– Senedd Cymru ar 26 Chwefror 2020.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar dywydd garw a difrod stormydd, a galwaf ar Leanne Wood i gyflwyno'r cynnig. Leanne.
Cynnig NDM7278 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r difrod a'r dinistr a achoswyd i gymunedau ledled Cymru o ganlyniad i Storm Ciara a Storm Dennis.
2. Yn talu teyrnged i ymdrechion arwrol gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddolwyr cymunedol wrth ymateb i effeithiau tywydd garw a difrod stormydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
3. Yn cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud digwyddiadau tywydd garw, gan gynnwys achosion o lifogydd difrifol, yn fwy tebygol yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cychwyn ymchwiliad annibynnol llawn i achosion llifogydd diweddar, yn ogystal â chynnal adolygiad o ddigonolrwydd ei chynlluniau atal tywydd niweidiol yn gyffredinol;
b) sicrhau bod cefnogaeth ychwanegol ar gael i'r rhai sy'n profi trawma seicolegol o ganlyniad i'r dinistr diweddar, yn enwedig plant;
c) sicrhau bod y gronfa galedi ar gyfer yr unigolion hynny y mae tywydd garw a difrod storm yn effeithio arnynt yn sicrhau cydraddoldeb i fusnesau a pherchnogion tai, yn enwedig y rhai heb yswiriant;
d) esbonio statws y cymorth grant sydd ar gael ar gyfer adfer tir;
e) archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cynllun yswiriant cymdeithasol cost isel gyda'r nod o sicrhau yswiriant fforddiadwy ar gyfer eiddo bobman yng Nghymru;
f) gofyn am asesiad cynhwysfawr gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru o'r mesurau y byddai eu hangen i leihau'r risg flynyddol o lifogydd yng Nghymru i 1 y cant, 0.5 y cant a 0.1 y cant ac i gynyddu gwariant i'r perwyl hwn.
Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn a ddaw yn sgil y ddadl hon gan Blaid Cymru i ddilyn ymlaen o'r datganiad am lifogydd ddoe. Codais nifer o faterion yn natganiad y Gweinidog ddoe nad ymdriniwyd â hwy yn ei hymateb dilynol. Felly, rwyf am ddychwelyd at y materion hynny heddiw a chodi rhagor o faterion nad oedd amser ar gael ar eu cyfer ddoe.
Mae'r mater cyntaf yn ymwneud â Cyfoeth Naturiol Cymru a chwestiwn atebolrwydd. Roedd hyn yn broblem arbennig ym Mhentre, lle roeddwn eto y bore yma gyda chynghorwyr lleol ac arweinydd Plaid Cymru, ond nid yw wedi ei chyfyngu i'r dref honno yn unig. Roedd y tunelli o rwbel a olchwyd oddi ar y mynyddoedd a oedd yn blocio'r brif ffos ym Mhentre yn ffactor mewn cymunedau eraill hefyd, megis Ynys-hir a Blaenllechau. Hoffwn wahodd y Gweinidog i ymweld â chymunedau fel Pentre, Blaenllechau, Treorci, Ynys-hir, Ystrad, Porth a Threhafod i weld canlyniadau'r llifogydd, ac i weld maint yr hyn y mae pobl yn ei wynebu er mwyn cael eu traed tanynt eto.
Y tro nesaf y dowch i'r Rhondda, Weinidog, os dowch chi gyda mi, fe wnaf sicrhau eich bod yn siarad â phobl sy'n gallu esbonio'n glir iawn wrthych beth yw effaith yr hyn y credant sy'n weithredu neu'n ddiffyg gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu bywydau. Efallai y gallech ddod â chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru gyda chi hefyd. Bydd ymweliad o'r fath yn eich helpu chi a swyddogion i weld pam fod arnom angen ymchwiliad annibynnol i achosion y llifogydd ar draws y Rhondda ac ymhellach i lawr y cwm. Ni fydd adolygiad mewnol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddigon da.
Mae cymunedau'r Rhondda yn mynnu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod eu camgymeriadau yn gadael cymaint o ddeunydd ar y mynydd, ac mewn rhai mannau yn newid cyrsiau dŵr drwy ddefnyddio peiriannau trwm ar y mynyddoedd heb wneud gwaith adfer wedyn. Er mwyn i breswylwyr gael cyfiawnder, mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru gyfaddef eu bod yn atebol. Maent hefyd am i chi gydnabod nad yw'r canllawiau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn eu dilyn mewn perthynas â chwympo coed yn addas at y diben mwyach. Mae angen ailedrych arnynt eto, ac os ydych yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw, Weinidog, hoffwn glywed gennych pa mor gyflym y credwch y gellid cynnal adolygiad o'r fath.
Fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros Cyfoeth Naturiol Cymru, a wnewch chi gefnogi camau i ddechrau'r broses hon? Tra bo pobl yn ei chael yn anodd cael eu traed tanynt eto, ni ellir oedi'n hir ar unrhyw ran o'r broses hon. Felly, rwy'n gofyn i chi weithredu'n gyflym o ran derbyn atebolrwydd, sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ac adolygu canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gwympo coed. Rhaid dysgu gwersi fel na all hyn byth ddigwydd eto. Pan fo coed yn cael eu cwympo, ni ddylid gadael cymaint o bren yn gorwedd ar y mynydd. Rhaid adfer cyrsiau dŵr os amherir arnynt drwy weithgarwch torri coed.
Gwelais enghraifft wych o hyn ym Mlaenllechau lle roedd nant yn mynd i mewn i'r eiddo drwy'r drws cefn ac yn gadael drwy lifo allan drwy'r drws blaen. Dywedodd y fenyw a oedd yn byw yno wrthyf fod y cyrsiau dŵr uwchben ei chartref wedi'u newid o ganlyniad i weithgarwch cwympo coed o'r fath. Yn naturiol, mae'n pryderu y bydd llif dŵr drwy ei chartref yn dod yn norm mewn glaw trwm o hyn ymlaen nes y gwneir gwaith i unioni pethau.
Felly, ar ran y fenyw hon a llawer o breswylwyr eraill, a wnewch chi, Weinidog, sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd a bod gwaith yn cael ei wneud i adfer pa ddifrod bynnag a achoswyd i gyrsiau dŵr ar fryniau ac ar fynyddoedd? Nid yn unig y mae'n rhaid inni unioni pethau a ddifrodwyd neu a newidiwyd, ond mae'n rhaid inni hefyd ddiogelu ein cymunedau rhag llifogydd pellach yn y dyfodol. Mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid i ni ailaddasu ac ailgalibradu popeth yr arferem feddwl eu bod yn normal. Mae gwyddonwyr yn dweud wrthym y bydd digwyddiadau tywydd eithafol fel stormydd mawr yn dilyn ei gilydd yn gyflym yn dod yn fwy cyffredin. Mae'n rhaid i ni fod yn fwy parod y tro nesaf.
Felly, sut y gallwn amddiffyn ein cymunedau a'n pobl? Rhaid inni ddechrau drwy edrych ar raglen o blannu coed ar yr ucheldir, yn enwedig ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Os yw'r tir mewn dwylo preifat, mae angen cymell tirfeddianwyr i blannu a thyfu coed brodorol. Rhaid inni hefyd fynd ati o ddifrif i gwestiynu polisi cynllunio sy'n caniatáu i dai gael eu hadeiladu ar dir a all fod yn allweddol yn y frwydr i atal llifogydd. Rhaid inni hefyd gael rhaglen gynhwysfawr a rheolaidd i lanhau draeniau a cheuffosydd.
Fe wnaeth y llifogydd ddifrodi cartrefi, ac fe wnaeth ddifrodi cerbydau hefyd, ac nid yw yswiriant pawb yn cynnwys difrod llifogydd. Mae hyn yn niweidiol i bawb, ond yn enwedig i bobl a oedd yn dibynnu ar eu cerbydau at ddibenion cyflogaeth. Yng ngoleuni hynny, a wnewch chi ystyried caniatáu i bobl yr effeithiwyd arnynt gan hyn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, ymestyn y tocyn bws am ddim efallai i gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt? Mae pobl wedi dioddef digon; ni ddylent orfod talu'n ychwanegol i fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.
Hefyd, mae angen ystyried y bobl sydd wedi colli eu cerbydau gwaith os ydynt yn fasnachwyr hunangyflogedig. Mae'r bobl hyn nid yn unig wedi colli eu cartrefi, maent hefyd wedi colli eu bywoliaeth, a bydd rhai wedi colli eu hoffer o ganlyniad i'r llifogydd. Felly, hoffwn eich annog i ystyried y ffordd orau o helpu pobl yn y sefyllfa honno.
Gofynnais nifer o gwestiynau eraill ddoe na roddwyd ateb digonol iddynt. Holais ynglŷn â chymorth gyda biliau ynni a phecynnau cymorth yn debyg i'r hyn sydd ar gael mewn mannau eraill. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y pwyntiau hyn yn cael eu hateb yn ystod y ddadl hon y prynhawn yma. Weinidog, mae pob un o'r materion hyn yn bethau y gallwch chi neu eich Llywodraeth eu rhoi. Rwy'n gobeithio y rhowch sylw iddynt, ac y byddwch yn gweithredu'r camau angenrheidiol y mae ein cymunedau yn eu mynnu ac yn eu disgwyl.
Rydw i wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Rydw i'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 1, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 4—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cymunedau a busnesau lleol yn cael cymorth parhaus y tu hwnt i'r gwaith glanhau cychwynnol i'w helpu i wella yn y tymor hir, ac i deall y camau sydd angen eu cymryd i liniaru llifogydd yn y dyfodol.
Gwelliant 5—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru canllawiau cynllunio drwy sefydlu lleiniau na ddylid datblygu arnynt mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd, megis gorlifdiroedd naturiol, i rwystro datblygiadau amhriodol a lleihau'r perygl o ddifrod i gartrefi a busnesau.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser cynnig y gwelliannau yn enw Darren Millar: 1, 4, 5 a 3 yn y ddadl y prynhawn yma.
Hoffwn ddechrau gyda'r pwynt fy mod yn sylweddoli, yn y trefniadau cyflwyno, fod gennych hawl i gyflwyno dadleuon 30 munud, a chytunaf â'r holl sylwadau a wnaeth y sawl a agorodd y ddadl y prynhawn yma, ond rwy'n credu bod mater mor ddifrifol yn teilyngu dadl lawn yn y Senedd yma. Mae perffaith hawl gan blaid i gyflwyno dadl 30 munud, ond mae braidd yn anodd cyfleu'r holl bwyntiau perthnasol iawn a wnaeth y sawl a agorodd y ddadl hon y prynhawn yma.
Felly, yn y gwelliannau rydym wedi'u cyflwyno heddiw, hoffwn ddweud ein bod yn sefyll ochr yn ochr â'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, yng ngogledd Cymru a de Cymru, oherwydd mae hwn yn fater i Gymru gyfan sy'n galw am ymateb digonol gan y ddwy Lywodraeth ac awdurdodau lleol hefyd. Ac mae'r gwasanaethau sydd wedi bod ar gael i gymunedau ar hyd a lled Cymru wedi dangos ysbryd Cymru ar ei orau, ac felly mae ein gwelliant Rhif 1, gobeithio, yn cryfhau'r pwynt a wneir yn y prif gynnig.
Credaf ei bod yn hollbwysig, yng ngwelliant 3, fod busnesau'n cael cynnig y cymorth i gasglu'r arian y bydd ei angen arnynt i'w cael drwy gyfnod anodd iawn yn ariannol, yn enwedig dros y misoedd nesaf tra byddant yn aros am y taliadau yswiriant, tra byddant yn disgwyl costau ailadeiladu, ac ailddatblygu peth o'r capasiti busnes y maent wedi'i golli oherwydd y llifogydd. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi a fydd yn cydnabod yr heriau y mae llawer o'r busnesau yn y cymunedau hyn sydd wedi cael eu taro—ac mae ystâd ddiwydiannol Trefforest yn enghraifft dda—lle bu difrod enfawr, a llawer o ardaloedd eraill ledled Cymru. Gall y Llywodraeth gyflwyno cynigion o'r fath. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd cefnogaeth i welliant 3.
Rwy'n gobeithio y bydd gwelliant 4 yn llwyddo heddiw hefyd, oherwydd credaf ei bod yn hanfodol, tra bo meddwl pawb yn briodol ar ganlyniadau uniongyrchol y llifogydd a'r effaith ddinistriol ar dai, busnesau a chymunedau, fod hyn yn mynd i fod yn ymdrech eithriadol o hir ac anodd i'r cymunedau hynny a'r unigolion yr effeithiwyd arnynt—gyda llawer o bobl yn wynebu chwech, wyth, 12 mis allan o'u cartrefi. Mae'n debygol y bydd busnesau'n wynebu cyfnod llawer hwy yn ailadeiladu'r busnesau hynny. Ac nid yw'n rhywbeth y gellir ei gau ymaith am ein bod wedi cael wythnos—wedi cael 10 diwrnod, wedi cael mis o ffocws arno. Bydd hyn yn cymryd misoedd lawer, sawl blwyddyn o ffocws, ac rwy'n gobeithio y bydd gwelliant 4 yn cael cefnogaeth y Cynulliad, oherwydd bydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth gymryd yr awenau, gan weithio gyda'i phartneriaid mewn llywodraeth leol a'r byrddau iechyd ac asiantaethau eraill, i wneud yn siŵr, ymhen tri mis, ymhen chwe mis, ymhen wyth mis, ymhen 12 mis, fod y cymorth hwnnw'n bendant iawn yno ac yn cael sylw penodol.
A hoffwn ofyn hefyd i'r Gweinidog ganolbwyntio rhai o ymdrechion y Llywodraeth ar ochel rhag y sgamiau y soniwyd amdanynt heddiw. Lle mae arian yn llifo i mewn i gymunedau, yn enwedig symiau mawr ohono, ac mewn sefyllfaoedd nad yw rhai cymunedau, unigolion, yn gyfarwydd â hwy, ysywaeth, yn ein cymdeithas, mae yna bobl sy'n barod i fanteisio ar wendid o'r fath. Ac rwy'n derbyn nad yw'n gyfrifoldeb uniongyrchol i'r Llywodraeth, ond gan weithio gyda phartneriaid—tynnu sylw at y prosesau na fydd llawer o bobl erioed wedi gorfod ymdrin â hwy o'r blaen a bod yn ymwybodol o bobl sydd ond yn mynd yno i geisio camfanteisio ar bobl.
A gwelliant 5—ac rwy'n sylweddoli bod fy nhri munud ar ben, ond gwelliant 5—
Diolch am dynnu fy sylw at hynny. [Chwerthin.]
Mae'n datgan yr hyn sy'n gwbl amlwg, a'r pwynt a wnaeth y sawl a agorodd y ddadl, Leanne Wood—ni ddylech adeiladu ar orlifdir, a bod yn onest. Dylid defnyddio gorlifdiroedd i'r union bwrpas y cawsant eu dynodi, sef i helpu i ddal dŵr, nid i adeiladu tai arnynt. Mae cynllunio'n gyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr; mae'n rhywbeth na ddylem ganiatáu iddo ddigwydd. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw arbennig i hynny oherwydd mae'n rhywbeth sydd o fewn gallu Llywodraeth Cymru i'w wneud a gall ei atal yfory. Diolch.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol welliant 2.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod yr ymchwiliadau sy’n cael eu cynnal i achos llifogydd yn cael eu cyhoeddi a bod y cymunedau yr effeithiwyd arnynt, y Senedd a’r awdurdodau annibynnol, gan gynnwys y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn cael craffu arnynt;
b) darparu cymorth ariannol ac ymarferol ychwanegol i’r unigolion a’r busnesau yr effeithiodd y llifogydd arnynt;
c) darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu gwneud gwaith trwsio brys ar amddiffynfeydd rhag llifogydd a seilwaith hanfodol arall;
d) cyhoeddi polisi cynllunio newydd a mapiau llifogydd eleni i wneud safiad cryfach ar ddatblygu ar y gorlifdir ac i adlewyrchu’r risgiau cynyddol a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd;
e) cyhoeddi Asesiad Perygl Llifogydd newydd i Gymru ochr yn ochr â Strategaeth Llifogydd ac Arfordirol newydd eleni a’i ddefnyddio i flaenoriaethu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sy’n diogelu’r cymunedau sy’n wynebu’r risg mwyaf o lifogydd o bob ffynhonnell – arfordirol, afonydd a dŵr arwyneb;
f) cynyddu’r cymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd newydd yn gynt.
Yn ffurfiol.
Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Nid oes llawer o bethau sy'n fwy brawychus na gweld eich cartref yn cael ei ddifrodi pan nad oes gennych unrhyw rym i'w atal. Yr wythnos diwethaf, dihunodd trigolion ar draws fy rhanbarth i weld dinistr difrod llifogydd ac maent wedi bod yn gwneud popeth yn eu gallu i ailadeiladu eu bywydau. Nawr, yn amlwg, mae ymdrechion yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar y glanhau uniongyrchol, ond ar ôl clirio'r llanast, bydd cwestiynau'n aros, er enghraifft pam na ragwelwyd y digwyddiadau hyn gan y rhai sydd mewn grym. Nawr, honnwyd yn y Siambr hon nad oedd modd rhagweld y llifogydd hyn. Buaswn i'n anghytuno â hynny. Datganodd y Llywodraeth hon argyfwng hinsawdd y llynedd. Roedd hynny'n gydnabyddiaeth fod tymheredd uwch yn gwneud stormydd o'r fath yn fwy tebygol. Roedd y stormydd yn rhagweladwy. Pam na wnaed mwy o waith ar atal y dinistr, a pha wersi a gaiff eu dysgu?
Nawr, rwy'n deall bod Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn 2010 yn rhoi cyngor i Weinidogion ar yr angen i wario arian ar addasiadau i atal llifogydd. Diddymwyd y comisiwn yn 2013, ac mae gennyf dystiolaeth anecdotaidd fod y Llywodraeth wedi anwybyddu peth o'r cyngor a roddwyd. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog a ddilynwyd y cyngor arbenigol a roddwyd, a oes yna lwybr papur, ac os oes, a gaem weld y cyngor hwnnw. Hoffwn ofyn cwestiwn arall: pam mai'r bobl sydd â'r lleiaf o fodd yn aml yw'r bobl sy'n dioddef fwyaf yn yr amgylchiadau hyn?
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £500 yn ychwanegol i gartrefi heb yswiriant ar gynnwys aelwydydd, ond mae hynny fel diferyn mewn llifddwr disymud. Gadewch i ni fod yn onest—nid oedd y bobl heb yswiriant wedi esgeuluso'r angen i gael yswiriant, gwrthodwyd yswiriant iddynt oherwydd llifogydd blaenorol, neu dywedwyd wrthynt fod y premiymau'n rhy uchel iddynt allu eu fforddio. Felly, pa sgyrsiau y mae eich Llywodraeth yn eu cael gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i roi pwysau ar y diwydiant yswiriant i beidio â gwrthod yswiriant i'r bobl sydd ei angen fwyaf? Ac mae'r cynllun Flood Re sy'n bodoli i'w groesawu, ond pam fod cyn lleied o bobl yn gwybod amdano?
Hoffwn ofyn rhai pethau penodol i dawelu meddyliau trigolion. Yn Islwyn, cwympodd y geuffos ar safle Navigation, gan roi marc cwestiwn dros fisoedd o waith adfywio y gwn fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i'w gefnogi. Pa gefnogaeth y gellir ei rhoi i gyfeillion y Navigation i unioni hyn ac atal llifogydd mewn ardaloedd preswyl cyfagos? Yng Nghrymlyn, mae'n rhaid newid y seilwaith draenio priffyrdd neu bydd llifogydd i eiddo eto. Felly, os na ellir gwneud newidiadau, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried prynu'r eiddo yr effeithir arnynt?
Yn olaf, mae trigolion yn y Fenni yn pryderu y bydd cynlluniau i israddio eu hadran damweiniau ac achosion brys yn eu rhoi mewn perygl yn y dyfodol gan fod y brif ffordd i'r adran damweiniau ac achosion brys agosaf yng Nghwmbrân wedi cau yn ystod y llifogydd. Nawr, mae llifogydd fel hyn yn debygol o ddigwydd eto, felly pa ystyriaeth fydd y Llywodraeth yn ei rhoi i'r materion hyn wrth benderfynu a ddylid atal yr adran honno rhag cau?
Lywydd, nid oes neb yn honni bod cynghorau na'r Llywodraeth wedi methu gweithredu i helpu pobl yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd drwy falais. Nid oedd unrhyw falais, ond roedd yna elfen o esgeulustod, methiant i ragweld y rhagweladwy. Mae pobl am gael sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn barod amdani y tro nesaf. Weinidog, a allwn ni roi'r sicrwydd hwnnw iddynt?
Weinidog, o gofio'r amser cyfyngedig, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ychydig o gwestiynau ac ati a materion sy'n codi o ganlyniad i'r cynnig hwn. Yr un cyntaf yw fy mod yn credu y byddai'n ddefnyddiol iawn cael dadansoddiad iechyd cyhoeddus yn sgil y digwyddiadau hyn, nid yn unig mewn perthynas â'r trawma seicolegol a ddioddefwyd, ond gwyddom fod llawer o bobl wrth glirio eu cartrefi wedi gorfod cael brechiadau tetanws ychwanegol a hefyd wedi cael eu rhoi ar gyfres o wrthfiotigau. Rydym wedi gweld pobl yn cael llid ar eu croen mewn mannau lle cawsant gytiau o ganlyniad i'r broses hon. Nawr, mae hyn yn eithaf arwyddocaol ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sy'n werth cynnal gwerthusiad iechyd y cyhoedd arno.
Y mater arall a godwyd, wrth gwrs, yw amddiffynfeydd rhag llifogydd. Gwn fod Llywodraeth Cymru, yn Ilan, gydag arian Ewropeaidd, wedi buddsoddi'n sylweddol mewn pyllau cyfyngu ar gyfer dŵr sy'n rhedeg oddi ar y bryniau uwchben Rhydfelen, ac mae hynny, mewn gwirionedd, wedi gweithio'n effeithiol iawn. Fe weithiodd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond daeth dŵr dros eu pennau mewn rhai mannau ac roedd rhai mannau lle gellid bod wedi rhoi rhai camau ar waith a fyddai wedi cyfyngu ar y llifogydd a ddigwyddodd—yn sicr nid ar raddfa a welwyd erioed o'r blaen, oherwydd roedd yn ardal a welai lifogydd yn rheolaidd.
Y mater arall, wrth gwrs, mewn ardaloedd o gwmpas yr A470—mae draeniad ceuffosydd, clirio ceuffosydd, yn amlwg yn rhywbeth sydd wedi bod yn broblem braidd. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynglŷn â hyn ar adeg arall. Ond yn amlwg, roedd yna gartrefi a ddioddefodd lifogydd yno, nid o ganlyniad i'r ffaith bod Afon Taf yn gorlifo, ond o ganlyniad i'r ceuffosydd hynny'n gorlifo, a hynny, rwy'n tybio, o ganlyniad i ddiffyg gwaith cynnal a chadw.
Maes arall sy'n rhaid mynd i'r afael ag ef, mae'n ymddangos i mi, yw'r modd y lleolir cynwysyddion mawr a mathau tebyg o wrthrychau mewn ardaloedd sy'n agored i lifogydd. Oherwydd os yw'r cynwysyddion hyn yn llifo i lawr yr afon, gan daro pontydd, mae'n dyblu ac yn cynyddu'r difrod yn aruthrol. Mae'n ymddangos i mi fod angen inni edrych ar y trefniadau cynllunio neu'r trefniadau trwyddedu eu hunain, neu'r trefniadau sy'n bodoli i bobl gael gosod gwrthrychau o'r fath yno.
Ac yna, yn olaf, rwyf wedi ysgrifennu am hyn eto ar adeg arall, ac rwy'n credu bod angen moratoriwm ar ddatblygiadau cynllunio arfaethedig ar orlifdiroedd, gydag angen i adolygu'r hyn rydym yn ei ddeall wrth 'orlifdir'. Oherwydd, yn ddigon amlwg, ceir ardaloedd sy'n cael eu datblygu ond ychydig bach y tu allan i orlifdiroedd, ond yng ngoleuni'r hyn a wyddom bellach ac a welwn bellach, mae gwir angen eu hailasesu. Felly, mae angen inni gael moratoriwm ar ddatblygiadau, oherwydd mae datblygiadau a all ddigwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf—mae'n rhy hwyr mewn gwirionedd o ran y canlyniadau a all ddeillio o hynny. Felly, rwy'n gofyn efallai mai un o'r pethau sydd angen inni ei wneud yw ystyried natur cynllunio a natur yr hyn yr arferem ei ddeall yn flaenorol fel gorlifdir, ac adolygu hynny.
Ni wnaf ailadrodd y dadleuon ynglŷn â pham y mae angen inni weithredu ar hyn. Mae newid hinsawdd yn realiti a byddwn yn gweld mwy o'r digwyddiadau digyffelyb hyn yn y dyfodol. Ond mae fy rhanbarth i, fel llawer o rai eraill, wedi cael ei effeithio a bûm yn siarad â phobl ers dydd Sul sydd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol ynglŷn â sut y newidiodd hyn eu bywydau dros nos.
O ran y materion lleol yn unig, rwy'n credu—rwyf yma'n aml yn beirniadu awdurdodau lleol, ond rwy'n credu bod llawer yn fy rhanbarth wedi ymateb yn dda iawn a chlywsom adroddiadau am dimau o'r awdurdodau lleol a oedd allan yn gweithio sifftiau dwbl neu'n hirach na hynny hyd yn oed. Mae un cydlynydd lleol yn ardal Castell-nedd, o'r enw Emma, wedi bod allan yn Aberdulais ac nid yw wedi stopio ers dros wythnos ac mae hi'n cydlynu ymdrech enfawr yn y gymuned ac erbyn hyn mae hi'n un o bileri'r gymuned. Y bobl hyn ledled Cymru, boed yn weithwyr cyngor neu'n wirfoddolwyr—dim ond mewn argyfwng y gallwch wybod beth y byddech yn ei wneud ac rydym wedi gweld gweithgarwch anhygoel gan bobl ledled Cymru, rwy'n credu, sydd wedi camu ymlaen a thorchi eu llewys a bwrw iddi. Nid wyf wedi bod yn un ohonynt, ac rwyf wedi cael fy meirniadu am ymffrostio mewn rhinweddau am na allaf fynd allan yno. Ond credwch fi, pe na bawn i bron naw mis yn feichiog, buaswn allan yno ac fe fuaswn yn helpu, fel pawb arall yma yng Nghymru.
Yn Aberdulais—Ochr y Gamlas, mae gennyf lawer o ffrindiau sy'n byw yno. Maent wrth ymyl y gamlas. Maent wedi dioddef llifogydd dro ar ôl tro, a'r tro hwn, mae carthion wedi dod i mewn i gefn eu tai. Ac maent yn siomedig nad ydynt yn sicr pam fod hynny wedi digwydd, ac nid yw Dŵr Cymru wedi egluro iddynt yn union pam y mae'r carthion wedi dod i mewn i'w cartrefi. Mae llawer o'r trigolion hynny wedi mynd yn sâl o ganlyniad, fel y dywedodd Mick Antoniw.
A phe bawn i'n sgrialu o gwmpas fel AC, yn ceisio darganfod—. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi gwybodaeth i mi; roedd CNC yn rhoi gwybodaeth i mi; Dŵr Cymru—. Yr unig beth y maent am ei wybod yw beth y mae'n rhaid iddynt ei wneud mewn sefyllfa o argyfwng. Nid ydynt am ddarllen dogfennau mawr ynglŷn â sut i lanhau carthion. Maent am gael cyngor, ac maent am gael rhywun wrth law sy'n meddu ar yr arbenigedd, fel y dywedodd y Prif Weinidog sy'n digwydd; ni welais hynny yn fy rhanbarth i.
Dywedodd Ochr y Gamlas wrthym hefyd, y tro diwethaf iddynt gael llifogydd yno, fod cyfarfod brys yn y Lleng Brydeinig—ni chefais wahoddiad iddo—a'u bod wedi addo cael amddiffynfeydd cryfach rhag llifogydd yno. Rwyf am weld cyfarfod brys arall o'r fath yn cael ei drefnu gyda'r holl ACau, yr holl gynrychiolwyr, yno, fel y gallwn ddeall yn union sut y gallwn adeiladu ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yn yr ardal honno, gan edrych ar sut y gellir eu gwella fel y gallwn oll geisio gwneud yn well y tro nesaf y bydd yn digwydd.
Credaf fod y diffyg gwybodaeth yn allweddol iddynt. Nid oeddent yn gwybod pa bryd i adael eu tai. Ac os edrychwch ar y bagiau tywod, o'u cymharu â rhai ardaloedd eraill yng Nghymru, roedd yn eithaf truenus. Ni wnaethant fawr ddim i helpu yn hynny o beth. Roedd mater arall yn fy rhanbarth yn ymwneud â Canal View Café yn Resolfen. Mae bellach wedi cau o ganlyniad i ddifrod ac rwy'n ceisio eu helpu i ddod o hyd i ffyrdd y gallant ailadeiladu eu caffi ac ailagor. Felly, hoffwn apelio, fel y mae ACau eraill wedi gwneud yma nawr, ar bobl i helpu yn hynny o beth a rhoi cefnogaeth iddynt.
Felly, wrth gwrs, mae'n rhaid inni drafod yr elfennau ymarferol, ond yn y tymor hir, credaf ein bod i gyd am weld atebion ac rydym i gyd yn awyddus i fod yn rhan adeiladol o'r drafodaeth hon, oherwydd nid ar Gastell-nedd Port Talbot, Ystalyfera, y Rhondda, Cwmbrân yn unig y bydd llifogydd yn effeithio, byddant yn effeithio ar bob ardal. Oherwydd dyna mae newid hinsawdd yn ei wneud. Nid yw'n gwahaniaethu ar sail y plwyfoldeb a allai fod gennym yma yng Nghymru. Ni fydd yn gwahaniaethu ar y sail honno. Bydd yn amharu ar ein bywydau a bydd yn effeithio arnom mewn llawer o wahanol ffyrdd. Felly, os gallwn weithio gyda'n gilydd ar hynny, buaswn yn gobeithio y byddwn yn llwyddiannus.
Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig nawr i gyfrannu—Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd. Croesawaf y ddadl heddiw ynglŷn â'r llifogydd a brofwyd gan gymunedau ledled Cymru yn ddiweddar o ganlyniad i stormydd Ciara a Dennis. Rwy'n credu ei bod yn gyfle arall i ni ddiolch eto am waith diflino ein gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a gwirfoddolwyr yn eu hymateb i'r stormydd. Rydym wedi cael ein profi'n ddifrifol yn ein cymunedau dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ond rwy'n credu bod pobl Cymru wedi dangos gwytnwch eithriadol.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Prif Weinidog a minnau wedi ymweld â nifer o gymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, ac wedi gweld drosom ein hunain y dinistr y mae llifogydd yn ei achosi i deuluoedd a pherchnogion busnes. Fel y mae eraill wedi'i ddweud, mae gweld eich cartref neu eich busnes yn llawn o lifddwr yn drawmatig iawn, ac rwy'n cydymdeimlo'n ddiffuant â phawb y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnynt. Bydd fy nghyd-Weinidogion a minnau'n parhau i ymweld â chymunedau yr effeithiwyd arnynt yr wythnos hon a thros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Credaf fod y ffordd y mae'r cymunedau hynny wedi dod at ei gilydd yn wyneb y digwyddiadau dinistriol hyn yn adlewyrchiad clir iawn o'r math o ymateb y maent yn ei ddisgwyl gennym i gyd.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Na, ychydig iawn o amser sydd gennyf.
Fel y cydnabu eraill, mae maint y bygythiad i gymunedau Cymru yn sgil yr argyfwng hinsawdd yn glir iawn, ac mae amlder a dwyster stormydd fel Ciara a Dennis yn cynyddu, felly mae'n hanfodol ein bod yn ysgogi ymateb cyflymach a mwy cynhwysfawr i'r argyfwng hinsawdd. Mae gwelliant y Llywodraeth i gynnig Plaid Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad y gobeithiaf y bydd y Senedd hon yn ei rannu. Rhaid inni gynnig rhyddhad gwirioneddol, penodol a buan i bobl ar yr un pryd â sicrhau ein bod yn rhoi mesurau ar waith ar frys i amddiffyn ein cymunedau yn fwy hirdymor.
Os caf edrych ar bwynt 4—a chredaf fod hyn mewn ymateb, yn gyntaf, i Leanne Wood—bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswydd i ymchwilio i achosion y llifogydd diweddar. Rhaid cyhoeddi'r adroddiadau hynny a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd graffu arnynt nid yn unig gan y cymunedau yr effeithiwyd arnynt ac arbenigwyr annibynnol, ond gan Aelodau'r Senedd hon. Fel y gŵyr Leanne, mae CNC yn gweithio'n agos gyda RhCT i ymchwilio a dwyn ynghyd eu canfyddiadau. Rwy'n credu y dylid caniatáu iddynt wneud hynny, ac rwy'n rhoi fy ymrwymiad i chi y byddaf yn dod ar ymweliad gyda chi a byddaf yn sicrhau bod CNC yn dod gyda mi ar yr adeg briodol.
O ran cefnogi pobl, rydym wedi dod o hyd i arian, fel y gŵyr yr Aelodau, ar unwaith i helpu pobl yr effeithiwyd arnynt, ac wedi rhoi cymorth ychwanegol i'r rhai sydd heb yswiriant. Llwyddasom i sicrhau bod system ar waith yn gyflym iawn i gael yr arian hwnnw drwy'r drws i'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Gwn fod pobl eisoes wedi dechrau derbyn y taliadau hynny o £500 a £1,000. Mae Aelodau'n gwneud pwyntiau pwysig iawn ynglŷn ag yswiriant: mae cynllun Flood Re Llywodraeth y DU wedi ei gwneud yn bosibl i lawer o bobl na fyddent wedi gallu gwneud hynny ychydig flynyddoedd yn ôl i gael yswiriant rhag difrod llifogydd. Ond ni chredaf fod digon o bobl yn gwybod am hwnnw, felly rwy'n credu ei fod yn faes y mae angen i ni weithio gyda'r gymdeithas yswiriant i'w hyrwyddo.
O ran y tymor hwy, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â maint y difrod oherwydd unwaith eto, rydym yn mynd i gyflwyno arian ychwanegol yn y tymor byrrach ac yn y tymor hwy. Ond fel y dywedais ddoe, bydd yn rhaid i bobl fod yn amyneddgar, oherwydd gallai gymryd misoedd lawer i ganfod y swm terfynol o gyllid sydd ei angen. Rydym hefyd wedi gwahodd awdurdodau lleol i wneud cais am arian i gyflawni gwaith atgyweirio brys i asedau llifogydd. Rydym wedi dweud y byddwn yn ariannu'r rheini 100 y cant, ac mae fy swyddogion hefyd yn adolygu'r ceisiadau a ddaw i law, a byddant yn rhyddhau cyllid cyn gynted ag sy'n bosibl i awdurdodau lleol a CNC.
Mae sawl Aelod wedi mynegi pryderon ynglŷn â rheolau cynllunio a sut y dylid eu cryfhau fel bod mwy o allu i wrthsefyll llifogydd yn cael ei gynllunio ym mhob datblygiad newydd, yn enwedig o ystyried yr argyfwng hinsawdd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi cael ymgynghoriad yn ddiweddar ar nodyn cyngor technegol 15, a bydd hwnnw'n cyflwyno'r newidiadau sy'n angenrheidiol yn ein barn ni er mwyn cyflawni hynny. Byddwn hefyd yn cyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd honno'n nodi ein dull o weithredu yng Nghymru dros y degawd nesaf, gan ategu cyngor cynllunio newydd a chysoni â'n polisi adnoddau naturiol, annog dulliau o weithredu ar sail dalgylchoedd ehangach a darparu gwell gwybodaeth i'r cyhoedd. Roedd rhywun arall—rwy'n credu mai Bethan Sayed a wnaeth y pwynt ynghylch gwell gwybodaeth i'r cyhoedd. Eleni byddwn hefyd yn cyhoeddi asesiad newydd o berygl llifogydd ar gyfer Cymru i lywio ein penderfyniadau gan ddefnyddio'r data diweddaraf, a blaenoriaethu buddsoddiad i'r cymunedau sy'n wynebu'r risg fwyaf.
Mae eisoes yn amlwg fod ein buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf wedi diogelu 73,000 o gartrefi ledled Cymru—9,000 o gartrefi ar Afon Taf yn unig. Rwyf am roi mwy o gymorth ariannol ac ymarferol i awdurdodau lleol fel y gallwn gyflymu'r gwaith o ddatblygu cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd a phrosiectau lliniaru naturiol newydd. Mae angen inni weithio gyda'n hawdurdodau lleol hefyd a CNC i edrych ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd. Llwyddodd pob amddiffyniad rhag llifogydd i ddal ei dir, ond dim ond o drwch blewyn yn achos rhai, ac mae angen inni ailedrych a sicrhau, os oes angen gwneud unrhyw waith, ein bod yn gwneud hynny'n gyflym iawn.
Gwnaeth Andrew R.T. Davies, rwy'n credu, bwynt pwysig iawn am sgamiau, oherwydd rydym wedi gweld hyn, onid ydym, mewn sefyllfaoedd eraill, efallai pan fydd pobl wedi colli eu swyddi ac wedi cael arian diswyddo sylweddol, er enghraifft—rydym wedi bod yn ymwybodol fod sgamiau wedi digwydd, felly rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt da iawn i'w wneud. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf—mae fy amser yn dod i ben.
Felly, mae'n ymwneud â phawb yn gweithio gyda'i gilydd. Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Senedd hon am wneud hynny, oherwydd gwyddom fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn ledled Cymru. Rwyf am dawelu meddwl pobl yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i'w helpu i adfer eu cymunedau.
Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ie, mae hanner awr yn gyfnod byr ar gyfer dadl fel hyn. Wrth gwrs, dyw e ddim yr unig un byddwn ni'n ei chael, ac mi ddefnyddiwyd yr hanner awr arall, wrth gwrs, i bwyntio at un ffordd o geisio mynd i'r afael â newid hinsawdd—yr un thema greiddiol sydd i'r ddwy ddadl, i bob pwrpas, sef bod yr argyfwng hinsawdd yn realiti. Dyna'r neges sy'n dod drwyddo yn glir i bob un ohonom ni, dwi'n siŵr, o'r dadleuon yma. Hynny yw, mae achosion llifogydd fel hyn, yn anffodus, yn mynd i ddod yn fwy cyffredin; mae yna lefydd sydd ddim wedi gorlifo yn y gorffennol sy'n mynd i fod o dan fwy o fygythiad yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae angen ymatebion ar frys. Dwi'n meddwl bod yna dueddiad wedi bod inni feddwl gallwn ni ffeindio ymatebion erbyn fory. Wel, mae fory wedi dod, bobl. Mae'n rhaid inni ffeindio'r ymatebon yma heddiw. Felly, mae yna angen ymatebion yn syth, immediate, ac mae'r rheini yn cael eu rhestru yn ein cynnig ni, wrth gwrs, sef ymchwiliad annibynnol, bod angen adolygu cynlluniau i atal tywydd niweidiol, atebion ynglŷn â'r gronfa galedi, delio gyda issues yswiriant a'r holl bwyntiau sydd wedi cael eu codi yn y ddadl yma, plus yr atebion mwy hirdymor, wrth gwrs: seilwaith caled a meddal, mwy o resilience yn y system, a delio gyda materion yn y maes cynllunio.
Mae gen i stâd o dai yn agos i lle dwi'n byw sydd wedi cael eu codi yn y blynyddoedd diwethaf ar gae o'r enw 'cae samwn'. A'r rheswm mae'n cael ei alw'n 'cae salmwn' yw am fod y caeau'n gorlifo bob blwyddyn, ac roedd y trigolion lleol yn mynd i lawr i'r cae i hel y samwn mas o'r pyllau pan oedd y dŵr yn cilio. Mae yna stâd o dai yno. A dŷch chi'n gwybod beth? Mi orlifodd y stâd yna ychydig flynyddoedd yn ôl. Wel, mae hynny'n dweud y cyfan sydd angen i ni ei wybod. Mae yna wersi i'w dysgu, ac yn amlwg dydyn ni ddim wedi'u dysgu nhw'n ddigonol.
Yn y sylwadau agoriadol i'r ddadl hon, pan glywsom am yr angen i ddiogelu ar gyfer y dyfodol, glynodd rhai geiriau yn fy meddwl: mae angen i ni 'ailaddasu' ac mae angen i ni 'ailgalibradu'. Fel cymdeithas, mae angen i ni ailaddasu ac mae angen i ni ailgalibradu. Mae angen i'r economi ailaddasu ac ailgalibradu. Mae gwir angen i'n cymunedau, a phawb ohonom fel unigolion, ailaddasu ac ailgalibradu. A rhaid i'r Llywodraeth fod yn gatalydd sy'n hwyluso ac yn arwain y newid hwnnw. Rhaid inni ddysgu o'r gofid a ddioddefodd cynifer o bobl yn ystod yr wythnosau diwethaf, a rhaid inni leihau'r achosion o unrhyw brofiadau tebyg yn y dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio, felly, y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.