Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 26 Chwefror 2020.
Lywydd, nid oeddwn yn bwriadu siarad, ond ar ôl gwrando ar y cyfraniadau, meddyliais y dylwn. Un o'r materion nad eir i'r afael ag ef byth gan y bobl sydd am weld diddymu'r Cynulliad yw'r hyn y mae'n ei olygu i weddill y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a pham na ddylai Cymru, yn unig mae'n ymddangos, gael ei llais ei hun. Pam na ddylai Cymru'n unig—cymharwch ni â'r Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr, Ynys Manaw, Jersey, Guernsey, dewiswch chi, Gibraltar—gael ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain? Pam, ymhen dwy flynedd, y bydd modd cael eich arestio am drosedd yn Lloegr nad yw'n drosedd yn Lloegr? Hynny yw, os ydych yn taro plentyn, ni allwch ddefnyddio cosb resymol yn amddiffyniad. Bydd modd i chi gael eich arestio yn Newcastle am drosedd nad yw'n drosedd yn Newcastle. Nonsens cyfreithiol yw hynny. Lol llwyr. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Ac nid yw mater awdurdodaeth mor radical ag y mae pobl yn ei feddwl. Mae'n normal, mewn gwirionedd. Dyma'r sefyllfa annormal lle nad oes gan Senedd awdurdodaeth.
Gwrandewais ar ddadleuon Mark Reckless. Fe'u cyflwynodd mewn digwyddiad a fynychwyd gennym ein dau yn Newcastle. Rhaid imi ei atgoffa na wnaethom geisio pwerau i amrywio'r dreth incwm. Fe'u gorfodwyd arnom, i bob pwrpas, gan Lywodraeth Geidwadol. Dyna beth a ddigwyddodd. Felly nid yw fel pe baem wedi twyllo pobl Cymru yn 2011. Penderfynodd Llywodraeth Geidwadol fod arnom angen—ac nid wyf o reidrwydd yn anghytuno â'r rhesymeg—cael pwerau codi refeniw er mwyn gallu benthyca. Ond nid oedd yn rhywbeth roeddem yn ei geisio'n benodol, oherwydd nid oedd gan Ogledd Iwerddon bwerau codi refeniw, ond roedd ganddynt allu i fenthyca.
A wyf yn credu y dylai Cymru fod yn gyfartal â'r Alban a Gogledd Iwerddon? Ydw. Ac fe'i clywais ddydd Sadwrn yn dweud gyda balchder fod ei daid yn Fianna Fáil TD, felly, yn aelod o'r lluoedd gwrth-gytuniad yn rhyfel cartref Iwerddon. Ond onid yw honno'n wers i ni? Pe bai Iwerddon wedi cael ymreolaeth—ac fe wyddom fod y rhyfel byd cyntaf wedi tarfu ar hynny—efallai na fyddai Iwerddon yn annibynnol heddiw. Diffyg anhyblygrwydd system San Steffan a arweiniodd at dorri un rhan o'r DU oddi ar y gweddill yn ôl yn 1921, oherwydd nid yw'r DU, cofiwch, yn 100 oed hyd yn oed gyda'i ffiniau presennol. Fy nadl i fyddai—ac rwy'n gwrando ar yr hyn y mae'n ei ddweud ynglŷn â ble y daw hyn i ben, mai proses yw datganoli nid digwyddiad, ble mae'n dod i ben—i mi, mae'n dod i ben gyda strwythur sy'n gwneud popeth yn glir. Mae eraill yn y Siambr am gael annibyniaeth. Nid wyf fi eisiau hynny; i mi, mae'n bedair tiriogaeth gyda'u pwerau eu hunain a senedd ffederal, beth bynnag rydych chi am ei alw, ar y brig.
Nid yw'n golygu mwy o wleidyddion. Nid oes angen 600 o ASau mewn senedd ffederal. Ychydig iawn o wasanaethau y mae Llywodraeth y DU yn eu darparu ar draws y DU i gyd, ychydig iawn: rheoli ffiniau, arian cyfred, polisi cyllidol, a dyna ni fwy neu lai. Mae trwyddedu cerbydau hyd yn oed wedi'u datganoli yng Ngogledd Iwerddon, ac ni wneir hynny gan—. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf? Amddiffyn. Roeddwn i'n gwybod fy mod wedi methu un. Nid wyf yn dymuno datganoli amddiffyn. Ac felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried. Ni fyddai angen ichi gael Senedd fawr yn y DU er mwyn craffu ar Lywodraeth y DU o dan yr amgylchiadau hynny.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r syniad hwn mai bai sefydliad ydyw—. Nawr, mae'n gwbl ddemocrataidd, wrth gwrs, i eraill yn y Siambr feirniadu Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn cytuno â'r hyn y maent wedi'i ddweud, ond dyna yw diben y Siambr, i gael dadleuon o'r fath, a phe na bai'r Siambr hon yma, ni fyddai'r dadleuon hynny'n digwydd. Mewn gwirionedd, ni fyddai gan yr un ohonom yn y Siambr hon lais. Ni fyddai unrhyw ddadl o gwbl. A dyna rywbeth y mae'n rhaid i ni ei gofio oherwydd gallwn ddadlau mai grym maleisus oedd San Steffan yn yr 1980au yng Nghymru. Dinistriodd y diwydiant glo. Dinistriodd y diwydiant dur. Gallwn ddadlau, 'Wel, y broblem yw San Steffan, gadewch inni ddiddymu San Steffan.' Yn yr un modd, gallech ddadlau mai democratiaeth yw'r broblem: 'Gadewch inni gael gwared ar ddemocratiaeth oherwydd y broblem yw bod pobl yng Nghymru yn pleidleisio dros y pleidiau anghywir.' Ac nid yw'n deg nad oes llais gan y dde-ganol—wel, mae'n galw ei hun yn dde-ganol, Neil Hamilton—yng Nghymru. Enillwch etholiadau.
Nid wyf am sefyll yma ac ymddiheuro bod fy mhlaid wedi bod yn llwyddiannus dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rwy'n gwybod ei bod yn mynd yn anos gyda phob etholiad—wrth gwrs ei fod. Mae pobl yn dweud, 'Wel, rydych chi mewn grym ers tro byd', ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i chi weithio'n galed i'w ymladd. Ond mae dweud bod pobl yng Nghymru yn rhy dwp i bob pwrpas i bleidleisio dros y math iawn o wleidyddiaeth a bod hynny'n rheswm dros ddiddymu'r sefydliad a grewyd ganddynt hwy eu hunain yn 1997, ac y penderfynasant hwy eu hunain yn 2011 drwy fwyafrif o bron i ddau i un—a byddai wedi bod yn uwch pe na bai'r arolygon barn wedi dangos y byddai'n fuddugoliaeth glir. Penderfynasant o ddau i un yn 2011, naw mlynedd yn ôl yn unig, y dylem gael pwerau sylfaenol yma yng Nghymru. Roedd hi'n amlwg dros beth y pleidleisiodd pobl ac roedd pobl yn ei wneud fel mater o falchder a chafwyd ymgyrch drawsbleidiol, a bod yn deg, a oedd yn cefnogi hynny.
Ac yn olaf, rwyf am ddweud hyn: fel y dywedais yn gynharach, ni allwch esgus bod yn unrhyw fath o genedl os nad oes gennych unrhyw strwythur gwleidyddol, yn enwedig mewn gwlad fel y DU lle byddai Senedd gan yr Alban, Cynulliad gan Ogledd Iwerddon, Manceinion, Llundain, Senedd San Steffan, a dim gan Gymru. Mae gan Gernyw hyd yn oed gyngor sir. Ac mae'r syniad rywsut fod ASau Cymreig mor brin o waith fel y gallant graffu ar faer Cymreig—yr unig ffordd y gallaf ei ddisgrifio—ffantasi lwyr yw honno. Rwy'n siŵr eu bod yn cael eu llethu gan waith fel y mae. Ac wrth gwrs, mae'n methu mynd i'r afael â'r cwestiwn: a yw hynny'n golygu felly y gallai'r 40 o ASau Cymreig gychwyn eu deddfwriaeth eu hunain? Oherwydd os nad yw hynny'n wir, mae hynny'n mynd yn uniongyrchol groes i ganlyniad y refferendwm yn 2011 pan benderfynodd pobl Cymru o fwyafrif helaeth mai dyma lle byddai deddfwriaeth sylfaenol yn cael ei drafftio a'i phasio mewn meysydd datganoledig.
Rwyf wedi bod wrthi am fwy o amser nag y bwriadwn, Lywydd, ond does bosibl, ar draws y DU i gyd, nad yw'r amser wedi dod i gael setliad cyfansoddiadol sefydlog er budd pawb.