7. Dadl Plaid Cymru: Tywydd garw a difrod stormydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 4:46, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn a ddaw yn sgil y ddadl hon gan Blaid Cymru i ddilyn ymlaen o'r datganiad am lifogydd ddoe. Codais nifer o faterion yn natganiad y Gweinidog ddoe nad ymdriniwyd â hwy yn ei hymateb dilynol. Felly, rwyf am ddychwelyd at y materion hynny heddiw a chodi rhagor o faterion nad oedd amser ar gael ar eu cyfer ddoe.

Mae'r mater cyntaf yn ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru a chwestiwn atebolrwydd. Roedd hyn yn broblem arbennig ym Mhentre, lle roeddwn eto y bore yma gyda chynghorwyr lleol ac arweinydd Plaid Cymru, ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r dref honno yn unig. Roedd y tunelli o rwbel a olchwyd oddi ar y mynyddoedd a oedd yn blocio'r brif ffos ym Mhentre yn ffactor mewn cymunedau eraill hefyd, megis Ynys-hir a Blaenllechau. Hoffwn wahodd y Gweinidog i ymweld â chymunedau fel Pentre, Blaenllechau, Treorci, Ynys-hir, Ystrad, Porth a Threhafod i weld canlyniadau'r llifogydd, ac i weld maint yr hyn y mae pobl yn ei wynebu er mwyn cael eu traed tanynt eto.  

Y tro nesaf y dowch i'r Rhondda, Weinidog, os dowch chi gyda mi, fe wnaf sicrhau eich bod yn siarad â phobl sy'n gallu esbonio'n glir iawn wrthych beth yw effaith yr hyn y credant sy'n weithredu neu'n ddiffyg gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu bywydau. Efallai y gallech ddod â chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru gyda chi hefyd. Bydd ymweliad o'r fath yn eich helpu chi a swyddogion i weld pam fod arnom angen ymchwiliad annibynnol i achosion y llifogydd ar draws y Rhondda ac ymhellach i lawr y cwm. Ni fydd adolygiad mewnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddigon da.  

Mae cymunedau'r Rhondda yn mynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod eu camgymeriadau yn gadael cymaint o ddeunydd ar y mynydd, ac mewn rhai mannau yn newid cyrsiau dŵr drwy ddefnyddio peiriannau trwm ar y mynyddoedd heb wneud gwaith adfer wedyn. Er mwyn i breswylwyr gael cyfiawnder, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru gyfaddef eu bod yn atebol. Maent hefyd am i chi gydnabod nad yw'r canllawiau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn eu dilyn mewn perthynas â chwympo coed yn addas at y diben mwyach. Mae angen ailedrych arnynt eto, ac os ydych yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw, Weinidog, hoffwn glywed gennych pa mor gyflym y credwch y gellid cynnal adolygiad o'r fath.

Fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Cyfoeth Naturiol Cymru, a wnewch chi gefnogi camau i ddechrau'r broses hon? Tra bo pobl yn ei chael yn anodd cael eu traed tanynt eto, ni ellir oedi'n hir ar unrhyw ran o'r broses hon. Felly, rwy'n gofyn i chi weithredu'n gyflym o ran derbyn atebolrwydd, sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ac adolygu canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gwympo coed. Rhaid dysgu gwersi fel na all hyn byth ddigwydd eto. Pan fo coed yn cael eu cwympo, ni ddylid gadael cymaint o bren yn gorwedd ar y mynydd. Rhaid adfer cyrsiau dŵr os amherir arnynt drwy weithgarwch torri coed.

Gwelais enghraifft wych o hyn ym Mlaenllechau lle roedd nant yn mynd i mewn i'r eiddo drwy'r drws cefn ac yn gadael drwy lifo allan drwy'r drws blaen. Dywedodd y fenyw a oedd yn byw yno wrthyf fod y cyrsiau dŵr uwchben ei chartref wedi'u newid o ganlyniad i weithgarwch cwympo coed o'r fath. Yn naturiol, mae'n pryderu y bydd llif dŵr drwy ei chartref yn dod yn norm mewn glaw trwm o hyn ymlaen nes y gwneir gwaith i unioni pethau.

Felly, ar ran y fenyw hon a llawer o breswylwyr eraill, a wnewch chi, Weinidog, sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd a bod gwaith yn cael ei wneud i adfer pa ddifrod bynnag a achoswyd i gyrsiau dŵr ar fryniau ac ar fynyddoedd? Nid yn unig y mae'n rhaid inni unioni pethau a ddifrodwyd neu a newidiwyd, ond mae'n rhaid inni hefyd ddiogelu ein cymunedau rhag llifogydd pellach yn y dyfodol. Mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni ailaddasu ac ailgalibradu popeth yr arferem feddwl eu bod yn normal. Mae gwyddonwyr yn dweud wrthym y bydd digwyddiadau tywydd eithafol fel stormydd mawr yn dilyn ei gilydd yn gyflym yn dod yn fwy cyffredin. Mae'n rhaid i ni fod yn fwy parod y tro nesaf.

Felly, sut y gallwn amddiffyn ein cymunedau a'n pobl? Rhaid inni ddechrau drwy edrych ar raglen o blannu coed ar yr ucheldir, yn enwedig ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Os yw'r tir mewn dwylo preifat, mae angen cymell tirfeddianwyr i blannu a thyfu coed brodorol. Rhaid inni hefyd fynd ati o ddifrif i gwestiynu polisi cynllunio sy'n caniatáu i dai gael eu hadeiladu ar dir a all fod yn allweddol yn y frwydr i atal llifogydd. Rhaid inni hefyd gael rhaglen gynhwysfawr a rheolaidd i lanhau draeniau a cheuffosydd.

Fe wnaeth y llifogydd ddifrodi cartrefi, ac fe wnaeth ddifrodi cerbydau hefyd, ac nid yw yswiriant pawb yn cynnwys difrod llifogydd. Mae hyn yn niweidiol i bawb, ond yn enwedig i bobl a oedd yn dibynnu ar eu cerbydau at ddibenion cyflogaeth. Yng ngoleuni hynny, a wnewch chi ystyried caniatáu i bobl yr effeithiwyd arnynt gan hyn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, ymestyn y tocyn bws am ddim efallai i gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt? Mae pobl wedi dioddef digon; ni ddylent orfod talu'n ychwanegol i fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.

Hefyd, mae angen ystyried y bobl sydd wedi colli eu cerbydau gwaith os ydynt yn fasnachwyr hunangyflogedig. Mae'r bobl hyn nid yn unig wedi colli eu cartrefi, maent hefyd wedi colli eu bywoliaeth, a bydd rhai wedi colli eu hoffer o ganlyniad i'r llifogydd. Felly, hoffwn eich annog i ystyried y ffordd orau o helpu pobl yn y sefyllfa honno.

Gofynnais nifer o gwestiynau eraill ddoe na roddwyd ateb digonol iddynt. Holais ynglŷn â chymorth gyda biliau ynni a phecynnau cymorth yn debyg i'r hyn sydd ar gael mewn mannau eraill. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y pwyntiau hyn yn cael eu hateb yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma. Weinidog, mae pob un o'r materion hyn yn bethau y gallwch chi neu eich Llywodraeth eu rhoi. Rwy'n gobeithio y rhowch sylw iddynt, ac y byddwch yn gweithredu'r camau angenrheidiol y mae ein cymunedau yn eu mynnu ac yn eu disgwyl.