1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Mawrth 2020.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r cymoedd gogleddol? OAQ55186
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn dod â phwerau a buddsoddiadau ar draws ein cyfrifoldebau ynghyd i gefnogi'r broses o adfywio lleoedd a chreu cyfleoedd i bobl ar draws y Cymoedd gogleddol.
A chyda hynny mewn golwg, rwy'n falch o ddweud bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi llunio ei uwchgynllun ardal adfywio Blaenau'r Cymoedd, a fydd yn mynd i'r afael â heriau twf a ffyniant yn y Cymoedd gogleddol, mewn ardaloedd fel Bargoed, Nelson, Senghennydd, a'r lleoedd hynny sy'n anodd eu cyrraedd. Maen nhw'n cyfeirio yn eu hadroddiad at fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, metro de Cymru, a thasglu'r Cymoedd, y mae'n rhaid i bob un ohonyn nhw fod yn gysylltiedig. Ac mae cyngor Caerffili hefyd wedi neilltuo £24.5 miliwn o gronfeydd wrth gefn ar gyfer prosiectau cyfalaf. Dylai'r holl bethau hyn gysylltu â pholisi Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall lleoedd fel Bargoed a Rhymni fod yn ganolfannau strategol yn y dyfodol ar gyfer twf a datblygiad, fel bod pobl yn teithio i'r gogledd i weithio, ac nid dim ond i'r de i weithio. Sut gall y Prif Weinidog gefnogi hynny? Pa ddeialog y mae wedi ei chael gyda chyngor Caerffili ynglŷn â'u huwchgynllun, a pha gynlluniau fydd gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i gyd-fynd â'r twf uchelgeisiol hwn sydd gan gyngor Caerffili?
Llywydd, a gaf i ddechrau trwy longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar yr uchelgais y mae wedi ei nodi yn ei uwchgynllun ar gyfer ardal adfywio'r Cymoedd? Gwn fod ymgynghoriad ar y cynllun hwnnw'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac y bydd ar agor am weddill y mis hwn. Ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â swyddogion yng nghyngor Caerffili i wneud yn siŵr, fel y dywedodd Hefin David, bod y mentrau a gynigir gan yr awdurdod lleol ei hun yn cael eu cysylltu â'r mentrau niferus y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cychwyn ar gyfer y Cymoedd gogleddol. Soniodd Hefin David, Llywydd, am drafnidiaeth yn benodol. Bydd ef yn gwybod bod Trafnidiaeth Cymru wedi gostwng prisiau tocynnau gan hyd at 14 y cant yn y Cymoedd gogleddol, yn ei adolygiad o brisiau ddechrau mis Ionawr, ac union ddiben hynny yw gallu meithrin y math o uchelgeisiau a nodwyd gan yr Aelod lleol dros Gaerffili, fel bod mwy o bobl yn gallu teithio i'r gwaith lle mae cyfleoedd yn bodoli, a bod pobl yn gallu teithio o'r tu allan i'r ardaloedd hynny i gyfleoedd sy'n bodoli yn y cymoedd gogleddol hynny—cyfleoedd yr ydym ni'n eu cefnogi gyda rhaglen gwerth £100 miliwn y Cymoedd Technoleg a thrwy'r agenda trawsnewid trefi. Fe'i trafodwyd gennym ni yma yn y Cynulliad yn ystod yr wythnosau diwethaf, ein huchelgais i wneud yn siŵr bod gan y trefi hynny ar draws y Cymoedd gogleddol y seilwaith sydd ei angen arnyn nhw, uchelgais o'r math a nodir yn uwchgynllun cyngor Caerffili ac yna i gefnogi hynny gyda'r camau y mae'r awdurdod lleol yn eu cymryd a'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o'i wneud yn yr ardaloedd hynny.
Prif Weinidog, o ran fy rhanbarth i, mae'n amlwg bod cam olaf ffordd Blaenau'r Cymoedd wrth westy Baverstock yn ddarn pwysig o'r jig-so i wneud yn siŵr bod y ffordd gyfan yn ffordd ddeuol. Rydym ni'n gwybod bod yr oediadau ar yr ochr ddwyreiniol yn amlwg wedi cael effaith ar bwysau cost y prosiect penodol hwnnw. Rydych chi wedi nodi model ariannu newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i ariannu'r cam olaf hwn. A allwch chi roi ymrwymiad, beth bynnag fo'r model ariannu, y bydd yr amserlenni a ragwelir ar gyfer adeiladu yn cael eu bodloni y tro hwn, ac na fyddwn ni'n gweld yr oediadau yr ydym ni wedi eu gweld ar ran ddwyreiniol y prosiect penodol hwn?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn iawn i ddweud y bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r rhannau sy'n weddill o ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac mae'n rhan bwysig iawn o uchelgais y Llywodraeth hon i'r Cymoedd gogleddol bod ffordd ddeuol ar hyd holl Flaenau'r Cymoedd fel bod trafnidiaeth yn dod yn un o alluogwyr yr economi leol honno. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn dosbarthu risg mewn ffordd wahanol rhwng yr ariannwr—Llywodraeth Cymru—a'r contractwr. Ac mae'r risgiau o fethu â chwblhau a llithriadau amser yn llawer mwy gyda'r contractwr yn y model buddsoddi cydfuddiannol ac, am y rhesymau hynny, gallwn fod yn ffyddiog y bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud yn brydlon ac yn unol â'r gyllideb yn wir, oni bai fod materion annisgwyl yn codi yn ystod y cyfnod adeiladu.
Prif Weinidog, mae adfywio'r Cymoedd gogleddol yn gofyn am fwy na dim ond datblygu economaidd a gwell cysylltiadau trafnidiaeth. Mae'n rhaid i ni adfywio'r amgylchedd a sicrhau bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn lleoedd y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddyn nhw.
Prif Weinidog, yng ngoleuni'r sylwadau gan y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol bod y difrod a achoswyd gan storm Dennis yn rhagflas o'r hyn sydd i ddod gan y disgwylir i Gymoedd y de weld 50 y cant yn fwy o law dros y 10 mlynedd nesaf, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau yn y Cymoedd yn fwy cydnerth. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu cydnerthedd? A pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Glo am gyflwr y meysydd glo?
Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna, Llywydd. Rwy'n hapus o hysbysu, yn dilyn cwestiynau yr wythnos diwethaf, bod cyfarfod pellach rhwng swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdod lleol a'r Awdurdod Glo wedi ei gynnal ers y cyfarfod a gadeiriais gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r ddau ohonom ni'n disgwyl adroddiad erbyn diwedd yr wythnos hon, a fydd yn darparu'r wybodaeth ychwanegol yr oeddem ni'n chwilio amdani yn y cyfarfod hwnnw, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, rwy'n gobeithio, ynglŷn â chyflwr presennol diogelwch mewn tomenni glo, ond a fydd yn mynd y tu hwnt i hynny, yn y ffordd y mae'r Aelod wedi awgrymu, i ddarparu asesiad cychwynnol o leiaf o'r hyn y mae angen ei wneud i sicrhau bod y safleoedd hynny'n ddiogel ar gyfer y dyfodol. Ac os ydym ni'n mynd i weld lefel gwahanol o lawiad a gwahanol ddwysedd o ran digwyddiadau tywydd, yna mae'n bosibl na fydd y safonau y dyfarnwyd diogelwch yn eu herbyn yn ystod y degawd diwethaf yn ddigonol ar gyfer y degawd nesaf. A bydd yr adroddiad y byddwn yn ei weld—bydd yn adroddiad cychwynnol erbyn diwedd yr wythnos hon—yn dechrau rhoi rhywfaint o gyngor i ni ar y mater hwnnw a bydd hynny'n rhan o adolygiad tymor hwy o gyfres gyfan o faterion sy'n deillio o'r digwyddiadau ledled Cymru yn ystod y pythefnos neu dair wythnos diwethaf, y byddwn yn ei arwain trwy Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod ein seilwaith ffisegol yn gadarn ar gyfer y dyfodol a'n bod ni'n gwneud popeth y gallwn i ddiogelu'r cymunedau hynny.