8. Dadl Plaid Brexit: Datganoli

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 26 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:46, 26 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am ildio, Neil. Rydych chi wedi gwneud cyfraniad diddorol iawn. Rwy'n credu ei bod yn ddadl sy'n ysgogi'r meddwl. A fyddech yn cytuno, fel y dywedodd Darren Millar yn gynharach, fod yn rhaid inni wahaniaethu rhwng datganoli a Llywodraeth Cymru? Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud hynny. Er enghraifft, pe baech chi'n Brif Weinidog eich hun, efallai y byddech chi'n edrych ychydig yn fwy cydymdeimladol ar ddatganoli.