Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 3 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:45, 3 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae cynllun gweithredu'r pedair gwlad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos nad yw Cymru wedi rhoi rhai mesurau ar waith eto. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r feirws yn cael ei ystyried yn glefyd hysbysadwy erbyn hyn. Pam nad yw yma? Yn Lloegr, mae pwerau brys eisoes ar waith i ganiatáu i'r heddlu gyfarwyddo a chadw person nad yw'n cydymffurfio â chais i gael ei ynysu os amheuir ei fod yn cario'r feirws, a bydd y pwerau hynny'n cael eu hymestyn i weithwyr meddygol ac iechyd cyhoeddus proffesiynol. A fydd hyn yn digwydd yma? Ac a allwn ni gael diweddariad cyhoeddus dyddiol yn hytrach nag wythnosol, fel sy'n digwydd yn yr Alban, o nifer y profion coronafeirws positif a negyddol?