Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 26 Chwefror 2020.
Fel rwy'n siŵr bod pawb yn gwerthfawrogi, nod y ddadl yma yw rhoi chwyddwydr go iawn ar y potensial sydd gan hydrogen o safbwynt nid yn unig effaith amgylcheddol yng Nghymru, ond yn sicr yr effaith cymdeithasol ac economaidd y gallwn ni fod yn ei fwynhau ac yn manteisio arno fe petai'r sector yma yn cael y gefnogaeth a'r cyfle i dyfu y mae yn ei haeddu. Rŷn ni'n meddwl, yn aml iawn, ein bod ni ar flaen y gad yn trio rhyw wahanol bethau, ond fel rŷn ni wedi clywed gan Rhun, mae yna wledydd sydd eisoes yn rhoi'r dechnoleg yma ar waith, hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig—mae yna fysys hydrogen mewn llefydd fel Aberdeen a Birmingham, ac mae Llundain yn buddsoddi mewn bysys hydrogen. Mi fues i'n reidio beic hydrogen y tu allan i'r Senedd fan hyn rhyw awr yn ôl. Felly, mae'r dechnoleg gyda ni, ond yr hyn sydd eisiau ei wneud, wrth gwrs, yw ei roi ar waith ar sgêl sy'n mynd i wneud i'r sector yma fod yn hyfyw a chaniatáu iddo fe dyfu, ond ar y un pryd, sicrhau bod Cymru yn y lôn gyflym pan mae'n dod i'r cyfleoedd arloesol sydd yna o gwmpas y maes yma. Dyna, wrth gwrs, yw ffocws y ddadl yma heddiw.
Dwy flynedd yn ôl, fe gomisiynodd Plaid Cymru ddogfen ymchwil a oedd yn edrych ar botensial hydrogen o safbwynt datgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru, ac un o'r pethau amlwg yw bod angen ffynhonnell gyllid penodol, pwrpasol ar gyfer cynlluniau cludo hydrogen. Mae yna lawer mwy y gallem ni fod yn ei wneud i ddefnyddio'r cyfle sy'n cael ei gyflwyno gan fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, y metros arfaethedig, a newid y fflyd bysiau—mae angen symud yn gynt yn y cyfeiriad yna. Roedd cyfeiriad at dendr sydd allan gyda'r Llywodraeth ar hyn o bryd, ac yn sicr, mae angen tîm penodol i gael ei dynnu at ei gilydd o brifysgolion, awdurdodau lleol a'r Llywodraeth er mwyn gyrru'r agenda yma yn ei blaen, a phobl sydd yn mynd i lunio cynigion penodol i adnabod ffynonellau cyllid, i fod yn rhagweithiol, i wneud i bethau digwydd, yn hytrach na jest rhyw ddrifft lle rŷch chi'n gobeithio rhyw ddydd, rhywbryd, mi ddaw popeth at ei gilydd. Os ydyn ni eisiau fe i ddigwydd, mae'n rhaid inni wneud iddo fe ddigwydd, ac yn amlwg, mae pobl yn edrych i gyfeiriad y Llywodraeth am yr arweiniad yna.
Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod sefydliadau sector gyhoeddus a phreifat mawr yn datgarboneiddio eu fflydoedd ac yn symud, er enghraifft, i hydrogen, ac yn y blaen, ac yn y blaen—mae yna ddigon y gallwn i ei ddweud yn y maes yna. Mae Rhun wedi cyfeirio at Riversimple. Ces i'r fraint o ymweld â'r cwmni'r llynedd, yn Llandrindod, ac maen nhw wedi datblygu prototeip o gar o'r enw Rasa. Mae yn gar eco-coupé—dyna eu disgrifiad nhw o'r car—a'r model cyntaf fydd yn mynd ar y ffyrdd, gobeithio, yn y gwanwyn yma, gyda'r gefnogaeth iawn, a dyma'r her fan hyn i'r Llywodraeth. Gall fod ceir yn dod oddi ar y production line o fewn dwy flynedd, sy'n ysgafn, sy'n hynod effeithlon, ac sy'n lân—sydd ddim yn creu'r llygredd rŷn ni'n arfer ei weld.
Mae'r Llywodraeth yn barod i fuddsoddi mewn cwmnïau fel Aston Martin, a'r combustion engine, ac mae rhywun yn cydnabod bod yna le i'r rheini ar y foment, ond technoleg ddoe yw hwnnw, i bob pwrpas. Beth am roi £18 miliwn i rywun fel Riversimple, a buddsoddi yn nhechnoleg yfory? Yn fanna mae'r arloesi; yn fanna mae'r cyfleoedd, ac i'r cyfeiriad yna yr ŷn ni'n symud. Felly, fy mhle i yw bod angen i'r Llywodraeth osod sat nav gwleidyddol i sicrhau ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad iawn, ac mae hydrogen yn rhan o'r cyfeiriad hwnnw.