8. Dadl Plaid Brexit: Datganoli

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 5:41, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y cofiwch chi yng nghyfraniad Dai Lloyd ei fod yn glir iawn fod datganoli wedi cyflawni rhai pethau da. Cyflwynwyd llawer o'r pethau hynny gan Weinidogion Llywodraeth Plaid Cymru, cyflawnwyd rhai ohonynt gan Weinidogion Llafur neu Ddemocratiaid Rhyddfrydol. Nid ydym yn dweud ei fod yn fethiant llwyr, ond rydym yn dweud nad yw wedi cyrraedd ei botensial ac ar hyn, rwy'n credu y byddem yn cytuno.