ond dwy funud fach sydd gen i ar ôl. Gwnaf i ddim crynhoi popeth sydd wedi cael ei ddweud, ond diolch yn fawr iawn am y cyfraniadau rydym ni wedi eu cael—Andrew R.T. Davies yn nodi bod yntau'n gobeithio bod heddiw a lansiad y grŵp Cymreig newydd a'r ddadl yma yn ddechrau, o bosib, ar ryw gyfnod newydd o intensity, os liciwch chi, o drafodaeth ar hydrogen. Bu i Llyr Gruffydd sôn am yr angen i fod yn wirioneddol ragweithiol, a dyna dwi'n meddwl sy'n bwysig o hyn ymlaen. Diolch hefyd i Dai Rees am ganolbwyntio ar yr elfen o a ydy hydrogen yn hybu ac yn gyrru diwydiant yng Nghymru, sydd mor bwysig. Rydyn ni angen datgarboneiddio ein diwydiant ni ac, wrth gwrs, mae yna ddiwydiannau sydd yn drwm iawn eu defnydd o ynni yn eich etholaeth chi.
O ran beth glywsom ni gan y Gweinidog, fe glywsom ni grynodeb o'r gwahanol elfennau o ddefnydd sydd yna i hydrogen. Roedd yn sôn am beth mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud yn barod; dwi'n meddwl fy mod i wedi crynhoi llawer o hynny. Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi cweit glywed yr urgency o beth dwi'n chwilio amdano fo o ran beth sy'n digwydd nesaf, ond, wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod rhaid dechrau wrth ein traed, adeiladu ar y gwaith sydd yn cael ei wneud rŵan, a dwi'n excited am hydrogen o ddifrif. Dwi'n meddwl y byddwn ni i gyd rŵan yn cadw llygad barcud ar beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i symud yr agenda ymlaen yn fan hyn. Fy meirniadaeth i o'r Llywodraeth Lafur yma yn aml iawn yw dim ei bod hi'n gwneud dim byd, ond ei bod hi ddim yn gwneud digon neu ddim yn ei wneud o efo urgency.
Wel, efo hyn, does gennym ni ddim dewis rŵan ond cymryd camau breision ymlaen, neu mi fydd Cymru yn cael ei gadael ar ei hôl hi, yn hytrach na beth y gallem ni fod yn ei wneud, sef cadw ar flaen y don yma, sydd dwi'n meddwl yn mynd i chwyldroi ynni, o ran cynhyrchu ynni a'r defnydd o ynni yn fyd-eang.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na— [Gwrthwynebiad.] Mewn pryd o drwch blewyn. Mawredd. Lwcus fy mod i wedi pendroni. Iawn, o'r gorau. Fe bleidleisiwn ar yr eitem honno yn y cyfnod pleidleisio.