1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Mawrth 2020.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rhagolygon cyflogaeth y rhai sy'n gadael yr ysgol yng Nghymru? OAQ55168
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn.
Yn ystod y tymor Senedd hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn creu 100,000 o brentisiaethau newydd o ansawdd uchel, gan gryfhau'r gyfres o gamau yr ydym ni'n eu cymryd i helpu'r rhai sy'n gadael yr ysgol ac eraill i gael gwaith medrus.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae ffigurau'n dangos bod oddeutu 10 y cant o bobl ifanc 16 i 18 oed yng Nghymru nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant. Yn Lloegr, mae'n rhaid i bobl astudio neu hyfforddi tan eu bod yn 18 oed, gan naill ai fynd i'r coleg neu'r chweched dosbarth, gwneud prentisiaeth neu astudio'n rhan-amser tra eu bod yn gweithio neu'n gwirfoddoli. Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn dweud y dylid cyflwyno gofyniad dysgu dwy flynedd gorfodol tebyg, gyda chyfranogiad sgiliau craidd, yng Nghymru. Prif Weinidog, a wnewch chi gytuno i astudio'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus i weld a fydd cymryd y camau y maen nhw'n eu hargymell wir yn gwella rhagolygon y bydd ein plant a'n pobl ifanc yn cael gyrfaoedd o ansawdd da ar ôl gadael yr ysgol yng Nghymru os gwelwch yn dda?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Wrth gwrs, byddwn ni'n edrych ar yr holl dystiolaeth, ac mae hon yn ddadl hirsefydlog iawn yr ydym ni wedi ei chael dros flynyddoedd lawer, o ran pa un ai gorfodaeth yw'r ffordd orau i sicrhau llwybrau gwell at gyflogaeth i bobl ifanc ai peidio, neu ai atyniad y cynnig yw'r hyn y dylem ni ddibynnu arno. A bob tro yr ydym ni wedi cael y ddadl hon, rydym ni wedi dod i'r casgliad ei bod hi'n well canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod yr amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc yn ddigon cymhellol i wneud i'r bobl ifanc hynny fod eisiau dilyn y gwahanol lwybrau i waith.
Ac rwy'n credu y gallwn ni hawlio rhywfaint o lwyddiant ar gyfer y dull hwnnw, Llywydd. Nid ydym ni'n gorfodi pobl ifanc i wneud hyn, ond mae ein cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn uwch na'r rhai ar draws y Deyrnas Unedig, ac yn uwch na'r lleoedd hynny lle mai'r dull a ddefnyddir i sicrhau'r canlyniadau hynny yw gorfodaeth. Rwyf i eisiau i'r rhaglenni yr ydym ni'n eu cynnig yng Nghymru fod mor dda fel y bydd pobl ifanc bob amser yn dod o hyd i rywbeth a fydd yn eu cynorthwyo i newid eu bywydau o'r fan lle maen nhw heddiw i'r man lle y byddan nhw'n dymuno bod yn y dyfodol. Ac er y byddwn ni'n astudio tystiolaeth, wrth gwrs, am nawr, mae'n dal i fod yn well gennym ni'r ffordd honno o gynorthwyo pobl ifanc.
Fel y gwyddoch, £3.90 yw'r isafswm cyflog cenedlaethol presennol ar gyfer prentisiaethau blwyddyn gyntaf, ac mae hyn yn isel iawn a gall lesteirio pobl sydd â phryderon ynghylch cyflogadwyedd, a fydd eisiau cymryd neu efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd swyddi eraill yn ogystal â gwneud prentisiaeth. Rwy'n deall y bu amharodrwydd yn y gorffennol i ddilyn argymhellion ar gyfer grant cymorth byw neu fwrsari ar gyfer prentisiaethau incwm isel, yn ymwneud â phryderon y bydd yn cael ei ystyried yn fudd-dal trethadwy. Ond, o ystyried bod y rhan fwyaf o brentisiaid blwyddyn gyntaf ymhell o dan drothwy'r gyfradd dreth sylfaenol, ni fyddwn i wedi meddwl y byddai hyn yn ormod o broblem i chi ddechrau ei hystyried fel Llywodraeth Cymru.
Felly, beth fyddech chi'n gallu ei wneud yn hyn o beth, ac a allwch chi ymrwymo i ymchwilio i'r mater hwn, oherwydd mae llawer o brentisiaid wedi codi hyn gyda mi fel rheswm pam weithiau y byddan nhw'n rhoi'r gorau i ddilyn y llwybr addysg penodol hwn?
Wel, Llywydd, fel Llywodraeth, rydym ni eisiau ymdrin ag unrhyw rwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu o ran manteisio ar gynigion y maen nhw'n credu fydd yn fanteisiol iddyn nhw. Dyna pam yr ydym ni wedi cadw lwfansau cynhaliaeth addysg yma yng Nghymru, pan eu bod nhw wedi cael eu diddymu mewn mannau eraill. Rwy'n gyfarwydd â'r dadleuon technegol a fu ynglŷn â pha un a fyddai prentisiaid, pe byddech chi'n eu talu mewn ffordd benodol, yn canfod eu hunain yn colli'r arian hwnnw gan y byddai rhan wahanol o'r system yn ei adfachu. Wrth gwrs, rydym ni'n dal i adolygu hynny, ac rwy'n hapus iawn i gymryd golwg arall arno yng ngoleuni'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud y prynhawn yma.
Prif Weinidog, mae'r gweithgynhyrchydd trenau Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles yn fy etholaeth i yn ychwanegiad i'w groesawu i'r economi leol, ac mae wedi bod yn bleser ymweld â nhw a siarad â'r rheolwyr am ddyfodol y gwaith. Mae ganddyn nhw un rhwystredigaeth—wel, efallai fod ganddyn nhw fwy nag un, ond un rhwystredigaeth yw'r diffyg menywod a merched sy'n dod ymlaen i gymryd swyddi peirianneg yn y gwaith. Yng Ngwlad y Basg, rwy'n credu mai menywod yw tua hanner eu peirianwyr, ond dim ond nifer fach sydd yn y gwaith yng Nghasnewydd. Maen nhw'n gweithio gydag ysgolion a cholegau lleol, ond rwy'n meddwl tybed beth allech chi ei ddweud o ran uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn fwy agored i'n merched a'n menywod, ac yn wir bod gan gyflogwyr gronfa dalent ehangach i fanteisio arni.
Diolchaf i John Griffiths am y pwyntiau pwysig yna. Roedd yn bleser cyfarfod, gyda fy nghyd-Weinidog Ken Skates, â holl fwrdd CAF pan ddaethant i Gymru yn ail hanner y llynedd. Daethant i'n cyfarfod ni yn syth o fod wedi cyfarfod â'r gweithlu yng Nghasnewydd, ac roedden nhw'n awyddus iawn i bwysleisio cymaint o argraff yr oedd safon y bobl a recriwtiwyd i weithio iddyn nhw yng Nghasnewydd wedi ei wneud arnyn nhw, ymrwymiad y bobl hynny i sicrhau llwyddiant menter newydd CAF yno. Ond, wrth gwrs, mae'r pwynt y mae John Griffiths yn ei wneud yn un mwy cyffredinol. Rydym ni'n gwneud cynnydd o ran yr agenda hon, Llywydd. Pan gefais gyfarfod gyda Tata yn Shotton yn ddiweddar, a chydag Airbus ym Mrychdyn, i gyfarfod eu prentisiaid ifanc, roedd peirianwyr benywaidd ifanc ym mhob grŵp y gwnaethom ni ei gyfarfod. Ond maen nhw'n dal i fod yn lleiafrif. Mae llawer mwy o ddynion ifanc sy'n eu canfod eu hunain yn dilyn y llwybr hwnnw o hyd. Rydym ni wedi ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol i hysbysu menywod ifanc am y posibiliadau hynny, eu gwneud yn hygyrch i fenywod ifanc, bod esiamplau yno y gallan nhw eu gweld, ac y gallwn nhw eu dilyn, a'i gwneud yn eglur iddyn nhw bod gyrfaoedd yn y rhan hon o'r sbectrwm cyflogaeth mor agored iddyn nhw yng Nghymru ag y bydden nhw i unrhyw berson arall.