8. Dadl Plaid Brexit: Datganoli

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:27, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Fe geisiaf wneud ambell bwynt. Dyddiau cynnar datganoli yw'r rhain i raddau helaeth. Rydym yn y broses o sefydlogi, os mynnwch. Ac os edrychwn ar y berthynas rhwng y gwledydd yn yr undeb—dyma un maes y cytunwn arno efallai—yn union fel y credwch chi y bydd y DU yn gryfach o fod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n credu y gallem fod yn gryfach fel gwledydd ar yr ynysoedd hyn drwy ddod yn wledydd annibynnol, gan gytuno ar ddull o gydweithio.